podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Ysbeidiau Heulog
Shows
Ysbeidiau Heulog
Pennod 98 - Rhydian Bowen Phillips
Gwyneb a llais cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi cymryd sylw o'r cyfryngau yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf. Mae Rhydian Bowen Phillips yn gyn-aelod o foiband mwyaf Cymru, ond eisioes yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru 2 ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-07-27
56 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 97 - Seren Morgan Jones
Arlunydd aruthrol Aberystwyth, Seren Morgan Jones yw gwestai'r bennod hon. Mae hi'n siarad am ei gwaith, am etifeddiaeth ysbrydol, ac wrth gwrs am y pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-07-23
1h 10
Ysbeidiau Heulog
Pennod 96 - Eddie Ladd
Sgwrs ffraeth, difyr a dwys gyda'r dawnsiwr, ffarmwr, a chyn-gyflwynydd y gyfres eiconig Fideo 9 - Eddie Ladd! Mae hi'n rhannu'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-07-06
56 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 95 - Jon Gower
Neb arall ond awdur toreithiog ac arobryn i gadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Cylchdaith rownd pen Jon Gower wrth iddo siarad am y pethau bach sy'n ei wneud yn hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-06-29
1h 14
Ysbeidiau Heulog
Pennod 94 - Ed Holden
Artist unigryw ac adnabyddus i unrhywun sydd wedi cymryd sylw o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg dros y chwarter canrif diwethaf. Cyn-aelod o fandiau megis Pep Le Pew a Genod Droog, ond eisioes yn artist unigol blaenllaw yn recordio fel Mr Phormula - Ed Holden yw gwestai'r bennod yma! Ond tybed, beth sy'n cadw'r bît-bocsiwr a rapiwr yn hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-06-22
51 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 93 - 3 Hŵr Doeth
Sgwrs gyda ddau o aelodau'r grŵp rap rhagorol o'r gogledd, 3 Hŵr Doeth - Boi Ma ac Yr Arch Hwch. Pennod sydd ddim yn siomi wrth i'r ddau rhannu'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus. Dewis Boi Ma: https://www.youtube.com/watch?v=xJYfOGb3sKw Gwyliwch fideo newydd y ddeuawd sydd yn sarhau ar GIGS: https://www.youtube.com/watch?v=ogigjUvxjGE Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-06-15
1h 02
Ysbeidiau Heulog
Pennod 92 - Heledd Watkins
Y gantores o'r gorllewin, aelod y band HMS Morris, Heledd Watkins yw gwestai'r bennod yma. Gwyliwch ei fideo newydd i 'House' yma... https://www.youtube.com/watch?v=QG5XYMV-VUs Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-06-08
49 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 91 - Gav Murphy
Gwestai'r bennod yma yw'r newyddiadurwr gemau, ffrydiwr, kebab-garwr, a phodgrefftiwr, Gav Murphy! Gwrandewch arno'n rhannu'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-06-01
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 90 - Dyfed Edwards
Awdur hir-sefydlog ym myd llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag awdur arswyd yn yr iaith Saesneg o dan y nom de plume Thomas Emson, gwestai'r bennod yma yw Dyfed Edwards. Llwyd Owen a Leigh Jones sydd yn trafod y pethau sy'n cadw'r awdur yma'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-05-25
55 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 89 - Nepotistiaeth
Be sy'n cadw Llwyd a Leigh yn hapus yr wythnos yma? Sgyrsiau am TGAU, yfed dan oed, teledu o Awstralia, Leigh wastad ar ei wyliau a mwy. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-05-18
50 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 88 - Elliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol, llais cyfarwydd ar gyfryngau Cymru, awdur llyfrau coginio, a ffan mwyaf y podlediad hon... Elliw Gwawr yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-05-11
1h 03
Ysbeidiau Heulog
Penod 87 - Yma O Hyd
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bychain sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yr wythnos yma. Gan gynnwys sgyrsiau am Yma O Hyd, Wrecsam, snŵcer, mynd ar y sesh ayyb. Dyma'r 'reaction video' sy'n cael ei drafod ar ddechrau'r bennod... https://www.youtube.com/watch?v=35vm7wpWgHg Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-05-04
46 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 86 - Gai Toms
Un o gerddorion gorau Cymru gyda gyrfa sy'n estyn ar draws tair degawd - aelod o Anweledig, Mim Twm Llai ei hun, Gai Toms yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-04-27
1h 06
Ysbeidiau Heulog
Pennod 85 - Bruce Bannau Brycheiniog
