Listen

Description

Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

Seicolegydd Chwaraeon a darlithiwraig ym Mhrifysgol Bangor ydi Dr Eleri Jones. 

Yn y bennod hon bydd Alaw ac Eleri yn sgwrsio am bethau fel; be ydi seicoleg chwaraeon a sut y gallwn ni gyd elwa ohono. Sut mae bod yn rhan o dîm yn chwarae rôl mewn bywyd bob dydd? A pwysigrwydd y petha' allwn ni ei wneud, ermwyn ‘nabod ein hunain yn well.