podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Hansh
Shows
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Ceri Siggins
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Ar bennod olaf y gyfres mae gwyneb Hansh, Ceri Siggins. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2024-01-12
27 min
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Mared Jarman
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ymuno â Lloyd wythnos yma mae’r actores Mared Jarman. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2024-01-05
39 min
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Alaw Haf
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ymuno â Lloyd wythnos yma mae Alaw Haf, glamour model a chrëwr cynnwys. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-12-29
21 min
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Harry Hambley
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn y bennod newydd mae seren cyfryngau cymdeithasol a chrëwr y ‘Bean’, Harry Hambley aka Ketnipz, yn ymuno â Lloyd i drafod celf a socials. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-12-22
34 min
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Mared Parry
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ail bennod y gyfres mae cyflwynydd Tisho Fforc? a seleb spotter Hansh, Mared Parry yn ymuno â Lloyd i drafod selebs. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-12-15
36 min
Hansh
Pwy Sy’n Galw? | Jac Northfield
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Ym mhennod gynta'r gyfres newydd mae’r cyflwynydd Hansh, Jac Northfield yn ymuno i ateb cwestiynau ar bywyd myfyriwr. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-12-08
30 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Gwenllian Ellis
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhob pennod bydd y ddau yn gofyn cwestiynau a dilemas doniol i westai arbennig! Ar y rhaglen heddiw mae Gwenllian Ellis, awdures sydd newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf am gariad a rhyw!
2023-03-21
30 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Katie Owen
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn ymuno â'r criw yn y bennod yma yw'r DJ, cyflwynydd a'r dysgwr Cymraeg, Katie Owen.
2023-03-21
24 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Gwion Ifan
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cyflwynydd Hansh, Gwion Ifan yn ymuno â'r deuawd direidus i drafod dilemas bwyd!
2023-03-21
16 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Brett Johns
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn y drydedd bennod, mae'r ymladdwr MMA Brett Johns yn ymuno â nhw i drafod chwaraeon a'r UFC!
2023-03-15
37 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Catrin Feelings
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn yr ail bennod, mae'r Frenhines Drag Catrin Feelings yn ymuno â nhw i drafod nosweithiau allan a'r sîn drag yng Nghymru!
2023-03-15
30 min
Hansh
Pwy Sy'n Galw? | Sage Todz
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod gynta'r gyfres mae'r rapiwr Sage Todz yn galw heibio i ateb cwestiynau cerddorol. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-03-15
29 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - CHWARAEON A FFITRWYDD
Roly polies, gwersi ffitrwydd a marathons. Yn bennod olaf y gyfres mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn trafod probs mwyaf chwaraeon a ffitrwydd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-02-13
20 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - IECHYD MEDDWL
RHYBUDD – Mae’r pennod yma yn trafod iechyd meddwl ac hunanladdiad. Am gymorth a help ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/ Ar bennod newyd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod iechyd meddwl. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-01-30
28 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - RHYW A RHYWIOLDEB
Ar bennod newydd Probcast mae Amber, Hollie, Mared a Beth yn trafod eu probs rhyw a rhywioldeb. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-01-16
28 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - HUNAN DDELWEDD
Mae 'na lot o bwysau i newid yn y flwyddyn newydd, felly ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod hunan ddelwedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2023-01-05
29 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - PARTIOEDD
Teimlo’n burnt out o’r holl bartis ‘Dolig? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn rhannu eu problemau partioedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2022-12-19
23 min
Hansh
Hansh - PROBCAST - GORO NEUD
Mae merched Probcast nôl am gyfres newydd! Ym mhennod gyntaf y gyfres mae Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn trafod ffilmio ‘Goro Neud’, eu cyfres teithio newydd ar Hansh. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
2022-12-05
30 min
Pod Profi
#2 Hannah Beth; Llawrydd; Diwydiannau Creadigol a Digidol
Podlediad Cymraeg gyda Hannah Beth | A Welsh podcast with Hannah BethDechreuodd Hannah Beth ei gyrfa yn y cyfryngau yn dilyn ymddangosiad yn canu ar raglen sioe dalentau “Waw Ffactor” a gynhyrchwyd gan Avanti. Cafodd hi wedyn y cyfle i gyflwyno sioe chwaraeon eithafol i blant o’r enw “Stamina” a gomisiynwyd am 4 cyfres a gynhyrchwyd gan Avanti. Yn dilyn hynny, dechreuodd hi actio cymeriad ar raglen i blant “Igi Tigi Bip a Bop”. Yn dilyn hynny dechreuodd hi weithio i Tinopolis yn Llanelli lle dysgodd lawer am cyn ac ôl-gynhyrchu rhaglen llwyddiannus. Ers symud ymlaen o Tinopolis, mae hi wedi myn...