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod Prydeindod, Cymreictod, enwau Cymraeg, Michael Sheen ac, wrth gwrs, y pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Fideo Michael Sheen yn cyhoeddi enw uniaith Gymraeg parc cenedlaethol y Bannau Brycheiniog... https://www.youtube.com/watch?v=m7fcRyIY3EQ Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-04-21
53 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 84 - R.Seiliog
Cerddor sydd wedi bod wrthi ers rhyw dwy ddegawd yn barod, Robin Edwards - ag adnabyddir yn well fel R.Seiliog - yw gwestai'r bennod yma. Mae un o'r pethau sy'n ei wneud yn hapus wir wedi newid bywydau Leigh a Llwyd. Am bennod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-04-13
54 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 83 - Elin Parisa Fouladi
Y cerddor, cantores, a chyflwynwraig Elin Parisa Fouladi yw gwestai'r bennod yma yng nghwmni Llwyd a Leigh. Efallai eich bod chi wedi gweld hi ar Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Iran ar hyn o bryd, ond beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-04-06
47 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 82 - Clociau
Mae'r clociau wedi symud ymlaen! Haleliwia! Ond beth sy'n cadw Llwyd Owen a Leigh Jones yn hapus ar y bennod yma? Sgyrsiau am Star Wars, celf, a lot mwy! Ambell ddolen i fynd gyda'r bennod... Bill Murray yn canu thema Star Wars: https://www.youtube.com/watch?v=ljiVRV5B5i8 Grim Art Group: https://twitter.com/GrimArtGroup Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-03-30
54 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 81 - Aneirin Karadog
Prifardd, cerddor, rapiwr, cyflwynydd a lot mwy, Aneirin Karadog yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus? Clywch hefyd stori gan Leigh am y tro wnaeth e fentro i fyd reslo. Nodyn: Roedd nam wrth recordio oedd yn golygu bod Llwyd a Leigh methu clywed chwiban dun Aneirin, ond roedd hi wedi cael ei recordio'n glir. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-03-23
1h 02
Ysbeidiau Heulog
Pennod 80 - Ceilliau
Llwyd Owen a Leigh Jones yn ôl i drafod y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus gan gynnwys sgyrsiau am iechyd, alcohol ayyb. Dyma'r sgwrs rhwng Eddie Ladd a Brychan Llŷr mae Llwyd yn siarad amdano: https://www.youtube.com/watch?v=vhrv_vPSr0M Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-03-16
55 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 79 - Beti George
Gall ambell westai o'r gorffennol ar y podlediad yma cael eu disgrifio fel "trysor cenedlaethol", ond does dim un ohonyn nhw yn yr un cynghrair â gwestai'r bennod yma. Nid oes angen cyflwyniad arni o gwbwl. Diolch aruthrol i'r chwedlonol Beti George am rannu urddas i'n podlediad bach ni. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-03-08
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 78 - Hetwysgwyr
Ar ôl wythnos ar ei wyliau mae Leigh yn dychwelyd i sgwrsio gyda Llwyd wrth i'r ddau sôn am yr awen, yn ogystal â'r pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-03-02
44 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 77 - H.Hawkline
Roedd Leigh ar ei wyliau pan ddaeth y cyfle i Llwyd sgwrsio gyda H.Hawkline (aka Huw Evans), felly dyma sgwrs bach hyfryd, ffraeth ac agored am waith a bywyd y cerddor ac artist amryddawn cyn iddo deithio'r byd yn cefnogi ei albwm newydd Milk For Flowers. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-02-23
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 76 - Richard Elis yn dychwelyd
Y gwestai cyntaf i ddychwelyd i'r podlediad, yr anfarwol, y pengratiwr ei hun, Richard Elis sydd yn ôl ar Ysbeidiau Heulog i drafod y pethau bach sy'n ei gadw e'n hapus. Clasur o bennod, ond roeddech chi'n gwybod hynny cyn gwrando! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-02-16
49 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 75 - Gwenno Morgan
O bosib y tro cyntaf i rywun rhannu'r pethau bach sy'n ei gwneud nhw'n hapus, sydd wedi bod yn ddewis rhywun arall yn y gorffennol... Y cerddor rhagorol Gwenno Morgan yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-02-02
55 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 74 - Cnychu
Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd y cnychwyr mawr. Mae Llwyd yn rhannu'r stori am golli ei wyryfdod. Ych a fi. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-01-26
41 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 73 - Siôn Alun Davies
Actor byddech chi'n ei adnabod o bethau fel y ffilm arswyd rhagorol 'Gwledd', neu'r cyfresi 'Craith' a '35 Diwrnod', Siôn Alun Davies sydd yn siarad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-01-19
1h 01
Ysbeidiau Heulog
Pennod 72 - Hanna Jarman
