Listen

Description

Un o ardal Maesteg yw’n gwestai yn y bennod hon a bu’n ddisgybl yn Llanhari dros droad y Mileniwm. Manteisiodd ar gyfleoedd allgyrsiol drwy bob Adran – ar lwyfan, ar faes chwarae a thrwy deithiau niferus. 

Mae’n gymeriad a hanner a chawn glywed sawl stori dda ganddo am ei gyfnod yn yr ysgol, atgofion cynnes am athrawon dylanwadol a chawn glywed sut y bu i Lanhari ennill lle arbennig yn ei galon hyd heddiw. 

Alffi a Bleddyn o Fl.12 sy’n mwynhau’r sgwrs a’r straeon yng nghwmni gwych Rhodri. 

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.