2022-11-29
27 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #6 - TEITHIO
Beth yw probs fwyaf teithio? Gwrandewch ar bennod olaf Probcast i weld beth mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn meddwl.
2021-11-15
23 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #5 - TECHNOLEG
Teimlo fel deinosor pan mae’n dod i dechnoleg? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn rhannu eu problemau technoleg.
2021-11-08
25 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #4 - CYMDEITHASU A FFRINDIAU
Beth yw ‘social battery’? Ar bennod newydd Probcast wythnos yma mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn rhannu eu problemau cymdeithasu a ffrindiau.
2021-11-01
23 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #3 - GWAITH AC ARIAN
Wythnos yma mae Mared, Hollie, Amber a Beth yn trafod problemau gwaith ac arian. Faint o gynulleidfa Hansh sydd erioed wedi tynnu sickie? 🤒 Gwrandewch a thanysgrifiwch!
2021-10-25
19 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #2 - PERTHNASOEDD A DATIO
Cheto, ghostio a pwy sy’n talu ar y dêt cyntaf? Wythnos yma ar Probcast mae Amber, Mared, Beth ac Hollie yn trafod perthnasoedd a dateio. Cofia danysgrifio!
2021-10-18
27 min
Hansh
Hansh - PROBCAST #1 – CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno’u hachosion i’r cadeirydd a’r achos gwaethaf sy’n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.
2021-10-11
24 min
Hansh
GIGIO #6 - Iwan Fôn (Podcast Hansh)
Hywel Pitts sy'n cyfweld Iwan Fôn (Y Reu, Kim Hon, Rownd a Rownd) y tro hwn am ei gigs cyntaf, gwneud stand-up, moonio ar y llwyfan a'r noson nath o sleifio i weld Oasis. Tanysgrifiwch / Gwyliwch / Gwrandwch / Mwynhewch!
2021-07-12
26 min
Hansh
GIGIO #5 - Glain Rhys (Podcast Hansh)
Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi'r cantores Glain Rhys am bob dim gigs, gan gynnwys perfformio yn Phantom of the Opera, Tafwyl, Sesiwn Fawr a mwy! Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i bodlediad Hansh.
2021-07-05
26 min
Hansh
GIGIO #4 - Lewis Williams (Podcast Hansh)
Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi drymiwr Swnami a Candelas - Lewis Williams - am bob dim gigs. Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i podlediad Hansh.
2021-06-28
27 min
Hansh
GIGIO #3 - Esyllt Sears (Podcast Hansh)
Hywel Pitts sy'n cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a’r gyntaf! Sgwrsio gydag Esyllt Sears y tro hwn.
2021-06-21
29 min
Hansh
GIGIO #2 - Morgan Elwy (Podcast Hansh)
Hywel Pitts sydd yn cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a’r gyntaf! Ennillydd Can i Gymru 2021 Morgan Elwy sydd yn cael ei holi am barn dances trychinebus a’r profiad o recordio yn Zurich! Tanysgrifiwch yma!
2021-06-14
26 min
Hansh
GIGIO #1 - Al Parr (Podcast Hansh)
Cyfres newydd gan Hywel Pitts!
2021-06-07
27 min
Hansh
2020 CB2... Caryl Bryn a Carwyn Bach
Mae Caryl Bryn a Carwyn Bach yn edrych yn ol ar ddigwyddiadau mawr o 2020, ac yn sgwrsio am be mae nhw'n edrych ymlaen iddo yn 2021. Cathod, The Crown, Eurovision, TikTok, Brexit, COVID a llawer mwy!
2020-12-28
25 min
Hansh
Arbed Arian... Melanie a Geraint
Yda chi angen tips ar syd i edrych ar ol eich arian? Ar syd i brynu y pethau iawn? Ar syd i gychwyn busnes eich hyn?! Gyda phawb yn gwario ac arian yn dynn, mae Geraint Iwan yn holi'r entrepreneur Melanie Carmen Owen am air o gyngor i arbed arian yn ein podlediad mis yma.