Awdur ac actor adnabyddus o'i waith sy'n cynnwys yr anhygoel Merched Parchus, ac awen un o brif cymeriadau nofelau Llwyd - yr un a'r unigryw Hanna Jarman yw gwestai'r bennod yma. Gwrandwch wrth iddi synnu Llwyd Owen a Leigh Jones gyda'i dewisiadau o beth sy'n ei gwneud hi'n hapus! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-01-12
55 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 71 - Ac i bawb sydd yn y Tŷ
Llwyd Owen a Leigh Jones yn dychwelyd gyda phennod gyntaf y flwyddyn 2023. Sut hwyl dros yr ŵyl gaethon nhw, a beth yw'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2023-01-05
46 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 70 - Peredur ap Gwynedd
Gitarydd o fri, seiclwr brwd, a cwmni gwych dros awren fach, Peredur ap Gwynedd yw gwestai'r bennod yma. Sgwrs am ei waith gyda'r grŵp Pendulum a beth sydd ar y gweill gyda nhw ar ôl blwyddyn fawr, a'r term Gymraeg gorau am ei hoff fwyd Nadolig, ond beth sy'n cadw'r bwyellwr yn hapus?! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-12-22
56 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 69 - Soixante-neuf
Carreg filltir rhywiol i Llwyd Owen a Leigh Jones wrth iddyn nhw drafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod wythnos rhyfeddol o oer. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-12-15
42 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 68 - Alun Davies
Un o hoff nofelwyr Llwyd Owen sy'n cadw cwmni iddo fe a Leigh Jones yn y bennod yma - Alun Davies. Beth sy'n ei gadw e'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-12-08
1h 03
Ysbeidiau Heulog
Pennod 67 - Nia Morais
Y dramodydd o Gaerdydd, ac awdur preswyl Theatr y Sherman yw gwestai'r bennod yma - Nia Morais! Beth sy'n ei chadw hi'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-12-01
47 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 66 - Sywel Nyw (Lewys Wyn)
Y cerddor Lewys Wyn (aka Sywel Nyw) yw gwestai'r bennod hon. Aelod o'r Eira ac ennillydd y wobr am Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2022 am ei record hir "Deuddeg" (sydd yn cynnwys gwestai fel Mark Cyrff, Endaf Emlyn a mwy), ac hefyd yn frawd bach i Gruff Lynch a Casi Wyn, ond beth yw'r pethau bach sydd yn ei gadw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-11-24
56 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 65 - Colled
Yn y bennod yma mae Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n cadw nhw'n hapus, fel arfer. Er hyn, rhybudd i chi - mae sgwrs ddwys a difrifol am golled a galar ar ddechrau'r bennod. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-11-17
43 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 64 - Llio Maddocks
Gwestai'r bennod yma yw'r awdur ac instafardd, Llio Maddocks. Beth yw'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-11-10
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 63 - Gwres Canolog
Cafodd Leigh noson hwyr cyn recordio'r bennod yma ac mae'n amlwg wrth iddo frwydro'i ffordd drwy brawddegau am awr. Yn lwcus i chi roedd Llwyd ar frig ei bŵer wrth recordio! Pennod arall o'r podlediad sydd yn rhoi sylw i'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-11-03
51 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 62 - Dylan Ebenezer
Mae e ar fin mynd i Qatar i weithio yng Nghwpan y Byd, ond a fydd e'n cael aros mewn gwesty sych neu wlyb gyda Malcolm Allen? Llais a gwyneb cyfarwydd i bawb ledled Cymru, Dylan Ebenezer yw gwestai'r bennod yma! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-10-27
1h 01
Ysbeidiau Heulog
Pennod 61 - Megan Angharad Hunter
Yr awdur amryddawn, ac ennillydd Llyfr y Flwyddyn gyda'i nofel chyntaf - Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter yw gwestai'r bennod yma. Beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Gwrandewch i ddarganfod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-10-20
55 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 60 - Pererindod i'r Sied
Carreg filltir wrth i'r podlediad cyrraedd 60 pennod, ac i Llwyd Owen a Leigh Jones recordio pennod yn y cnawd gyda'u gilydd am y tro cyntaf erioed o'r sied chwedlonol yn Rhiwbeina. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-10-13
1h 00
Ysbeidiau Heulog
Pennod 59 - Tomos Williams
Gwestai cyntaf wrth ddod yn ôl atoch chi bob wythnos yw'r cerddor jazz a chyflwynydd Radio Cymru, Tomos Williams. Chwaraewr trwmped gyda Burum Khamira a llwyth o grwpiau eraill - beth yw'r pethau bach sy'n cadw Tom yn hapus? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-10-06
1h 01
Ysbeidiau Heulog
Pennod 58 - Bola Llwyd
Ar ôl seibiant bach (mawr), mae'r bois yn ôl bob wythnos o hyn ymlaen! Llwyd Owen a Leigh Jones yn rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Roedd bola Llwyd yn gwneud synnau drwy'r holl recordio o'r bennod yma - gwrandewch yn astud i weld os ydych chi'n gallu clywed y grwgnachau!
