Miss Davies Daearyddiaeth neu Miss Davies ein Harweinydd Cynnydd yw hi i ni, ond, bydd rhai yma yn ei chofio fel cyn-ddisgybl yn Llanhari rhwng 2007 a 2014.
Mae eraill yn ei hadnabod fel cyd aelod o staff a heddiw cawn gyfle i ddod i adnabod un o gymeriadau Teulu Llanhari, Miss Lauren Davies.
Un o brif ddisgyblion Llanhari a chriw Daear Bl.13 Miss Davies eleni, Betsan, sy’n mwynhau’r sgwrs hon.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.