2020-11-27
31 min
Hansh
Calan Gaeaf Iwan a Caryl
I ddathlu Calan Gaeaf, mae Caryl Bryn ac Iwan Pitts yn gwrando ar amryw o straeon ysbryd, a gwneud Tarot reading...
2020-10-31
31 min
Hansh
Mali a Melanie
Yn ein podcast mis yma mae’r entrepreneur Melanie Carmen Owen a’r actores Mali Ann Rees yn trafod Mis Hanes Pobl Ddu.
2020-10-17
29 min
Учим китайский!
Стихотворение «Ночью причалил к мосту Клёнов»
Лилия У в передаче «Учим китайский!» предлагает прочитать стихотворение 楓橋夜泊– «Ночью причалил к мосту Клёнов», которое написал поэт династии Тан – 張繼 Чжан Цзи. Ночью причалил к мосту Клёнов 楓橋夜泊 Fēngqiáo yè bó Месяц заходит, вороны кричат, небосвод затянут инеем, 月落烏啼霜滿天, Yuè luò wū tí shuāng mǎn tiān, Мост Клёнов да огни фонарей – свидетели моего печального ночлега. 江楓漁火對愁眠。 Jiāng fēng yúhuǒ duì chóu mián. За стенами Гусу из храма Ханьшань, 姑蘇城外寒山寺, Gūsū chéng wài Hánshānsì, Доносится до лодки полуночный звон колокола. 夜半鐘聲到客船。 Yè bàn zhōngshēng dào kè chuán. Теперь давайте разучим отдельные фразы и слова вместе с ведущей в эфире!
2020-09-07
00 min
Hansh
Sefyll Allan... Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd
Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd sydd yn trafod dod allan, materion LGTBQIA+, a pam bod Ifan ddim yn hoffi Pride. Gwyliwch y fideo yma - https://www.youtube.com/watch?v=VrHRovyUp6s
2020-08-30
42 min
Hansh
Sesh Maes Barcar
Llynedd, mi wnaeth Llyr Jones (Pasta Hull) trefnu gig bythgofiadwy munud olaf ‘Sesh Maes Barcar’ yn ystod wythnos ‘steddfod yn Llanrwst pan wnaeth storm canslo Maes B. Yn y podlediad yma, mae Geraint Iwan yn holi Llyr ac Iwan Fôn am y digwyddiad yna (a mwy).
2020-08-02
26 min
Ystafell Werdd Ieuan Rhys
Rhianna Loren
Actores ifanc o Ystrad Mynach yn son am bwysigrwydd Theatr Mewn Addysg a sut ga’th hi rhan Esyllt Ethni Jones yn y gyfres ‘Hansh’.
2020-07-29
35 min
Hansh
Sefyll Allan... Al Parr a Lloyd Steele
Yn y podcast yma mae Al Parr a Lloyd Steele yn trafod dod allan, y symudiad Black Lives Matter, y gymuned LGBT a mis Pride. Hefyd yn cael ei drafod mae Grindr a Little Britain, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. In this podcast, Al Parr and Lloyd Steele discuss coming out, the Black Lives Matter movement, the LGBT community and Pride month. Also debated is Grindr and Little Britain, which have been in the news recently.
2020-06-28
38 min
Hansh: Blas Cyntaf
Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?
Gyda phrotestiadau Black Lives Matter yn digwydd ledled y byd, mae Nia Morais a Marged Parry yn siarad am hiliaeth yn yr ysgol a'r gwahaniaeth y byddai addysgu pobl am hanes BAME yn ei wneud. Mae nhw'n trafod profiadau Nia o hiliaeth, pwysigrwydd dysgu am lenyddiaeth awduron BAME, a sut y gallwn gadw'r sgwrs i fynd.
2020-06-16
24 min
Hansh
Iechyd Meddwl... Caryl a Meilir
Good Grief! Actor ydi Meilir Rhys - ac mae pawb wedi hen arfer ei weld ar sgrîn, ond ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Meilir a Caryl Bryn yn sgwrsio a thrafod galar, gorbryder... Ru Paul.
2020-05-24
32 min
Hansh
Y GOFID Gareth a Rhys
Mae Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor wedi bod yn brysur yn ystod y lockdown yn creu cynnwys i Hansh. Dyma sgwrs rhwng y ddau wrth iddynt drafod be mae nhw wedi bod yn ei neud!