2022-09-29
49 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 57 - Gwylanod Cefndirol
MAE'R BOIS NÔL! Pennod fach i'ch cadw chi'n gynnes cyn i Llwyd Owen a Leigh Jones dychwelyd i bodgrefftio bob wythnos o fewn mis. Dyna addewid cyhoeddus! Ond, beth sydd wedi bod yn eu cadw nhw'n hapus dros y tair mis diwethaf?
2022-08-18
43 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 56 - Homes Under The Hammer
Mae Llwyd a Leigh yn ôl (am y tro) i siarad am eu absenoldeb ac wrth gwrs y pethau bach sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw ers y bennod diwethaf. Sôn am Gymreictod (wrth gwrs), nofelau (wrth gwrs) a llond llwyth o falu awyr. Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-04-12
41 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 55 - Dogging
Llwyd Owen a Leigh Jones unwaith yn rhagor yma i siarad am y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Ffilms am gomics, adar, safleoedd dogging. Jyst rhai o'r man bethau hapus yn y bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-03-16
44 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 54 - Iwan ap Huw Morgan
Cyn i chi wrando i'r bennod yma, ewch nol i wrando ar y bennod o hen bodlediad Llwyd gyda'r gwestai arbennig yma, Does Dim Gair Cymraeg am Random - trwy cyd-ddigwyddiad llwyr pennod 54 o hynny yw hi hefyd! Felly pwy yw Mr 54? Cerddor sy'n rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw Woodooman, iachawr a rhywun sydd wedi byw bywyd lliwgar iawn, Iwan ap Huw Morgan. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-03-09
1h 01
Ysbeidiau Heulog
Pennod 53 - Ffion Dafis
Gwyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld S4C dros yr ugain mlynedd diwethaf, a bronnau cyfarwydd i unrhyw un wnaeth weld bws Cymreig ym 1999. Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu a theatr, pwy arall ond Ffion Dafis?! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-03-06
49 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 52 - Slebs
Yr wythnos yma mae Llwyd a Leigh yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. O.N. Mae Leigh yn drysu rhwng Clapham Common a Hampstead Heath wrth siarad am Ron Davies (cofio fe?!). Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-02-23
42 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 51 - Sara Huws
Hanesydd, gwyneb cyfarwydd fel cyflwynydd teledu a chodwr pwysau, Sara Huws yw gwestai'r bennod yma! Ond sawl iaith mae hi'n siarad, sawl gratiwr caws sydd ganddi a beth yw'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-02-16
52 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 50 - Hanner Cont
Carregfilltir arall wrth i'r bois gyrraedd hanner cant pennod o Ysbeidiau Heulog. Rwtsh dibendraw ers oesoedd. Mae Llwyd a Leigh yn trafod crefftio wrth sgwennu, YR AWEN, wancars yn siarad rwtsh am yr iaith Gymraeg a llwyth o bethau eraill. Ewch i weld hoff lookalikes Llwyd yma: http://splitting-images.com/ Yn y bennod yma mae Leigh yn bathu conspiracy theory newydd sbon hefyd. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-02-09
44 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 49 - Gary Slaymaker
Sgwennwr, carwr ffilmiau, digrifiwr, comedïwr, presennoldeb cyson ym mywyd Llwyd Owen (heb iddo wybod) am 30 mlynedd, a'r person gyntaf i wneud i Leigh chwerthin trwy'r Gymraeg (ag eithrio Martyn Geraint) - Gary Slaymaker ydy gwestai'r bennod yma. Roedd problemau mawr gyda cysylltiad Leigh i'r sgwrs felly ymddiheuriadau am unrhyw darnau o'r bennod yma sydd ddim cweit mor llyfn a'r arfer. Mae Ysbeidiau Heulog yn dathlu ei phenblwydd cyntaf yr wythnos yma! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-02-02
1h 00
Ysbeidiau Heulog
Pennod 48 - Mwled Ffres
Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad rwtsh unwaith yn rhagor am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Gan gynnwys sgwrs am Dydd Miwsig Cymru ac atgofion am gigs Cymraeg wnaeth newid bywydau'r dau, boreau oer a rhewllyd, a It's Always Sunny In Philadelphia. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-01-26
50 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 47 - Dewi Prysor
Awdur, bardd, dramatydd, cerddor ac un o chweds mwya Cymru, Dewi Prysor yw gwestai'r bennod hon. Mae Dewi yn siarad a diddanu am yr holl awr ar ben ei hun mwy neu lai, ac yn rhannu ei 'party trick' tua diwedd y bennod. Un fedrwch chi ddim ei golli! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-01-20
1h 04
Ysbeidiau Heulog
Pennod 46 - Pôtsîs
Pennod arall yng nghwmni Llwyd Owen a Leigh Jones wrth iddyn nhw trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Blue Monday, Pôtsîs (ŵyau wedi'w herwhela?), campiau lawn a Grav. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-01-12
