Podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny. Alaw, sylfaenydd Nerth dy Ben, sy'n chwilio am yr atebion trwy gael sgyrsiau gonest, hwyliog ac annisgwyl efo cymeriadau lliwgar o bob cwr o Gymru.
Peilot ydi Robin Aled, yn wreiddiol o Rhostryfan. Er ei fod yn trafeilio’r byd, mae Robin yn cario ei Gymreictod ar ei gefn i ble bynnag mae’n mynd. Dyma sgwrs hamddenol rhwng dau ffrind sy’n cyffwrdd ar themau megis dyfalbarhad, dysgu a phwysigrwydd gwarchod y bobl sydd o dy gwmpas.