Sgwrs yng nghwmni cyn bennaeth Ysgol Llanhari, Rhian Phillips, sy’n agor penodau 2025 podlediad Llwybrau Llanhari.
Daeth Mrs Phillips i Lanhari yn 2003 fel Dirprwy ac yna yn 2014, wrth i'r ysgol ddathlu’r 40, penodwyd Mrs Phillips yn Bennaeth ar yr ysgol yn ystod cyfnod cyffrous o newid sylweddol yma’n Llanhari wrth sefydlu a thyfu’r Adran Gynradd.
Braf yw cael croesawi Mrs Phillips yn ôl i'r ysgol am sgwrs yng nghwmni Oliver ac Isla, dau o gyn-ddisgyblion dyddiau cynnar yr Adran Gynradd a Nia, un o brif swyddogion presennol yr ysgol.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.