43 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 45 - Bethan Gwanas
Awdur, cyflwynydd a thrysor cenedlaethol (ond peidiwch a'i galw hi'n "chi") - Bethan Gwanas sy'n cadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones yn y bennod yma. Beth yw'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus, a sut ydy Leigh yn gwneud iddi cochi am rywbeth o ugain mlynedd yn ôl? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: twitter.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
2022-01-05
1h 05
Ysbeidiau Heulog
Pennod 44 - Blwyddyn Newydd Crach
Dyma sŵn dau ddyn hollol knackered yn trio siarad yn ddistaw rhag ofn iddyn nhw ddeffro pobl yn y stafelloedd cyfagos. Llwyd a Leigh yn ôl am un pennod arall cyn dechrau'r flwyddyn newydd i rannu'r pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-29
47 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 43 - Podpeth (Rhan 2)
Rhan dau o'r sgwrs gyda arloeswyr podgrefftio Cymraeg - Podpeth! Mae gan Llwyd gwis Nadolig ar gyfer Elin, Hywel, Iwan a Leigh, ac i fod yn hollol onest mae'r holl rwtsh bron iawn yn ormod. A beth fydd pennod Nadoligaidd heb stori am Aled Jones fydd yn arwain at achos llys enllib. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-23
42 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 42 - Podpeth (Rhan 1)
Ar gyfer Nadolig mae gennym ni dwy bennod arbennig yng nghwmni Elin Gruffudd a Hywel ac Iwan Pitts - aka Podpeth! Pan nad ydy Hywel yn canu nag Iwan yn lleisio Gareth yr orangwtan, mae'r tri yn arloeswyr ym myd podgrefftio Cymraeg felly mae'n fraint cael siarad rwtsh gyda'r tri am y pethau Nadoligaidd sy'n eu wneud nhw'n hapus. Rhan dau o'r sgwrs/sesh yn dod ar Noswyl Nadolig! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-22
51 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 41 - Diesel Coch
Blas Nadoligaidd i'r bennod yma wrth i Llwyd Owen a Leigh Jones dechrau teimlo'r tymor. Lladd y blaned, traddodiadau Dolig a pherlau o recordiau Dolig amgen o gasgliad preifat Llwyd. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-15
53 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 40 - Tudur Owen
Gwestai sydd angen dim cyflwyniad, ond dyma un ta beth... Un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Cymru - comediwr, sgwennwr, cyflwynydd a mwy. Tudur Owen sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod rhagorol yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-08
1h 07
Ysbeidiau Heulog
Pennod 39 - Fflur Evans
Pennod yng nghwmni'r cyflwynydd, sgwennwr a phodledydd di-flewyn-ar-dafod, Fflur Evans. Pan nad ydy hi'n gallu cael ei ffeindio yn ardal ysmygu Clwb Ifor Bach, gallech chi ei chlywed hi'n siarad am ei bywyd garu ar ei phodlediad rhagorol, "Beth yw Ghosto yn Gymraeg?". Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-12-01
1h 12
Ysbeidiau Heulog
Pennod 38 - Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Mae'r bennod yma'n dod i chi'n gynnar wrth i Llwyd Owen a Leigh Jones trafod rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig cyn y noson wobrwyo ei hun. Mi fydd y bennod nesaf yn glanio yn y slot wythnosol arferol. Fel arfer, mae sgwrs am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn dilyn gyda'r dwys a'r difyr. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-11-20
50 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 37 - Carys Eleri
Cantores, actor, cyflwynydd a chorwynt amry-amryddawn, Carys Eleri sy'n rhannu'r pethau bach yn y bennod yma. Bois Y Tymbl, perfformio, natur a lot mwy yn y sgwrs gwych hon. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-11-17
1h 07
Ysbeidiau Heulog
Pennod 36 - Griff Lynch
Cerddor, cantor, frontman Yr Ods, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm a theledu - Griff Lynch sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-11-10
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 35 - Sigl a Chraig
Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad rwtsh ac yn cydbwyso'r dwys gyda'r difyr. Clociau'n newid, dyddiau byr, SAD, iechyd meddwl, Calan Gaeaf (sbŵci), mwy o chweds Twitter ac argymhelliad heavy metal. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-11-03
50 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 34 - Mari Beard
Actores gyda wyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld 35 Awr, Tourist Trap, Merched Parchus ac eraill; cyflwynydd y podlediad Cwîns, ac wedi derbyn nifer o enwebiadau BAFTA Cymru ar hyd y ffordd, ie wir, gwestai'r bennod yma yw Mari Beard. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-10-27
54 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 33 - Help Llaw
Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach unwaith yn rhagor. Pynciau llosg yr wythnos yma: Casineb arlein, argymhelliad sbŵci, a help llaw mewn sinema moethus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-10-20
47 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 32 - Gruffudd Owen
Beth yw'r pethau bach sy'n rhoi gwen ar wyneb prifardd? Ymunwch â Llwyd a Leigh yn y bennod yma wrth iddyn nhw ddysgu beth yw'r pethau bach sy'n gwneud Gruffudd Owen yn hapus. Rêl chwip o sgwrs sy'n hedfan wrth i'r tri trafod bob dim o Tony Blair i gociau anifeiliaid. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-10-13
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 31 - Y Dderwen Awstriaidd
Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Pynciau llosg yn cynnwys: Cerflun Betty Campbell, celfyddyd, cawodydd, Arnold Schwarzenegger a mwy. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-10-06
1h 07
Ysbeidiau Heulog
Pennod 30 - Melanie Owen
Perchennog busnes, blogiwr, flogiwr, marchoges arobryn ac un traean o'r podlediad rhagorol (bron) wythnosol, MelMalJal - Melanie Owen sydd yn cadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones yn y bennod yma wrth iddi rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-09-29
56 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 29 - Y Dwys a'r Difyr
Llwyd a Leigh yn ôl gyda'r pethau bach a'r pethau mawr - y dwys a'r difyr. Technoleg a theclynnau, 9/11, cerddoriaeth Awstralia a phob dim arall o dan yr haul. Dyma'r pethau bach sy'n cadw'r ddau yn hapus yr wythnos yma. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-09-22
58 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 28 - Richard Elis
Actor a chynhyrchydd (ond paid galw fe'n gynhyrchydd) sydd wedi gwneud y cwbwl gan gynnwys y Big 3 o operau sebon (Eastenders, Corrie a Pobol y Cwm). Mae Richard Elis wedi bod yn wyneb gyfarwydd ar draws y DU am flynyddoedd erbyn hyn, ac mae ganddo cult following yn Yr Iseldiroedd eisioes. Mwy am hynny yn y bennod yn ogystal â'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-09-15
52 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 27 - Clochben ap Llwyd
Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. ASMR, enwi plant dychmygol Llwyd, shout outs, bîff ar-lein, a mwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-09-08
57 min
Ysbeidiau Heulog
Ffwng
Ffwng by Ysbeidiau Heulog
2021-09-08
00 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 26 - Carwyn Ellis
Y cerddor arobryn sydd yn recordio o dan enw ei hun, gyda'i fand Colorama, yn teithio gyda The Pretenders ac Edwyn Collins, ac i'w weld yn mwy diweddar gyda'i gwaith rhagorol gyda Rio '18 - Carwyn Ellis yw gwestai'r bennod yma. Streuon o'r heol yn teithio fel gaijin yn Japan, cacs o dramor ac effeithiau Brexit a'r pandemig ar yrfaoedd cerddorion. Gwrandewch ar ei waith gyda Rio '18 yma: https://carwynellisrio18.bandcamp.com/ Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-09-01
57 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 25 - Plismona Hwn!
Ein pumed pennod ar ugain - y jiwbilî arian. Recordiwyd y bennod yma diwrnod cyn i Charlie Watts farw ond mae Lllwyd yn llwyddo i ddarogan ei farwolaeth. Sbwci. Pynciau llosg yr wythnos hon/hwn/yma ydy plismyn iaith, safonau'r Gymraeg Twitter legends (a gewch chi shout out?)a chludfwyd. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-08-25
48 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 24 - Elis James
Comediwr, ysgrifennwr, actor, podlediwr a darlledwr - oes diwedd i ddawniau'r anfarwol Elis James? Beth sy'n cadw comediwr ail mwyaf enwog Caerfyrddin yn hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-08-18
1h 09
Ysbeidiau Heulog
Pennod 23 - Y Gachdafarn
Mae Llwyd a Leigh yn ôl i siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Gan gynnwys: meini hirion Sir Fôn, heriau corfforol magu plant, sgwrs mwyaf agored Leigh am ei iechyd meddwl dros yr wyth mis diwethaf, ac os arhoswch chi reit tan y diwedd, fe fyddech chi'n clywed cath Leigh! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-08-11
57 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 22 - Gareth Bonello
Cerddor a chantor, carwr adar, ac yn ôl y sgwrs yma, rhyw faint o hanesydd cymdeithasol hefyd. Gareth Bonello (aka The Gentle Good) yw gwestai'r wythnos yma mewn sgwrs sy'n hedfan heibio wrth drafod yr arddull creadigol, pêl-fasged, traddodiadau werin a'r iaith Gymraeg. Mae ei albwm diweddaraf gyda'r Khasi-Cymru Collective ar gael nawr yn y mannau arferol (ac ar Bandcamp: https://thegentlegood.bandcamp.com/album/sai-thai-ki-sur-2). Dyma be dyweddodd y Guardian amdano: "This beautiful album underlines the importance of delving into history with sensitivity and creativity." Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://tw...