2020-05-03
30 min
Hansh
Podcast Lŵp - Elis Derby yn holi Osian Candelas
Elis yn holi Osian am ei fywyd fel cerddor yn ystod COVID-19. Hefyd hanes Y Sesiwn Adre diweddar wnaeth Osian i Lŵp, ynghyd a'r gerddoriaeth a'r teledu y mae o'n eu mwynhau wrth hunan ynysu.
2020-04-06
16 min
Hansh: Blas Cyntaf
Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe
Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac yn rhoi tipiau ar sut i gadw i fynd pan ma’ pethau yn mynd yn anodd. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref. Nodyn: Recordiwyd y podlediad cyn i’r canllawiau presennol o hunan-ynysu COVID-19 ddod yn weithredol.
2020-04-01
21 min
Hansh
Be di'r Hanes... Iwan a Rhys
Be di hanes Be Di'r Hanes? Iwan Pitts a Rhys Iorwerth sy'n trafod y gyfres hanes wedi'w animeiddio - Be di'r Hanes?
2020-03-09
26 min
Hansh
Actio Ambwyti
Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio. Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.
2020-02-05
36 min
Hansh
High & Dry gyda Iwan a Sion
Iwan Fon a Sion Gwyn yn trafod syt mae'r her 'High and Dry' yn mynd! Dros y mis diwethaf mae nhw a grwp o ffrindiau wedi bod yn codi arian i Tim Achub Mynydd Llanberis wrth drio dringo y nifer uchaf o droedfeddi a maent yn medru ei wneud fel grwp dros fis!
2020-01-30
25 min
Hansh: Blas Cyntaf
Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau
Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision addunedau blwyddyn newydd; pam eu bod yn methu, sut i ddewis yr addunedau cywir a sut mae’u cadw nhw; er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’n meddylfryd a’n hapusrwydd. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref.
2020-01-24
28 min
Hansh
Gweledigaethau 2020
Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.
2020-01-17
24 min
Hansh
Hwyl yr Wyl - Gareth a Rhys
2019-12-23
40 min
Hansh: Blas Cyntaf
FFOTOPOD #1 - Daf a Rob
Mae'r ffotograffwyr Dafydd Nant a Rob Holding yn siarad am technegau ac yn rhoi tips tynnu lluniau.
2019-12-20
32 min
Hansh: Blas Cyntaf
Nadolig Y Morgans
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion ddanfon dad i A & E un 'Dolig? RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!
2019-12-19
20 min
Hansh: Blas Cyntaf
Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini
Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion...
2019-12-05
20 min
Hansh
HMS Morris yn Japan... Heledd a Rhys yn trafod
Heledd Watkins o HMS Morris a Rhys Gwynfor yn trafod taith ddiweddar HMS Morris i Japan, oedd digwydd bod yn cyd fynd a Chwpan Rygbi'r Byd. Hefyd yn cael ei drafod, cathod, bwyd, ac ychydig bach am goed Nadolig.
2019-11-25
34 min
Hansh
Calan Gaeaf Gareth a Rhys
Mae'n wythnos Calan Gaeaf! Dyma Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor i drafod diwrnod mwya sbwci y flwyddyn! Cofiwch wylio gig HyWelsh ar Facebook Hansh yn fyw Nos Iau am 7.
2019-10-29
49 min
Hansh: Blas Cyntaf
Cysgu ("Awen" a "Sheila")
Mae Awen (Caryl Bryn) a Sheila (Mared Llywelyn) yn mynd i helpu chi ymlacio a disgyn i gysgu yn y podlediad arbennig ASMRaidd yma. Os oes ganddo'ch awydd wneud podlediad i Hansh, cysylltwch - hansh@antena.co.uk
2019-10-25
20 min
Hansh: Blas Cyntaf
Taith i'r Craidd
Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.
2019-10-24
28 min
Hansh
Dreigiau Digartref (Osian a Geraint)
I gyd fynd efo'n ffilm 'Dreigiau Digartref' dyma podcast diweddara HANSH, lle mae Geraint Iwan yn sharad efo Osian Lloyd, a oedd yn chwarae dros Gymru yng Ngwpan Digartrefedd Y Byd.
2019-10-18
46 min
Hansh
Iawn Jonis?....Y Podlediad
Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd. RHYBUDD - Mae’r podlediad hwn cynnwys iaith gref a thrafodaeth am r...
2019-10-15
28 min
Hansh: Blas Cyntaf
Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?
Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi
2019-09-27
24 min
Hansh
Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif
Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.
2019-09-09
31 min
Hansh: Blas Cyntaf
Panad Parr #1 - Stacy Winson
Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacy Winson, dynas trawsrywiol o Lanrug, sy'n trafod Pride, dod allan, troseddau casineb ac agwedd tuag at fywyd, yn ogystal a cael panad o de fintys.
2019-08-29
31 min
Hansh: Blas Cyntaf
Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie
Ydyn ni’n siarad digon am ryw yng Nghymru? Yn y podlediad hwn ma’ Elin Meredydd a Katie Hall yn trafod un o’u hoff bynciau - rhyw: Gan rannu eu straeon a’u profiadau personol mewn ffordd agored ac weithiau graffig. Mae’r sgwrs rywiol amrywiol yn neidio o ddirgrynwyr i siâp y serfics, o iechyd rhywiol i beli siglo ac mae gan Elin rhywbeth go arbennig i ddangos i Katie. RHYBUDD: MAE’R PODLEDIAD HWN YN CYNNWYS PYNCIAU GRAFFIG AEDDFED AC IAITH GREF SYDD YN ANADDAS I BLANT A GWRANDAWYR IFANC Do we talk about...
2019-08-22
23 min
Hansh
Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam
Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digid...
2019-08-05
32 min
Hansh
Cymru Wyllt: Mari a Geraint
Geraint Iwan sy'n holi Mari Huws, y ffilmwneuthurwr ifanc, sydd yn trafod y ffilm ddogfen newydd Wythnos Yng Nghymru Wyllt, ffilm sy'n dilyn taith Mari i galon Ceredigion i ddarganfod mwy am y prosiect dadleuol sydd ar gychwyn yno i adael 10,000 hectar o'r tir fynd nôl yn wyllt. Gwyliwch y ffilm yma - https://youtu.be/-0gXEKlm8FU
2019-07-22
32 min
Hansh
Clwb 26-30 Mir a Tom: Mooncups, Mêl a Malu Cachu
Croeso i Glwb 26-30 Mir a Tom! Yn y podlediad hwn bydd Tomos Dafydd a Miriam Isaac yn trafod penblwyddi trychinebus, gwyliau cerdd yr haf ac enwau babi rhyfedd. Pam fod Miriam yn cysgu gyda chyfrifiannell? Beth oedd Bryn Terfel yn meddwl o Tomos? A beth sydd yn gyffredin rhwng Love Island a Golden Balls? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant. Welcome to Mir and Tom’s Club 26-30! In this podcast, Tomos Dafydd and Miriam Isaac discuss bad birthdays, this summer’s music festivals and weird baby names. Why did Miria...
2019-07-10
32 min
Hansh: Blas Cyntaf
Hollol Nyts....gyda Meleri ac Anna
Bydd chwarter ohonon ni yn cael ein heffeithio gan alergedd rhywbryd yn ystod ein bywyd. Ydy cael alergedd yn golygu stopio bwyta mas a newid ein ffordd o fyw? Beth ddylech chi neud os chi’n meddwl bod alergedd gyda chi? Sut ma’ helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd? Yn y podlediad hwn bydd Meleri ac Anna yn trafod y pwnc, yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi tips ar beth i neud os oes alergedd (neu fod chi’n meddwl bod alergedd) gyda chi. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn...
2019-07-05
18 min
Hansh
Genod Gwaedlyd
Croeso i gwrt y Genod Gwaedlyd! Yn y podlediad hwn bydd Hanna Jarman a Mari Beard, ysgrifenwyr Merched Parchus a connoisseurs y byd gwir drosedd, yn trafod sut nath serial killers ysbrydoli nhw i ysgrifennu’r gyfres. Mae’r pynciau eraill yn y doc yn cynnwys: Pa bodlediadau gwir drosedd dyle bod chi’n gwrando arno, pam fod Ted Bundy yn gymaint o sylwhead a pam fod Florida mor weird? *RHYBUDD *- yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant. Merched Parchus ar S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541 I...
