Un a’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Y Parc ger y Bala yw gwestai’r bennod hon, ond bu Mr Llion Jones yn aelod o’r Adran Gymraeg yn Llanhari ers 1997 a bydd nifer yn ei gofio fel Pennaeth Blwyddyn am gyfnod o 10 mlynedd.
Mae’n siwr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn ac eleni fe gafodd y tri sy’n ei holi, Eve, Owain ac Huw, brofi ei angerdd am y Gymraeg tra’n astudio ar gyfer eu Lefel A yn y pwnc.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.