Look for any podcast host, guest or anyone
Showing episodes and shows of

Hywel Pitts

Shows

PodpethPodpethPodpêl-droed 2022 (v Lloegr)Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr. Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin. Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes. Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 2022-11-2932 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2022 (v Iran)Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?  Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill. 2022-11-2639 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2022 (v Yr UDA)Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock. Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad. 2022-11-2230 minPodpethPodpethSyniadad #10 - Telibocs"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?" Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb. 2022-07-2637 minPodpethPodpethSyniadad #9 - LGBTQIA+ (15)"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad" Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb. 2022-07-1929 minPodpethPodpethSyniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr"Be 'di duck yn criced?" "Dim" "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..." Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel.  Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb. 2022-07-1233 minPodpethPodpethSyniadad #7 - Podpeth ar Daith!"Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?" "Na."   Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam? 2022-06-2836 minPodpethPodpethSyniadad #6 - Gigs VR"S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel"   Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer. 2022-06-2136 minPodpethPodpethSyniadad #5 - Incognito / Limo i’r Sêr"Dw i 'di g'neud tri sgript bach..."   Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi. 2022-06-1440 minPodpethPodpethSyniadad #4 - Cystadleuaeth Cân Eurovision Cymru"Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de" "Pam?!"   Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'. 2022-06-0733 minPodpethPodpethSyniadad #3 - Cewri Tudur"Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip."   Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel.   (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.) 2022-05-3133 minPodpethPodpethSyniadad #2 - Tacsi!"Dw i'm isho byrstio bybl chdi strêt awe... ond sut mae hwn yn wahanol i Gwlad yr Astra Gwyn?"   Mae Iwan, Hywel ac Elin yn ymateb i syniad @SpursMel am sitcom newydd sbon. 2022-05-2428 minPodpethPodpethSyniadad #1 - Mothfil"Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities"   Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel. 2022-05-1729 minPodpethPodpethOdpeth 25 - Ysbrydion LlandafA wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth! 2021-11-3037 minPodpethPodpethOdpeth 22 - Rhyw YsbrydYn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod... 2021-11-0927 minPodpethPodpethOdpeth 21 - Judge JeffreysPwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio... 2021-11-0228 minPodpethPodpethOdpeth 20 - COVIDspiraciesI ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd! 2021-10-2633 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2021 (v Denmarc)Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf? 2021-06-2628 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2021 (v Yr Eidal)Mae Hywel, Elin a Menai yn ymuno 'fo Iwan a @SpursMel am y drydedd gêm, a'r olaf o gemau'r grŵp. Colli 1-0 yn erbyn Yr Eidal, ond dal drwodd i'r 16 olaf. Hefyd: Gŵyl Download, reflexes anhygoel Mel, ac ydi adar yn bodoli?!2021-06-2026 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2021 (v Twrci)RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod dannedd Ramsey, a "future Wales captain" Ethan Ampadu. 