2019-06-10
28 min
Hansh: Blas Cyntaf
Ramadan dan sylw: Rhoi Eid yn ei le gyda Ameer a Yasmin
Yn y podlediad hwn bydd Ameer Rana yn sgwrsio â Yasmin Begum o Gaerdydd ar adeg bwysig yn y calendr Mwslimaidd: Ramadan ac Eid . Maent yn trafod mynd i’r mosg, sialensau ymprydio a’u hatgofion o dyfu fyny a dathlu’r gwyliau yng Nghymru: Beth y’ch chi’n cael neu ddim yn cael neud yn ystod Ramadan? Yw ymprydio’n dda i’r corff? A pham mae Ramadan mor bwysig yn Islam? Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref! In this podcast Ameer Rana chats with Yasmin Begum from Cardiff during an important time in the Muslim calendar: Ramadan and Eid. They...
2019-06-05
17 min
Hansh: Blas Cyntaf
Safio'r Byd efo Dan a Tom
A fyddai feganiaeth yn atal cynhesu byd-eang? Ydi Arnold Schwarzenegger yn arwr? Ydi Greta Thunberg jyst yn dojio ysgol? Oes unrhywun yn licio quiche? Tom ap Dan a Daniel Griffith sy'n trafod troi'n fegan, strapio uzi i fochyn, a thaflyd ysgytlaeth ar wleidyddion i SAFIO'R BYD.
2019-05-22
31 min
Hansh
Elena Cresci: Muay Thai ar y meddwl
Yn y podlediad hwn bydd Miriam Isaac yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Elena Cresci am ei siwrnai chwyldroadol o’r ystafell newyddion i’r cylch bocsio Muay Thai. Mae Elena yn sôn am beth yrrodd hi i drawsnewid o nofis dibrofiad i ennill yn y cylch; sut mae bob cic a bob dyrniad yn helpu iddi frwydro salwch meddwl; a’u breuddwyd o gerdded allan i’r cylch i gerddoriaeth Dafydd Iwan! RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant. In this podcast Cai Morgan chats to journalist Elena Cresci about steppi...
2019-05-13
36 min
Hansh: Blas Cyntaf
Fel i Fod yn Ffeminist
Beth yw pwynt ffeministiaeth? Oes dal ei angen e yn 2019? Oes digon o ferched yn y diwydiant cerddoriaeth? Bydd Hollie a Gwenllian o'r band Adwaith yn trafod y pwnc a'u profiadau nhw o fod yn ferched ar y sîn gerddorol: Beth yw ffeministiaeth? Pam fod e dal yn bwysig heddiw?….A pham fod rhaid i fwy o ferched bigo lan offeryn a chamu ar y llwyfan. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref! What’s the point of feminism? Do we still need it in 2019? Are there enough women working in the music industry? Hollie and Gwenllian from the b...
2019-05-09
25 min
Hansh
Esyllt Ethni-Jones yn cyflwyno: Iwan a Rhianna
Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!
2019-04-25
22 min
Hansh: Blas Cyntaf
MADLIBINOGION gyda Elis a Tomos
Mae MADLIBINOGION yn cyfuno chwedlau’r Mabinogi a’r gêm geiriau Mad Libs. Yn y bennod gyntaf (ac, o bosib, yr olaf) mae Elis Derby a Tomos Morris-Jones yn chwarae ac yn ail-greu straeon Pwyll Pendefig Dyfed a Culhwch ac Olwen. Rhybudd – iaith gref a chynnwys anaeddfed.
2019-04-17
21 min
Hansh
HIV, PrEP a Fi....Stori Guto
Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd. RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth In this podcast Cai Morgan chats to Guto Rhun about his journey from ru...
2019-04-09
27 min
Hansh: Blas Cyntaf
Ffanibowan....gyda Heledd a Mari Elin
Beth sy'n cysylltu ffasiwn cynaliadwy a gin? Beth allwch chi neud a hen nicsys i achub y blaned? Beth yn y byd yw Ffanibowan? Croeso i fyd Heledd Watkins a Mari Elin Jones: Byd sy'n cyfuno ffasiwn, cerddoriaeth, celf....a gin. Rhybudd: Yn cynnwys rhegi! What links sustainable fashion and gin? What can you do with old knickers to save the planet? What on earth is Ffanibowan?! Welcome to the world of Heledd Watkins and Mari Elin Jones: A fusion of fashion, music, art....and gin. Warning: Contains swearing!
