Listen

Description

Ein Mr Urdd a llawer mwy!

Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon.  Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001.  Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu.

Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran Gymraeg tan y flwyddyn 2021.  Bu’n trefnu Eisteddfodau, teithiau, gweithgareddau, gigs a chyfleoedd di-ri i ieuenctid yr ysgol a’r rhanbarth gan feithrin eu cariad at Gymru a’r Gymraeg ac ennill parch disgyblion.

Eve a Lili-Mei sy’n arwain y sgwrsio a’r hel atgofion am daith iaith Jordan ac am y cyfleoedd brofwyd ganddyn nhw yng nghyfnod Jordan gyda’r Urdd.

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.