podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Shows
Syniadau Iach
Dyfodol digidol y GIG
Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.
2022-07-12
26 min
Syniadau Iach
Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad?
Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod.
2022-07-05
25 min
Syniadau Iach
A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru?
Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod.
2022-06-28
23 min
Syniadau Iach
Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio
Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod.
2022-06-21
26 min
Syniadau Iach
Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol?
Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod.
2022-06-14
23 min
Syniadau Iach
Arloesedd yw’r allwedd i Gymru iachach - gydag Eluned Morgan AS
Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig.
2022-06-07
16 min
Syniadau Iach
Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig. Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n g...
2020-07-07
25 min
Syniadau Iach
Lledaenu a Graddfa
Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaen...
2020-06-04
25 min
Syniadau Iach
Arloesi Digidol
Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr Rhodri Griffiths ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu datblygu technolegau a meddalwedd newydd er budd cleifion yng Nghymru.Gyda rhai o sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn fwy na 20 mlwydd oed, yr her yn ôl Dr Elin Davies yw moderneiddio heb...
2020-03-27
24 min
Syniadau Iach
Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd. “Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud...
2019-08-12
25 min
Syniadau Iach
Hac Iechyd Cymraeg
Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg?Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi. Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion dig...
2019-07-16
26 min
Syniadau Iach
Creu cymunedau iach yng Nghymru
Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a deall sut mae'n effeithio ar ein hiechyd.Fel aelod o Gomisiwn Bevan, mae Syr Michael, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar...
2019-06-04
19 min
Syniadau Iach
A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anodd bodoli.Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd y...
2019-05-21
25 min
Syniadau Iach
Gofal iechyd Cymru’r dyfodol
Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davi...
2019-05-14
29 min
Syniadau Iach
Rhagnodi Cymdeithasol
Sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid y byd iechyd a gofal? Ydy cleifion Cymru yn elwa o’r arloesedd yma? Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y meddyg a’r claf yn edrych tu hwnt i’r symptomau meddygol ac yn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd. Yn ôl Sara Thomas, ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n synnwyr cyffredin...
2019-05-07
21 min
Syniadau Iach
Syniadau Iach
Mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.
2019-04-22
01 min