2021-06-1634 minPodpethPodpethPodpêl-droed 2021 (v Y Swistir)Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs. 2021-06-1226 minPodpethPodpethUN POD OLA LEUAD #8 - Un Pod OlaYn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic. Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros! 2021-05-2552 minPodpethPodpethUN POD OLA LEUAD #1 - RhagolwgCroeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. 2021-04-0631 minPodpethPodpethPodpeth #67 -"Y GOFID"Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad). 2020-10-0451 minPodpethPodpethOdpeth 19 - "Ape-ocalypse"Mae mwncis yn evil. 2019-11-0125 minPodpethPodpethOdpeth 18 - "Melltithion"Calan Gaeaf Hapus! Pennod olaf Odpeth? Dim cweit, achos mae yna un arall fory (1af o Dachwedd). Tro yma, y pwnc ydi Melltithion, a'r pennawd ydi "Pwyso a Ffrwydro", ac mae Iwan yn siarad am y ffilm Maleficent am amser maith, felly spoilers i Maleficent?? 2019-10-3121 minPodpethPodpethOdpeth 17 - "Gwyrthiau"Gwyrthiau ydi'r pwnc yn y bennod arbennig yma, a'r pennawd yw "What-a-fall!" 2019-10-3021 minPodpethPodpethOdpeth 11 - "Calan Gaeaf"Gyda Chalan Gaeaf 2019 yn agosáu, mae Iwan, Hywel ac Elin yn cyfri'r dyddiau i lawr drwy ryddhau 9 pennod newydd sbon o Odpeth. Yn y bennod yma - Clust i'r Llawr... 2019-10-2419 minPodpethPodpethPodpeth #66 - "Yas Cymru!"Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon. 2019-07-2730 minPodpethPodpethPodpeth #65 - "Bolycs Diddoniol"Hi-di-ho! Dim Elin wythnos yma yn anffodus, ond mae'r brodyr Pitts yn ol i ddadansoddi'r gair "difyr", ac hefyd i ymosod ar Bolycs Cymraeg. I wirfoddoli i fod yn westai arbennig, DMiwch ni @Podpeth ar Twitter. 2019-03-0633 minPodpethPodpethPodpeth #63 - "Ffrindiau Elin Haf"Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth.  Bydd na fwy o Class Cymraeg?  Bydd na fwy o Odpethau?  Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)?  Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?!  PWY FYDD Y GWESTEION?!  Oedd Ross a Rachel ar break?!  Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth).  Wsos nesa - SyniaDad! 2019-02-2032 minPodpethPodpethOdpeth #4 - "Robin Whoosh"Hywel yn cyflwyno! Marty McFine, Robin Whoosh, Brenin y Blods. (O Podpeth 34 - “Pleidleisio” 5/6/2017) 2019-02-1322 minPodpethPodpethOdpeth #5 - "Like a Cock in a China Shop"Hywel yn cyflwyno! Bark Zuckerburg, Like a Cock in a China Shop, He Ate His Words. (O Podpeth 35 - “Plismon Cachu Trwsus” 12/6/2017) 2019-02-1326 minPodpethPodpethPodpeth #60 - "Geith John Onllwyd F*** Off"Mae'r wasg (un boi yn Golwg) wedi bod yn slatio gwaith y brodyr Pitts ar y sioe ddychanol Y Da, Y Drwg a'r Diweddara' oedd ar Radio Cymru yn ddiweddar. Mae'r hogiau yn ymateb i'r feirniadaeth deg ag adeiladol mewn ffordd deg ag adeiladol. Hefyd, mae'r podlediad addysgol i blant - POD! - yn nol! Tro yma mae Elin yn trafod bwyta'n iach gyda Peth a POD. 2019-01-2331 minPodpethPodpethPodpeth #59 - "Ti'sho Grêp?"Wythnos yma, mae Iwan yn cynnig syniad am "spin off" - lle fydd Hywel, Elin ac Iwan yn mynd o amgylch Cymru yn cael bwyd a diod am ddim. I roi flas ar y syniad, mae Iwan yn bwyta grawnwinen wiyrd. Dyma lun:  Ti'sho grêp? pic.twitter.com/xPfwm6IJyv — Iwan Pitts (@IwanPitts) January 15, 20192019-01-1630 minPodpethPodpethPodpeth #58 - "Sgrin"Mae Elin yn nol!  A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin".  Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip! 2019-01-0930 minPodpethPodpethPodpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"! Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018.  Mwynhewch! 2019-01-0234 minPodpethPodpethPodpeth #56 - "Paff-ddydd Hapus"Iawn latch? Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster.  Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig. 2018-12-2630 minPodpethPodpethPodpeth #55 - "Pwpsi Syrpreis"Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu. 2018-12-1930 minPodpethPodpethPodpeth #53 - "Cawl Cariad"Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau. Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma. 2018-12-0530 minPodpethPodpethPodpeth #52 - "Sbwngllyd"Ola chicas! Dyma pennod newydd o Podpeth! Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto. Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn! Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel. 2018-11-2830 minPodpethPodpethPodpeth #51 - "Mochan"Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!   Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?” Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth! 2018-11-2130 minPodpethPodpethPodpeth #50 - "Canwr Clwb Y Flwyddyn"Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau!  Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn". 2018-11-1430 minPodpethPodpethPodpeth #48 - "Ofnadwych"Wwww Sbwci! Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth! Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm.  Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau. 2018-10-3130 minPodpethPodpethPodpeth #47 - "Henffych"Mae Podpeth yn ôl! Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ! Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed. Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd". 2018-04-011h 13PodpethPodpethPodpeth #45 - "Acagnacnag"Wythnos yma, mae Elin yn dysgu'r hogiau am y gwahaniaeth rhwng "ac" ac "ag", mae Hywel yn trio cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau ac mae Iwan yn teimlo bod y Podpeth yn cyrraedd low point. Mathonwy Llwyd o Y Reu sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Prawf Sgrin". 2017-10-021h 19PodpethPodpethPodpeth #44 - "Um Bongo Mags"Podpeth hir iawn wythnos yma, ond ddim Bonws, felly mae'n iawn yndi? Mae Hywel ac Elin yn mynd ar wyliau ac mae Iwan yn dynwared Tom Jones. Yn Class Cymraeg, 'da ni'n cael fwy o ddiarhebion, ac efallai bod ni'n clywed yr Odpeth gwaethaf erioed - "Irma Help Kids With Porn Money". Sori. Hefyd, mae gan @SpursMel syniad am ffilm - KGBale. 2017-09-181h 49PodpethPodpethBONWS - Hywel WilliamsEin gwestai arbennig wythnos yma ydi Hywel Williams, gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Arfon.   Mae Hywel yn ateb eich cwestiynau Twitter ac yn trafod Jeremy Corbyn, Jacob Rees-Mogg, Brexit, Boris Johnson a choginio! Dilynwch Hywel ar Twitter - @HywelPlaidCymru. 2017-09-131h 26PodpethPodpethPodpeth #43 - "Geriatric Mutant Ninja Plwmsans"Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050". Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan... Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com 2017-09-111h 26PodpethPodpethPodpeth #42 - "Ma' Wcw Yn Hyll a Sgeri"Cyfarchion! Spoiler Alert - mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Game of Thrones wythnos yma, ac yn ailgreu golygfa yn y Gymraeg. Mae Elin yn siarad am faint o sgeri ydi Wcw, ac yn dysgu'r hogia am cyplysnodau yn Class Cymraeg, ac mae Hywel wedi bod ar RADIO CYMRU wythnos yma, a di Iwan ddim yn hapus am y peth! Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Sêl Y Sêr". 2017-09-041h 12PodpethPodpethPodpeth #41 - Steddfod 2017Shwmae! Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela! Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth". 2017-08-282h 00PodpethPodpethPodpeth #40 - "Ffabouffe"Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy'n achosi meigryn. Mae Elin yn dysgu'r 'ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn - Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Cadair Cerddorion". 2017-07-311h 17PodpethPodpethPodpeth #39 - Sesiwn Fawr 2017Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?". 2017-07-241h 06PodpethPodpethPodpeth #38 - "Umami!"Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Umami, y blas sydd ddim yn sur, chwerw, hallt neu felys. Hefyd ar yr agenda mae Wacky Races, Elon Musk, mabolgampau ac enwau brenhinol. Dim gwestai wythnos yma, ond mae 'na Odpeth - Jackson Chwilod (Pollock), ac mae Elin yn dysgu'r hogiau am dybl N ac R a'r goben yn Class Cymraeg. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "O Bacchus I'r Bar". 