Mae Rhys Yaxley o ardal Glyn Dyfrdwy yn berson sy’n hoffi cerddoriaeth, cymdeithasu ac antura. Wrth ei waith mae’n seicotherapydd sy’n treulio rhan fwyaf o’i amser yn gweithio efo cartrefi plant. Yn y bennod hwyliog hon, bydd Rhys ac Alaw yn sgwrsio am bethau fel pŵer cerddoriaeth, pwysigrwydd gwthio ein hunain i wneud pethau anghyfforddus, be ydi rhyddid a pam y bysa Rhys y person gwaetha’ i’w herwgipio…
Ewch i'n gwefan www.nerthdyben.cymru i ddarganfod mwy am ein gwaith