Bu Mr Iolo Roberts yn aelod o staff yn yr Adran Ymarfer Corff yma yn Ysgol Llanhari ers 1991, yn Bennaeth Blwyddyn am 7 mlynedd ac yn Bennaeth Adran ers 2009.
Bu’n hyfforddi timau mewn amryw o gampau ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion wella’u ffitrwydd drwy chwaraeon o bob math. Mae’n siŵr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn!
O’r maes rygbi a’r cae pêl-droed, i drac athletau, o gwrt badmington i fatiau glas gymnasteg y Gampfa, o lwybrau beicio mynydd a thonau gwyllt y môr i lethrau serth mynyddoedd Cymru.
Joseph a Samuel o Fl.13, dau o fyfyrwyr cwrs Safon Uwch Ymarfer Corff eleni, sydd yn mwynhau sgwrs yng nghwmni Mr Roberts.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.