Listen

Description

‘I’r Gad!’ Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio clywed y gri hon ar hyd coridorau Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o gyn-benaethiaid Ysgol Llanhari, Mr Peter Griffiths.

Ymunodd Mr Griffiths â theulu Llanhari ym 1988 a bu’n bennaeth ar yr ysgol wrth iddi gamu i’r mileniwm.  Yn Gymro i’r carn, yn gefnogwr rygbi brwd ac yn addysgwr ysbrydoledig. 

Diolch i Elen ac Esmay am yr holi gofalus ac i Mr Griffiths am ymweld â’r ysgol a rhoi o’i amser i rannu ei brofiadau, ei straeon diddorol a’i angerdd dros Lanhari.

Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.