podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Elliw Gwawr
Shows
Gwleidydda
Ffordd goch Gymreig?
Wythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r pôl piniwn gyda blwyddyn i fynd cyn etholiad y Senedd.
2025-05-07
33 min
Gwleidydda
Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau?
Ar ôl i'r Senedd gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru mae Elliw Gwawr yn ymuno â Richard a Vaughan i drafod y cyfan. Mae'r tri hefyd yn dadansoddi sut mae'r pleidiau yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 a'r tensiynau all godi ymhlith y pleidiau.
2025-03-05
25 min
Gwleidydda
Diwygiad ar Droed?
Gyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
2025-02-19
26 min
Walescast
Is there a place for faith in Politics?
Felicity Evans and guest presenter Elliw Gwawr discuss faith and it's role in politics with Canon Aled Edwards, Senedd Member and Patron of Humanists UK Julie Morgan MS and the FT's Whitehall Editor Lucy Fisher. Our Political Editor Gareth Lewis also joins the pod to discuss the quarter of Welsh Labour MS' who have announced they will stand down at the 2026 Senedd elections. That busy schedule is rounded off with a final farewell to Walescast's Producer Andy Fry who is leaving BBC Wales after three decades.
2025-02-13
35 min
Gwleidydda
Llafur Caled
Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?
2025-01-15
26 min
Walescast
Taxing Talk and DJ sets
Felicity Evans and Elliw Gwawr are joined by Helen Miller of the Institute of Fiscal Studies to dig deep into the changes to inheritance tax for farmers announced in the Budget and attempt to get a number for how many Welsh farms could be affected. And BBC Wales political correspondent Rhodri Lewis looks back at the Welsh Labour party conference in Llandudno - which saw farmers protesting outside and the FM Eluned Morgan DJing inside
2024-11-21
40 min
Walescast
"It's a Deal..."
Felicity Evans and Elliw Gwawr discuss the small print of the deal between Tata Steel and the UK Government that paves the way for the building of a greener electric arc furnace at the company's Port Talbot plant with the Guardian's Kiran Stacey. Plus who's got what job in the reshuffled cabinet of the new First Minister, Eluned Morgan.
2024-09-12
34 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024
Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent CemeteryYmddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological TrustDdaru nhw Wnaethon nhwYmchwil ResearchDogfennau DocumentsOes Victoria Victorian AgeEh...
2024-02-06
13 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 88 - Elliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol, llais cyfarwydd ar gyfryngau Cymru, awdur llyfrau coginio, a ffan mwyaf y podlediad hon... Elliw Gwawr yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-05-11
1h 03
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Fai 2023
Pigion Dysgwyr – Sioned LewisSioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n ifancach...Pwdu ...
2023-05-09
12 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022
Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special qualityGeraint...
2022-03-01
17 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021
1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Ang...
2021-11-12
18 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 27ain Awst 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros GinioPadlfyrddio - Paddle boardingBuddsoddi - To investAnsawdd - QualityHyfforddwyr - TrainersGorbryder ...
2021-08-27
13 min
Podlediad Cymru Fyw
Be’ nesa’ ar ôl yr etholiad?
Alun Thomas, Elliw Gwawr a Teleri Glyn Jones sy'n trafod...
2021-05-10
26 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: ELLIW GWAWR
Cyfweliad a hanner wythnos hon! ''Cymraeg, ffeminist a phesimist'' (ei geiriau hi) Elliw Gwawr sy'n darlledu ar y teledu a'r radio am faterion seneddol a gwleidyddol yn San Steffan. Yn ogystal â hynny, mae hi hefyd yn sgrifennu llyfrau coginio ac yn fam frysur i ddau o fechgyn bach. Pleser oedd cael siarad â hi yn ddiweddar, dros zoom wrth gwrs, a fe nes i rili fwynhau ei chwmni (yn rhithiol). Sgwrs am wleidyddiaeth, darlledu, coginio, yr iaith Gymraeg, a chyfle i ddysgu lot fwy amdani drwy ofyn y 10 cwestiwn chwim! Mwynhewch y sgwrs, ac eto, cofiwch i wrando ar y pe...
2021-02-25
40 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi TirPencampwriaeth y Chw...
2021-02-12
16 min
Gwleidydda
Cytundeb masnach ar y dibyn?
Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.
2020-12-11
23 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 16eg-22ain
John Davies, Elliw Gwawr, Helgard Krause, Leah Marian, Rhian Lois ac Annaly Jones
2019-06-25
13 min
Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Elliw Gwawr
Sgwrs rhwng Elis James a'r gohebydd seneddol a'r awdur Elliw Gwawr. Mae'r ddau'n trafod cefndir ieithyddol Elliw a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ond sydd bellach yn byw yn Essex ac yn trio magu plentyn dwyieithog yn ne ddwyrain Lloegr. Clywn am y penderfyniadau ieithyddol bwysig wrth sgwennu llyfrau coginio poblogaidd, ac am yr her o gyfathrebu'n glir ar y teledu a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol wrth ohebu mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus.
2019-05-24
1h 00
Yr Haclediad
Episode 24: 24: Yr un efo Elliw!
Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach. Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei gorau i gadw trefn. Gadewch i’r rhefru ddechrau… O.N. Mi gafwyd hwn ei recordio pythefnos yn ôl, oherwydd materion y meddwl dim ond rŵan mae’n cael ei gyhoeddi. Ymddiheuriadau. The post Haclediad...
2012-10-23
58 min