2017-07-171h 49PodpethPodpethPodpeth #37 - Gŵyl Arall 2017Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio...  Podpeth! Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro.  Mwynhewch! 2017-07-0945 minPodpethPodpethPodpeth #36.5 - "Dai Sgyffaldi 2"Rhan 2 o Podpeth 36! Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod hanes cymeriadau comedi Cymru, Wetherspoons, a chwmnïau Cymraeg! Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng gyrru, anfon a danfon yn Class Cymraeg. Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Y Targed". Cysylltwch drwy'r wefan (podpeth.com) yn anhysbys, neu'n gyhoeddus drwy Twitter - @Podpeth 2017-06-271h 11PodpethPodpethPodpeth #36- "Dai Sgyffaldi"Rhan 1 o Podpeth 36! Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gwahaniaeth rhwng chick pea a runner bean, a pam bod Rupert The Bear yn gwisgo'r trowsus 'na?! Yn ymuno dros y we o Abertawe yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf mae'r bardd Elan Grug Muse, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter! Mae cyfrol newydd Grug (Ar Ddisberod) ar gael rŵan. Mae Iwan hefyd yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (Sgert Cwl). Cadwch lygad allan am Ran 2 (Podpeth 36.5) i glywed SyniaDad wythnos yma (Y Targed) a Class C...2017-06-261h 08PodpethPodpethPodpeth #35 - "Plismon Cachu Trwsus"Gyda senedd grog a dyfodol ansicr, mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod rhyw ar teli, Rastafarianism ac yoga! Mae Miss Elin yn dysgu'r hogia sut i dreiglo yn gywir yn Class Cymraeg, mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Bark Zuckerberg"), ac mae Iwan yn gofyn y cwestiynau pwysig i gyd fel "pwy fysa'n curo mewn ffeit - Sting ta Rag'N'Bone Man?". Hefyd, mae Dad (@SpursMel) efo SyniaDad newydd - "Fy Hoff Raeadr". 2017-06-121h 34PodpethPodpethPodpeth #34 - "Pleidleisio"Wythnos yma, mae Hywel, Elin ac Iwan​ yn trafod yr etholiad. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng "cychwyn" a "dechrau", a phryd i ddefnyddio Y neu Yr. Mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Marty McFine"), ac yn lle BONWS, mi fydd y BONWS Odpethau yn mynd ar ei'n sianel YouTube (sydd dal yn llwyth o nymbyrs a llythrennau randym fel UCzl9hDsPh1uhnpZS1Ipd9zQ gan nad oes ddigon o danysgrifwyr). Hefyd, mae Dad (@SpursMel ar Twitter) efo SyniaDad newydd - "Yr Ods". 2017-06-051h 14PodpethPodpethPodpeth #33 - "Ansensitif"Mae Hywel ag Elin yn hungover (eto) ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, ac mae Iwan yn benderfynol o fod yn ddwys drwy son am derfysgaeth. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau sut i ddweud os ydi gair yn fenywaidd neu wrywaidd, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Tigerist"), ac ar ôl i bethau droi yn ddifrifol, mae Hywel yn cytuno i fod yn gyfrifol am Odpeth wythnos nesaf. Elidyr Glyn (Bwncath) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lleoli'r Llwch". 2017-05-291h 49PodpethPodpethPodpeth #32 - "Clwb Tatws Alaw Gin"Mae Hywel, Iwan ag Elin yn hungover yn y bennod yma, ac yn siarad am amryw o bethau dibwys a gwirion. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau am arddodiaid, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Haka Na'n Mental"), ac mae Hywel yn switchio off. Elidir Jones (@ElliotSquash, Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, Griff Y Ci, ayyb) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Styffylau". 2017-05-221h 32PodpethPodpethBONWS - Lisa AngharadWythnos yma, mae'r hyfryd Lisa Angharad yn siarad taboobs, telly a terrorists gydag Iwan, Hywel ag Elin. Gigs gwaethaf, gwers canu, prudish Mexicans, economics, sex-ed Sweden a llwyth mwy yn cael ei drafod. Mae gan Lisa flog (taboob.co), ac mae hi'n gweithio ar nofel, podcast, ffilm, a Monothigh (the Musical). 