Listen

Description

Un o ardal Pontyclun yw’n gwestai ni heddiw ac er gadael yr ardal am gyfnod i fynd i'r Brifysgol a chrwydro’r byd gyda’i waith, dyn ei filltir sgwar ydyw. Dychwelodd i'r ardal i fagu’i deulu ac i sefydlu busnes.

Mae’n gerddor ac yn grefftwr a chawn glywed sut y bu iddo droi diddordeb a dawn yn yrfa.  Cofia’n arbennig am ddylanwad rhai athrawon a’r gwersi sy’n canu hyd heddiw yn ei feddwl wrth wneud penderfyniadau. 
 
Yn y bennod hon, yng nghwmni Aidan a Joseph o Fl.13, cawn gip ar daith hynod ddiddorol Rhys Thomas, un hanner o’r bartneriaeth  sy’n creu drymiau ‘Tarian’.

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.