Cyngor Sir Ynys Môn yw awdurdod llywodraeth lleol Ynys Môn, sy’n gartref i dros 69,000 o bobl. Mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, llyfrgelloedd, rheoli gwastraff, cynllunio, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol, safonau masnachu a diogelwch tân a’r cyhoedd ac felly, mae’r ystod o bosibiliadau gyrfaol y mae’n cynnig yn eang iawn. Gan fod y Cyngor Sir yn gweithredu’n ddwyieithog, mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn allweddol i nifer fawr o swyddi.