2019-04-01
34 min
Hansh
Ffwtbol, Rygbi a Llanrwst: Caryl a Geraint a chwestiynau mawr Cymru
Mae Geraint Iwan yn holi Caryl Angharad am y de a’r gogledd, be di chwaraeon cenedlaethol Cymru, David Beckham a char James Bond. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
2019-03-21
22 min
Hansh: Blas Cyntaf
Diwedd y Sîn?....gyda Dan a Gwil
Beth yw dyfodol Sîn Cerddoriaeth Caerdydd? Dan Jones a Gwil Hughes sy'n trafod y sîn presennol, lleoliadau gigs pwysig yn cau a beth ma’ nhw'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Oes gobaith i'r Sîn? Rhybudd - cynnwys iaith gref....a chadair wichlyd!
2019-03-18
22 min
Hansh
Aled ac Adam: Memes Gorau 2018
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma yn edrych nôl ar memes gorau 2018. Pa memes fydd yn neud y 'cut', pam fydd John Ogwen yn gwneud Thanos da a beth yw'r pwynt neud podlediad ar memes yn y lle cyntaf? Rhybudd – yn cynnwys rhegi a spoilers!
2019-02-27
22 min
Hansh: Blas Cyntaf
Mwydro Mawreddog Mari a Meilir
Ymunwch a'r actorion amryddawn Mari Beard a Meilir Rhys Williams wrth iddynt falu awyr am bopeth sydd yn bwysig iddyn nhw: Beth sy'n mynd i ddigwydd yn y ddrama 35 awr? pwy sy'n mynd i ennill RuPaul's Drag Race?.....A byddant yn ateb y cwestiwn hollbwysig: 'top or bottom'? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2019-02-14
29 min
Hansh
S & M Hansh....Sam a Miriam: Helo 2019
Mae S & M Hansh yn ȏl gyda Sam Rhys a Miriam Isaac yn dweud hwyl fawr i 2018 a helo i 2019 gan edrych ar beth sy’n dod lan y flwyddyn hon. Ar yr agenda mae rholiau sosej vegan, Love Island, addunedau blwyddyn newydd (wrth gwrs) a llawer mwy. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2019-01-28
29 min
Hansh
Uchafbwyntiau cerddorol Rhys, Garmon ac Elan
Mae di bod yn flwyddyn ANHYGOEL i gerddoriaeth Gymraeg, gyda llwyth o albyms gwych newydd yn cael eu rhyddhau, sylw i fandiau yng Nghymru a thu hwnt, a gigs a gŵyliau dan eu sang. Dyma Rhys Gwynfor, Elan Evans a Garmon ab Ion yn trafod rhai o’u huchafbwyntiau personol ar gyfer Ochr 1.
2018-12-28
26 min
Hansh: Blas Cyntaf
Dwy Chwaer, Un Het....Sion Corn: Hanna a Mared Jarman
Mae Dwy Chwaer Un Het yn dychwelyd gyda Hanna a Mared Jarman yn tynnu a thrafod pynciau Nadoligaidd o het Sion Corn. Beth oedd eu anrheg Nadolig gwaethaf, pa hysbysebion sydd wedi creu argraff....ac ydy Sion Corn yn 'scary'?! Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-12-24
30 min
Hansh: Blas Cyntaf
Mynd Rownd a Rownd gyda Tom a Dyl
Tom a Dyl sy'n trafod pwnc pwysig sydd yn agos iawn at eu calonnau: Rownd a Rownd! Fel connoiseurs o'r opera sebon anfarwol cawn eu persbectif unigryw nhw ar y gyfres, clywed am eu hoff gymeriadau a straeon dros y blynyddoedd....a beth am spin-off yn Aberystwyth? Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
2018-12-07
24 min
Hansh
Tatŵs: Iwan a Geraint
Mae Geraint Iwan yn holi Iwan Pitts, sydd wedi cytuno i gael ei datŵio yn fyw ar Facebook Hansh. Y gynulleidfa fydd yn dewis pa datŵ (ac yn lle) mae Iwan yn ei gael. Hefyd yn cael ei drafod - Piers Morgan, tatŵs gwyneb, Coronation Street a mwy! Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
2018-12-05
32 min
Hansh
Mynd i Mecca....Stori SGRAMEER
Sam Rhys sy'n holi Ameer 'SGRAMEER' Rana am ei bererindod ddiweddar i Mecca. Mae Ameer yn trafod y rhesymeg tu ôl mynd i Mecca, y broses o baratoi a'i deimladau tuag at Islam nawr ei fod e nôl yng Nghymru. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
2018-11-14
32 min
Hansh
S&M Hansh...Sam a Miriam
Sam Rhys a Miriam Isaac sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Ar yr agenda, STIs, llawdriniaeth cosmetig ac...Aquabus? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-10-10
22 min
Hansh
Hit it, DJ: Welsh, Hywel ac Iwan
Rhybudd – yn cynnwys rhegi! Mae’r Welsh Whisperer a’r Brodyr Pitts yn trafod gigs, hwdis Bryn Fôn, Pobol y Cwm, Rhys Mwyn ac yn ateb eich cwestiynau.
