Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?
Therapydd a hyfforddwr personol o Ynys Môn ydy Sara Mai sy’n cyfuno’r ddau sgil i gynnig seicffit, math o therapi sy’n defnyddio ymarfer corff i helpu ni siarad. Yn y bennod hon bydd Alaw a Sara yn trafod pwer ymarfer corff a symyd, y pwysigrwydd o beidio cymharu ein hunain âg eraill, bywyd mewn degawdau a fersiwn newydd o’r gân pen, ’sgwydda, coesa’, traed…