Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?
Fe adawodd Cadi Mai Ben Llŷn am Vietnam bron i chwe mlynedd yn ôl. Mae hi wedi ymgartrefu yno bellach ac yn gweithio fel athrawes mewn ysgol. Dyma sgwrs gonest, hwyliog ac adlewyrchol rhwng Alaw a Cadi sy’n sôn am sut a pham mae rhywun yn gallu newid eu bywyd er gwell.