Listen

Description

Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari?  Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol.

Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988.  Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd!  Mrs Rapsey  - nyrs yr ysgol, ysgrifenyddes y Tîm Arwain, gweinyddwraig o fri a’n ffrind dibynadwy ni oll.

Diolch i Carys a Gwenno am yr holi gofalus ac i Mrs Rapsey am roi o’i hamser i rannu ei phrofiadau a’r straeon diddorol.

Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?

Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.