2018-10-03
24 min
Hansh: Blas Cyntaf
Dwy Chwaer...Un Het: Hanna a Mared Jarman
Hanna a Mared Jarman sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Dwy Chwaer, Un Het, fformat newydd i'r podlediad lle mae'r ddwy yn tynnu enwau allan o het ar hap ac yn trafod y pynciau llosg. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-09-20
19 min
Hansh
Delio gyda Trolls Hansh: Sam Rhys a Cai Morgan
Sam Rhys a Cai Morgan sydd yng ngofal podlediad Hansh yr wythnos hon. Bydd y ddau yn trafod rhai o'u hoff sylwadau...cas....o fideo Cai 'Barn Amhoblogaidd Friends', a bydd Sam yn sôn am ei brofiad o gael ei dderbyn i'r Barry Horns. Hefyd rhai o benawdau papurau newyddion od Cymru....Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-09-10
25 min
Hansh
Arctig: Môr o Blastig? – Mari a Geraint
Yn y bennod arbennig yma, mae Geraint Iwan yn holi Mari Huws, aeth ar fordaith 3,000km o Gymru i’r Arctig i ymchwilio i lefelau’r plastig yno. Gwyliwch y ffilm ar YouTube Hansh: https://www.youtube.com/watch?v=JdiEO0Cla-s
2018-09-05
29 min
Hansh
Oedolion Gwbl Aeddfed: Aled Illtud ac Adam Gilder
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma. Atgofion 'fuzzy' Pride Cymru, sut i beidio edrych ar ôl pysgod a phryd i ddefnyddio rap byrfyfyr i osgoi unrhyw sefyllfa ddiflas. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-08-29
23 min
Hansh
Steddfod Sbeshial: Gareth, Garmon a HyWelsh
Gareth yr Orangutan yn cyflwyno podlediad arbennig gydag uchafbwyntiau o noson A Oes Hansh? yng Nghaffi Maes B, cân gan HyWelsh a sgyrsiau ffôn gyda Garmon ab Ion a Hywel Pitts (Rhybudd! Yn cynnwys rhegi)
2018-08-16
20 min
Hansh
Cydymdeimlo â Logan Paul?: Cai Morgan a Siân Adler
Cai Morgan a Siân Adler sy’n cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos yma. Maen nhw’n trafod Y Sioe Frenhinol, bod yn Fegan, cyfweliad Logan Paul gyda Casey Neistat a chyfres newydd 'rhyfedd-od' Siân ar Hansh. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-08-01
35 min
Hansh
Trics y trêd: Rhys a Heledd
Rhys Gwynfor a Heledd Watkins yn trafod Pwllfilod, gigs, gwyliau heb gynllun, Steddfod yn y ddinas, a be sy ar y gweill gan HMS Morris.
2018-07-18
20 min
Hansh
Torri tir newydd: Ger, Al Parr a DAJ
Al Parr a Geraint Iwan yn trafod taith Mari Huws i fesur plastig yr Arctig, tân mawr Carmel, Rhyl, Sgrameer a sgetshys. Hefyd, cipolwg ar eitem newydd Srprs.me gyda gwestai arbennig, David Aaron Jones (DAJ). Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
2018-07-05
20 min
Hansh
Tu ôl y cyrtans: Gareth, Geraint ac Iwan
2018-06-20
23 min
Yr Haclediad
Yn Fyw o’r Boudoir
Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest) Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n gwella lot. Wir ‘wan. Diolch i bawb am danysgrifio – rêtiwch ni ar iTunes!Support Yr HaclediadLinks...
2018-06-15
1h 18
Yr Haclediad
Buspass Nains
Llwythwch eich podfachwyr gyda'n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. Bonws!Support Yr HaclediadLinks:What if tech tried to be healing instead of just addictive? | Rohan GunatillakeWhat | Opinion | The GuardianA Book Apart, Design for Real LifeHansh - YouTubeNation.Cymru – How can we become a better nation?How sa...
2017-07-07
1h 15