2021-08-04
1h 15
Ysbeidiau Heulog
Pennod 21 - Mirain Iwerydd
Gwyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn - Mirain Iwerydd yw gwestai'r bennod hon. Ond beth sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-07-28
42 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 20.5 - Dr Lowri Bowen (Rhan 2)
Pennod bonws (pennod 20.5? Ugain a hanner? Ugain ychwanegol?) gyda ail hanner ein sgwrs gyda Dr Lowri Bowen am ei hamser hi yn gweithio fel meddyg yn Antarctica. Gwrandewch i ran cyntaf y sgwrs ym mhennod 20, ac am hanes anghredadwy Ernest Shackleton ym mhennod 18. Cofiwch i'n dilyn ni ar Twitter (Mae Lowri wedi rhoi lluniau wnaeth hi dynnu o Antarctica i ni rhannu): https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-07-25
23 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 20 - Dr Lowri Bowen
Pennod arbennig iawn yn cynnwys rhan gyntaf ein sgwrs gyda Dr Lowri Bowen - meddyg bu'n gweithio yn yr Antarctig am deunaw mis. Mae Lowri yn rhannu streuon am ei phrofiad hi ac am fywyd dydd i ddydd yn un o lefydd mwyaf ynysig ac anghysbell y byd. Mae Llwyd a Leigh yn cael sgwrs bach wedi hynny am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ddiweddar hefyd (wrth gwrs). Dilynwch ar Twitter (Mae Lowri wedi rhoi lluniau wnaeth hi dynnu o Antarctica i ni rhannu): https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com...
2021-07-21
59 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 19 - Lewis Owen (aka Bendigaydfran)
Dylanwadwr a main man TikTok Cymraeg, Lewis Owen (aka Bendigaydfran) yw gwestai'r wythnos yma. Os ydych chi wedi gweld unrhyw beth ar-lein am annibyniaeth Cymraeg, mae'n siwr eich bod chi wedi gweld ei wyneb. Yn y bennod yma mae Lewis yn siarad am y pethau bach sy'n ei wneud e'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-07-14
1h 03
Ysbeidiau Heulog
Pennod 18 - Oes Bluetooth yn Sir Benfro?
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Gan gynnwys: Sir Benfro, FREEDOM DAY (F*CK YEAH), Leigh yn bathu gair lluosog newydd am "pabell", Llyfr y Flwyddyn ac alldaith Ernerst Shackleton. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-07-07
1h 10
Ysbeidiau Heulog
Pennod 17 - Rufus Mufasa
Rapiwr, bardd, awdur a jyst corwynt creadigol ysbrydoledig yn gyffredinol - gwestai'r bennod yma ydy'r unigryw Rufus Mufasa. Llwyd Owen a Leigh Jones sy'n holi iddi am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-06-30
1h 11
Ysbeidiau Heulog
Pennod 16 - Gwerddon Mewn Anialwch
Mae Llwyd a Leigh yn talu teyrnged i'r diweddar David R. Edwards - rhywbeth mae'n siwr bydd Dave Datblygu wedi casau. Beth sydd yn cadw'r ddau yn hapus yr wythnos yma? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-06-23
45 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 15 - Gruff Rhys
Oes angen cynflwyniad ar gyfer un o bobl mwyaf blaenllaw Cymru? Cerddor, canwr, awdur, gwneithurwr ffilmiau, anifail blewog... Gawn ni hyd yn oed fentro... trysor cenedlaethol?! Gruff Rhys sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod angholliadwy yma o Ysbeidiau Heulog. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-06-16
52 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 14 - Y Gwreiddiol a'r Gorau
Llwyd a Leigh yn ôl i drafod llwyth o bethau gan gynnwys: neges at gynhyrchwyr Radio'r BBC (aka lladron di-egwyddor), iechyd/salwch meddwl, coed drewllyd, mynd yn hen, gigiau byw a mwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-06-09
52 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 13 - Siôn Tomos Owen
Awr yng nghwmni'r cyflwynydd, arlunydd, bardd a token person y cymoedd ar S4C, Siôn Tomos Owen, wrth iddo ddiddanu a rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-06-03
1h 02
Ysbeidiau Heulog
Pennod 12 - Tynged y Ffaith
Cyn i Llwyd a Leigh siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw'r wythnos yma, mae nhw'n trafod twpdra Cymry Big Brother a'u sylwadau sarhaus dros yr iaith yn ogystal â'r heriau sydd i fagu plant trwy'r Gymraeg tu hwnt i Glawdd Offa. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-05-27
53 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 11 - Steff Dafydd