2017-05-171h 02PodpethPodpethPodpeth #31 - "Roc a Rol"Mae Hywel, Iwan ag Elin yn nôl gyda Podpeth ar ei newydd wedd, gyda jingles a phethau go wir! Yr Odpeth gyntaf erioed, y Class Cymraeg gyntaf erioed, ac mae Lisa Angharad yn ateb eich cwestiynau Twitter! Hefyd, mae @SpursMel efo syniad newydd - Ffrinj. *YMWRTHODIAD* - Mae Hywel yn sôn am ei gig "wythnos nesaf", ond yr wythnos wedyn mae'r gig, felly disgwyliwch glywed yr un plyg wythnos nesaf. 2017-05-151h 24PodpethPodpethSyniaDad SbeshalWythnos yma, i ddathlu 30 o Podpethau, mae Iwan a Hywel yn edrych yn ôl ar eu hoff SyniaDadau mewn Podpeth arbennig! Mae'r clipiau yn cynnwys: KaraoCi Cymraeg (Podpeth #14) Orchestra'r Mor (Podpeth #10) Helfa'r Drones (Podpeth #12) Mwydro'r Mascots (Podpeth #20) Hwyl Y Ffair (Podpeth #25) Botwm Michael Jackson (Podpeth #8) Dilynwch Dad ar Twitter - @SpursMel.  Wythnos nesaf, mi fydd Podpeth yn ôl ar ei newydd wedd, wedi ei ailwampio a'i rebootio ('da ni efo jingles newydd). 2017-05-021h 04PodpethPodpethPodpeth #30 - Podty PingWythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn eistedd yn yr ardd i drafod newidiadau mawr fydd yn digwydd i'r Podpeth yn fuan.  Mae'r bardd/cerddor Iestyn Tyne yn ymuno a ni i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo DAU SyniaDad(au) - "Dadansoddi'r Ser" a "Bwydydd Y Bandiau". 2017-04-241h 02PodpethPodpethBONWS Podpeth - Iwan Fôn"Reu", "actio", "Duw", Bryn Fôn, syrpreisys a sleepwalking!  Mae'r actor a chanwr Iwan Fôn yn ymuno efo Iwan, Hywel ac Elin i drafod hyn a llawer mwy.  Dilynwch Iwan ar Twitter (@IwanFon1) am y diweddaraf. 2017-04-051h 04PodpethPodpethPodpeth #29 - Word of PodShwdwti! Wythnos yma mae WRESTLEMANIA!, ac mae Iwan yn trio egluro'r peth i Hywel ac Elin. Ond, dim reslo ydi popeth, gan fod fwy i'w wneud, gan gynnwys sgwennu jingles, hanner buwch, a sgwrs ddifyr efo Iwan Fôn o Y Reu, Rownd a Rownd(?!) a Tourism Board Carmel, sydd yn ateb eich cwestiynau (@podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Trysor Ta Trash". 2017-04-031h 19PodpethPodpethPodpeth #28 - Pod DamnShalom! Dim gwestai wythnos yma, ond mae'r Podpeth yn un hirach na'r arfer yn yr wythnos lle mae ymosodiad terfysg arall wedi digwydd. Mae Iwan, Hywel ac Elin yn trafod hyn a mwy, gan gynnwys hipster migraines, Zombi 2, gravlax, prancs a mwy! Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Dim Byd O Bwys". 2017-03-271h 34PodpethPodpethPodpeth #27 - Podkayne of MarsBinky, Bunky, Bonky! Hulks, haircuts, hiliaeth!  Pennod ddadleuol newydd o Podpeth, efo Elin Gruffydd, Hywel Pitts, a'i frawd Iwan.  Mae Hywel yn ofn dal salwch Iwan, ac mae Elin yn gwella'r safon iaith yn gyffredinol.  Face-blindness, y Quran, tanwydd di-blwm a llawer mwy yn cael ei drafod, a chofiwch gysylltu drwy drydaru (@Podpeth).  Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Graffiti Cymraeg". 2017-03-201h 12PodpethPodpethBONWS Podpeth - Vernon PittsBe ddigwyddodd yn 1898 yn Cuba wnaeth ddechrau cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain at yr ymosodiadau terfysg ar America ar yr 11eg o Fedi, 2001?  Mae Vernon Pitts yn "Truther", ac yn ymuno a'i neiaint Iwan a Hywel i dynnu llun fap y byd, egluro'r conspirasi 9/11 o ddechrau i'r diwedd, ac yn datgelu pwy yn union ydi'r "right-wing fascist oligarchs" sydd yn rhedeg y byd mewn podlediad annisgwyl ac annaearol. 2017-03-151h 17PodpethPodpethPodpeth #26 - City of PodFace front, true believer! Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy'n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Llyfrbryfed". 2017-03-131h 07PodpethPodpethPodpeth #25 - Waiting For PodotAhoyhoy! Technoleg, iaith, carnies, Phil Mitchell ym Mangor, Watergate, a mwy! Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts yn cyflwyno Podpeth. Wythnos yma, mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r hogia, ac yn anffodus dydi hi byth wedi gweld Beauty and the Beast (Spoilers i Beauty and the Beast). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Hwyl Y Ffair". Dilynwch ni ar Twitter/Facebook ayyb - @Podpeth Rhybudd - iaith wael a dramgwyddus. 