Listen

Description

Stacey, Shirley...ond, ein Shelley ni!

Bydd rhai yn ei hadnabod fel Stacey o’r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm,  bydd eraill wedi’i gweld yn ddiweddar ar lwyfannau Cymru yn y ddrama Shirley Valentine, bydd nifer ohonom yn gwrando arni ar Radio Cymru ar fore Sadwrn...gwestai’r bennod hon yw'r actores, y cyflwynydd, y cynghorydd a’r cynhyrchydd Shelley Rees. 

Diolch i Ava a Mali am y sgwrsio a’r holi bywiog, cynnes yn y bennod hon.

Eleni, bydd Ysgol Llanhari a’r gyfres deledu Pobl y Cwm yn dathlu eu pen-blwydd yn 50. Diolch i Shelley am ein helpu i ddathlu a chofnodi’r dwbl pwysig hwn!

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.