Prif leisydd y band Breichiau Hir, dylunydd graffeg o fri (gan gynnwys gwaith celf Ysbeidiau Heulog) ag artist sy'n rhyddhau gwaith o dan yr enw Penglog, Steff Dafydd sydd yng nghwmni Llwyd Owen a Leigh Jones yr wythnos yma, ond beth yw'r pethau bach sy'n gwneud Steff yn hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-05-20
54 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 10 - Natureboys
Gan ei fod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl mae'r bois yn trafod eu iechyd meddwl nhw a'r pethau naturiol sy'n codi ysbryd. Mae Leigh yn trafod y peth fydd yn gwneud iddo droi i mewn i gammon, a Llwyd yn dewis mwy o gerddoriaeth! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-05-13
1h 00
Ysbeidiau Heulog
Pennod 9 - Elin Fflur
Ar ôl cael ei blackmailio gan Llwyd ar deledu byw, dyma chi bennod sydd yn hollol angholladwy yng nghwmni'r trysor cenedlaethol, Elin Fflur. Efallai hon oedd y bennod mwyaf hwyl i'w recordio hyd yma. Mae Elin yn dod â'r laffs a'r straeon ddoniol wrth iddi rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi. Well i chi beidio colli'r bennod yma, mae hi'n glasur! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-05-06
57 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 8 - Kenny G: Sax Offender
Yr wythnos yma mae Llwyd a Leigh yn llawenhau yn ail-agoriad tafarndai, comiwnyddion, acenion Caerdydd pur, pianos a Kenny G. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-04-29
53 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 7 - Sian Eleri
Pennod gyda gwestai'r wythnos yma - a phwy gwell i rannu ei chwmni na'r DJ Sian Eleri? Llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio 1 yn ogystal â rhai Radio Cymru, beth sy'n rhoi gwen ar ei hwyneb hi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn, a be' sy'n gwneud iddi colli'r plot yn llwyr wrth siarad efo Llwyd a Leigh? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-04-21
51 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 6 - Aur Pur
Mae Llwyd a Leigh yn #weeklywankers o hyn ymlaen. Mwy o bethau bach yn dod atoch chi yn fwy aml nac o'r blaen. Mae pynciau trafod y bennod yma yn cynnwys yfed alcohol a mynd ar ddeiets a gemau cyfrifiadur a llwyth o bethau eraill wrth i'r ddau malu awyr unwaith eto. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-04-15
47 min
Ysbeidiau Heulog
Pennod 5 - Esyllt Sears
Y comedïwr Esyllt Sears sydd yn rhannu'r pethau bach gyda Llwyd a Leigh sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi. Sgyrsiau mawr am bethau bach gwirion. Diolch fil i R.Seiliog am helpu gyda problemau technegol wrth olygu'r bennod yma ac am ei wneud yn fymryn fwy wrandawadwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-04-08
1h 37
Ysbeidiau Heulog
Pennod 4 - Yws Gwynedd
Y cerddor, canwr a phensaer o fri Yws Gwynedd sydd yn ymuno â Llwyd a Leigh yn y bennod yma i drafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Pynciau llosg: galar, Pavarotti, Good Morning From Hell, caws, garddio, mwydod, pyramids. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-03-23
1h 39
Ysbeidiau Heulog
Pennod 3 - Ani Glass
Y cerddor a chantores arobryn Ani Glass sy'n sgwrsio gyda Llwyd a Leigh y tro yma am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi. Pynciau llosg - Lluniau Rich, Jon Pountney, y gofod, Gareth Bale ac aeliau anhygoel Ani! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-03-06
1h 20
Ysbeidiau Heulog
Pennod 2 - Huw Stephens
Beth yw'r pethau bychain sy'n gwneud bywyd Huw Stephens yn hapusach? Mae'r bennod yma hefyd yn cynnwys sgwrs ddwys rhwng Llwyd a Leigh am eu iechyd meddwl. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-02-18
1h 22
Ysbeidiau Heulog
Pennod 1 - Manon Steffan Ros
Pennod gyntaf podlediad newydd sy'n rhoi sylw i'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Yr awdur Manon Steffan Ros sy'n siarad am y pethau bychain sy'n gwneud ei bywyd hi'n hapusach. Pynciau llosg: winwns/nionod, Japanese City Pop, Yacht Rock, tentaclau/teimlyddion, Spar v Lidl v Aldi v EuroSpar. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
2021-02-07
1h 14