2017-03-061h 09PodpethPodpethBONWS Podpeth - Elan Mererid RhysCyn fflio i Batagonia, mi wnaeth Elan Mererid Rhys siarad efo Iwan a Hywel am Bendith, byw yn Amsterdam, Cân i Gymru, a rock stars yr elusen Gisda.  Mae Iwan yn deud pethau tydi o ddim i fod i ddeud, felly anwybyddwch ei eiriau os gwelwch yn dda!  Dilynwch Elan ar Twitter - @elanmererid. 2017-03-011h 11PodpethPodpethPodpeth #24 - Podulike#JeSuisIkea Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito". 2017-02-271h 10PodpethPodpethPodpeth #23 - Pod PeopleShwd wti?! Mae'r anfarwol Podpeth yn nol, efo Iwan, Hywel ac Elin yn cyflwyno: Munud i Trump, hanner awr i SwperTed (Sbot, Smot ta Smotyn?), Tinder a Jarman, cyn trafod marwolaeth a babis. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Dim Sgam. 2017-02-201h 35PodpethPodpethPodpeth #21 - SuperPodBowlen swper! Mae Podpeth yma, ac wythnos yma does dim gwestai (eto) ond mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r brodyr Pitts i drafod gwylanod, y SuperBowl, boi o'r enw Donald, a'r wyddor seinegol. Ydi adar yn bobl? Be ydi American Football? Pa fand roedd athro mathemateg Hywel yn arfer chwarae i*? Hefyd, mae Dad efo syniad Off The Wall. Cofiwch ddilyn ni ar Twitter (@Podpeth) a/neu hoffwch ni ar Facebook (@Podpeth). Awgrymwch westeion, gofynnwch gwestiynau (#CacA), cwynwch fod y Podpeth rhy fyr neu rhy hir, neu cysylltwch os da chi isio help i sefydlu...2017-02-061h 18PodpethPodpethPodpeth #19 - PODUSBore dda! Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs - ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni'r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen - "Dwi'n Meiddio Chdi". Dwi'n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.   2017-01-231h 05PodpethPodpethPodpeth #17 - Hand of PodShw'mae! Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae'r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio'n hollol anaddawol a rybish. Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud "cont"! Mwy o hanes Miriam (a'r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg... 2017-01-091h 11PodpethPodpethPodpeth #14 - Pod of EgyptEin gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu. 2016-12-121h 00PodpethPodpethBONWS Podpeth - Rhys GwynforMae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??).  Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud. 2016-11-301h 04PodpethPodpethPodpeth #12 - Escape Pod New YorkPodpeth ahoy! Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons". 2016-11-2857 minPodpethPodpethBONWS Podpeth - Nici BeechMae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin. 2016-11-231h 05PodpethPodpethPodpeth #11 - Dad PodWythnos newydd, Podpeth newydd! Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do. Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol". 2016-11-221h 06PodpethPodpethBONWS Podpeth - Llŷr Alun JonesMae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump. 2016-11-161h 07PodpethPodpethPodpeth #10 - Grab her by the PodMae Hywel ag Iwan nol ar ol amser maith! Sut mae'r byd wedi newid ers y tro diwethaf i ni glywed Podpeth? Ein gwestai arbennig ydi'r hogyn o Sling - na, dim John Ogwen, ond yr artist Llŷr Alun Jones! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Llŷr i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd. 2016-11-141h 05PodpethPodpethPodpêl-droed (v Portiwgal)Ar ôl twrnamaint bythgofiadwy, mae Cymru allan, wedi colli 2-0 i Bortiwgal yn y semis.  Ond, mae Iwan a @SpursMel yn bell o fod yn ddigalon (heb law bod Mel isio roi cweir i Cristiano).  Mae Hywel yng nghwmni Dan Owen (I Fight Lions), John Sams a Jack Peyton, i drafod y gêm (a Tinder).2016-07-0719 minPodpethPodpethPodpêl-droed (v Gwlad Belg)Wow!  Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol!  Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.2016-07-0217 minPodpethPodpethPodpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi'r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i'r rowndiau gogynderfynol.