Brawd a chwaer o ardal Corneli yn Sir Pen y bont ar Ogwr sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y bennod hon o Lwybrau Llanhari, sef Kathryn Thomas a Rhys Williams.
Mae chwaraeon yn eu gwaed. Ynghyd â’u brawd James, maen nhw wedi serennu ym myd y campau ers eu cyfnod yn Llanhari. Mae ganddyn nhw lu o wobrau cenedlaethol rhyngddynt ac fe lwyddodd un ohonynt i gipio medalau ar lefel Ewropeaidd a’n cynrychioli yn y Gemau Olympaidd. Heddiw cawn glywed mwy am yr ymroddiad personol sydd ei angen i gyrraedd y lefel uchaf a dysgu mwy am eu cyfnod yn Llanhari a’u diddordebau eraill.
Ellis, sydd yn mwynhau jiwdo a phêl-fasged, a Kacey, sy’n athletwraig frwd o Fl.12 sydd yn cael y cyfle i holi’r ddau a chael eu hysbrydoli gan straeon a llwyddiannau Rhys a Kathryn.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.