**Mae'r bennod yma yn cynnwys sgwrs am farwolaeth a rhoi organnau**
Mae gan Lois Owens o Bwllheli stori eitha’ anghyffredin. Mae hi’n byw gyda chyflwr ar yr iau sy’n golygu ei bod hi wedi gorfod cael tair trawsblaniad trwy gydol ei bywyd. Dyma sgwrs ddiddorol rhwng Alaw a Lois sy’n trafod pwysigrwydd rhoi organnau, cael stwythr cadarn i fywyd a sut mae rhywun yn dygymod a dod dros sefyllfaoedd heriol fel un Lois – yn gorfforol ac yn feddyliol.