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn "Bale Coleman".   Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.2016-06-2615 minPodpethPodpethPodpêl-droed (v Rwsia)Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy).  Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.2016-06-2117 minPodpethPodpethPodpêl-droed (v Lloegr)Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.2016-06-1614 minPodpethPodpethPodpêl-droed (v Slofacia)Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.2016-06-1215 minPodpethPodpethBONUS Podpeth - Tom ap DanMa' Iwan a Hywel yn siarad big cats, Uumar a Pacific Drift efo scuba enthusiast Tom Ap Dan. 2016-05-181h 01PodpethPodpethBONUS Podpeth - Yws GwyneddGwerinos, cathod, Gwobrau'r Selar, ffwtbol, John Lennon, Boi o Blaenau yn mynd i Argos am y tro gyntaf... Awr o fwydro gyda Yws Gwynedd!!! Y "Seren y Funud", "Bryn Fon Newydd", a'r "Justin Timberlake Cymraeg" sydd yn dysgu Iwan a Hywel am Paul Bodin a'r teulu brenhinol. Mae o hefyd yn gwneud rhagfynegiadau anhygoel am y dyfodol... 2016-03-171h 03PodpethPodpethPodpeth #8 - Pod LuckMae Hywel ag Iwan nol unwaith eto am awr o fwydro! Wythnos yma, ein gwestai arbennig ydi Dyl Mei - y 3ydd cyflwynydd gorau yng Nghymru! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Dyl i ddod yn fuan mewn pennod Bonws (gobeithio!). Hefyd, beth yn y byd ydi "Botwm Michael Jackson"?!? @SpursMel sydd efo'r atebion yn SyniaDad. 2016-03-071h 04PodpethPodpethPodpeth #7 - Message in a PoddleHaia iawn? Wythnos yma, mae Tom Ap Dan yn ymuno a'r brodyr Pitts yn y stiwdio i ateb cwestiynau Twitter, ac i amlinellu ei nofel anysgrifenedig o ddechrau i ddiwedd (Spoilers!). Hefyd, mae Hywel yn dangos ei dalent ar y gitâr, mae Iwan yn ateb y cwestiwn "Lle mae'r Bonus Podpeths i gyd 'di mynd?!" ac mae Dad yn egluro Curryoke. Dilynwch ni ar Twitter i weld fideo o Tom yn jyglo! @Podpeth2016-02-151h 04PodpethPodpethPodpeth #6 - Oh My PodHelo! Shw'mae? Iawn?Wythnos yma, mae Catrin Mara yn ymuno a Iwan a Hywel, i ateb eich cwestiynau Twitter! Dilynwch ni yma - @Podpeth Hefyd, mae Dad efo syniad am lliwio cestyll.2016-02-0847 minPodpethPodpethPodpeth 2K15 - Sbeshial BlynyddolMae hi'n flwyddyn newydd, amser i adolygu y flwyddyn oedd 2015...Mae Iwan ac Hywel yn trafod y gorau, y gwaethau, a'r Cymraeg: Ffilms Albyms Gêm Rhaglen Teledu Podlediad Ffad Digwyddiad Person Felly disgwyliwch digon o fwydro am Donald Trump, Jupiter Ascending, Great British Bake Off, Topknots a Rory McIlroy... 2016-01-131h 20PodpethPodpethPodpeth #3 - Christmas PodChristmas Special 3 episodes in?! Mae Iwan a Hywel yn trafod bob math o bethau Nadoligaidd - Buddhism, Y Tri Sion Corn, America, Xbox One a Strictly Come Dancing efo Cai Gruffydd o Y Reu. A mi fydd @SpursMel yn nol efo syniad gwych arall.   Nadolig Llawen!2015-12-2349 minPodpethPodpethPodpeth #2 - Pod of GoldY "difficult second album"! Mae Hywel ac Iwan Pitts yn gofyn y cwestiynau mawr i gyd: Ydi Rhydian yn robot? Ydi Cymru am ennill cystadleuaeth Euro 2016? Oes mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ddechrau podledu? Mae The Welsh Daniel O'Donnell - Welsh Whisperer - yn y stiwdio i ateb eich cwestiynau Twitter (@podpeth), ac i siarad am gigs anodd, parch barf, Hitler a bungee jumpio.Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad sydd ddim byd debyg i Can i Gymru. 2015-12-1537 minPodpethPodpethPodpeth #1 - PodfellasMae'r trydedd gyfres wedi cyrraedd!Ar ôl amser maith, mae Hywel ac Iwan Pitts yn nol efo 'gritty reboot' o'r mudiad podlediad Cymraeg, sydd bellach efo cyfrif Twitter a bob dim - @podpeth The Maffia is in town... Sion "Maffia" Jones, o Maffia Mr Huws. Mae o'n ateb eich cwestiynau, ac yn siarad am ISIS, Syria, time travel, robots, Yr Anhrefn, a Ted Hankey.   Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad wneith codi Syndod...2015-12-0738 min