podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Dr. Richard Hanner
Shows
Yr Hen Iaith
Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America
Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni. Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiwn yn y stori honno a thrafod yr unig gerdd a gyfansoddwyd gan y bardd enwog o Fôn yn America sydd wedi goroesi. Ond...
2025-11-20
29 min
Theology, Things & Stuff
Bible School vs. Seminary - Dr. Richard Hanner | Theology, Things & Stuff #014
Dr. Richard Hanner is a longtime teacher and leader in the Body of Christ. As a vocational church planter, Dr. Hanner pioneered Courts of Praise Christian Center in LaGrange, Georgia, and served there through its 10th year. In 1989, he accepted a faculty position at Christ For The Nations Institute (CFNI) in Dallas, Texas. This role allowed him to serve as Dean of Students and Professor of New Testament during his 17 years of full-time and adjunct tenure.In May 1995, while at CFNI, Dr. Hanner led a team to plant Redeemed Community in the inner city...
2025-10-07
1h 49
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Taliesin
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol...
2025-04-17
05 min
Yr Hen Iaith
Pennod 47 - 'Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod. Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir hanesyn am uchelwr a ddangosodd ddirmyg i fardd mawl mewn...
2024-08-15
35 min
Yr Hen Iaith
Pennod 36 - Elis Gruffydd (Rhan 1)
Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysg...
2024-03-14
58 min
Yr Hen Iaith
Pennod 34 - Cyfnod Newydd?
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth...
2024-02-15
40 min
Yr Hen Iaith
Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘b...
2023-11-09
30 min
Beti a'i Phobol
Felicity Roberts
Felicity Roberts yw gwestai Beti George. Mae Felicity yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint St Gerard’s Bangor. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi gael addysg...
2023-10-22
48 min
Yr Hen Iaith
Pennod 22 - Calon Oer dan Fron o Fraw
Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o dd...
2023-08-31
33 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022
Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effectsA phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?Beti a Beks ...
2022-04-05
15 min
Yr Haclediad
Spring Breykjavik
Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd - mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. Gei di weld os ‘di’n gweithio. Mwy am Siri a Gwlad yr Iâ, newidiadau bywyd o Facebook F8, Fitbit data yn y cwrt a llwythi mwy (yn cynnwys hanner awr arall o rambles i helpu ti gysgu, iei!) Cofia roi seren-neu-bump i ni ar iTunes, ac os ti awydd, beth am roi adolygiad i ni gael gwybod be ti’n meddwl? Ffankiw! O.N. gan Ie...
2017-05-04
1h 27
Courts of Praise_Podcast
#3 June Conference-Egalitarian Vs. Complimentarian.6.23.08.by Richard Hanner
2008-08-19
00 min
Courts of Praise_Podcast
#2 June '08 Conference-Tongues as a Sign by Richard Hanner
2008-07-18
00 min
Courts of Praise_Podcast
#1 June '08 Conference -Tongues by Richard Hanner
2008-07-18
00 min