podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Myf.cymru
Shows
Unbalanced with Cerys Davage
49. Myf Cymru: Tu ôl i'r llen (ft. Ffion Davies)
Mae'n hen bryd nid yn unig am bennod Cymraeg arall, ond i gael Ffion ar y podlediad i ni ddod er mwyn i ddod i nabod Myf Cymru yn well.Gwefan Myf Cymru: https://myf.cymru/Gwefan Meddwl: https://meddwl.org/Cofiwch dilyn myf.cymru ar gyfryngau cymdeithasol a gwrando ar eu podlediad nhw, 'Sgwrs?' yma: https://open.spotify.com/show/4VQSHWq8bSITQFpWAP5oa1?si=dd89a61d15044f3bDon't forget to rate this podcast 5 stars, follow/subscribe and press the bell button so you don't miss out on...
2025-03-23
30 min
Sgwrs?
Syndrom y Ffugiwr (Imposter Syndrome)
Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch?Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, yr actor a chyflwynydd Luke Davies, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y ffordd mae imposter syndrome yn effeithio ar fyfyrwyr, perfformwyr, a phawb sy’n teimlo’r pwysau i fod yn ‘berffaith’.Ydyn ni’n rho...
2025-03-13
31 min
Sgwrs?
Meddyliau Ymwthiol
Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd?Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn archwilio’r byd cymhleth o feddyliau ymwthiol. Mae Grace, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, y cerddor a chyflwynydd Welsh Whisperer, ac Endaf Evans, cwnselydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd ar sut mae’r medd...
2025-03-13
41 min
Sgwrs?
Hunan Ofal a ‘Burnout’
Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio Angharad, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod eu profiadau a’u safbwyntiau ar y pwnc.Beth yw’r camau syml allwn ni eu cymryd i ofalu am ein hunain? Sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau sy’n ein hatal rha...
2025-03-13
38 min
Sgwrs?
Delio Gyda Newid
Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder personol drwy gyfnodau o ansicrwydd.Mae Carys, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr actores Leah Gaffey a’r cwnselydd Karen Jones yn rhannu eu profiadau a’u hawgrymiadau ar greu rhwydweithiau cefnogaeth, goresgyn yr ofn sy’n gallu dod gyda newid, a dysgu sut i ail-fframio heriau fel cyfleoedd i dyfu. Cawn gly...
2025-03-13
36 min
Sgwrs?
Procrastinadu
Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud.Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gorffwys bwriadol a diogi. Ymunwch ag Elliw, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyflwynydd a’r dylanwadwr Molly Palmer, ac y cwnselydd Sara Childs wrth iddyn nhw rannu eu profiadau a’u hawgrymi...
2025-03-13
44 min
Unbalanced with Cerys Davage
39. Gwneud y mwyaf o'r gaeaf
Mae iselder tymhorol (SAD / seasonal depression) yn effeithio ar lot fawr o bobl adeg yma'r flwyddyn, a gyda help myf.cymru rwy'n rhannu'r hyn sy'n fy helpu i trwy'r newid mewn tymhorau a gwneud y mwyaf o fywyd er gwaetha'r tywydd!Gwefan myf.cymru: https://myf.cymruGwefan Meddwl: https://meddwl.orgDon't forget to rate this podcast 5 stars, follow/subscribe and press the bell button so you don't miss out on new episodes!Instagram: @unbalancedpodcastYouTube: https://www.youtube.com/@cerysdavageTikok: @cerysdavageA...
2024-11-17
28 min
Unbalanced with Cerys Davage
32. Bywyd wedi'r brifysgol (ft. Beth Bushell)
Diolch i myf.cymru am gefnogi'r bennod yma, sy'n sgwrs rhwng dwy fenyw ifanc, fi a Beth, am ein profiadau gwahanol ar ôl cwblhau gradd israddedig. Rydym yn trafod symud adref, pa lwybrau sydd ar gael wedi'r brifysgol, a phwysigrwydd ystyried iechyd meddwl wrth symud ymlaen. Cofiwch, mae llwybr pawb yn wahanol, felly cymra dy amser!
2024-08-25
29 min
Be' Nesa'
Myf.Cymru
Ym mhennod yma bydd Ffion Davies o Myf.Cymru yn ymuno gyda ni. Dydi Ffion ddim yn ddieithr i’r sioe – rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn adnabod ei llais fel un o’n hôsts – ond y tro yma mae’n sôn am ei rôl newydd yn Myf.Cymru. Mae hi’n ail-ddweud stori ei gyrfa ac yn rhoi cipolwg i ni ar yr adnodd iechyd meddwl a lles iaith Cymraeg.Cofiwch, os oes gennych unrhyw awgrymiadau am siaradwyr yr hoffech glywed ganddynt, neu bynciau yr hoffech i ni eu trafod, e-bostiwch talent...
2024-02-29
20 min
Unbalanced with Cerys Davage
17. Bywyd yn y brifysgol
Croeso nôl i bennod arall Cymraeg o Unbalanced! Ces i'r cyfle i bartneru gyda myf.cymru i drafod fy mhrofiad i yn y Brifysgol; nosweithiau allan, gwneud ffrindiau, yr hyn byswn i wedi eisiau gwybod cyn dechrau, oll law yn llaw gyda delio ag anabledd hefyd.Gwefan myf.cymru: https://myf.cymruDon't forget to rate this podcast 5 stars, follow/subscribe and press the bell button so you don't miss out on new episodes!Instagram: @unbalancedpodcastYouTube: https://www.youtube.com/@cerysdavageTikok: @cerysdavage
2024-02-25
24 min
Sgwrs?
Perthnasau
Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn adeg lle mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau, hen a newydd, yn newid yn gyson. Yn y bennod hon mae Liam Edwards, sy’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r berfformwraig ac actores, Carys Eleri, yn ymuno gyda Trystan a’r cw...
2023-11-08
43 min
Sgwrs?
Dynion ac Iechyd Meddwl
Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, yr actor Gethin Bickerton a’r cwnselydd o Brifysgol Bangor, Endaf Evans. Mae’n sgwrs bwysig sy’n gweld nhw’n trafod iselder, hunan laddiad, tyfu fyny, rhywioldeb, dod i dderbyn dy hun, cefn gwlad ac amaethyd...
2023-10-25
35 min
Sgwrs?
Alcohol
“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?”Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafi...
2023-10-11
44 min
Sgwrs?
Hunan-Werth
Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn...
2023-09-27
43 min
Sgwrs?
Galar
Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o alaru yn gallu cael ar ein bywydau. Y fyfyrwraig Nanw Maelor, a’r cerddor Al Lewis sy’n rhannu eu profiadau gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs.Stori Nanw o golli ei thaid (5:11)Stori Al o golli ei dad (10:25)Sara yn siarad...
2023-09-13
41 min
Sgwrs?
Arian a Chostau Byw
Mae arian yn rhywbeth sydd wedi peri gofid i’r mwyafrif ohonon ni ar ryw bwynt yn ein bywydau. Efallai ein bod ni wedi gorwario ar gerdyn credyd neu ar noson allan, yn poeni am y gost o fod yn fyfyriwr, yn gofidio am dalu rhent, neu’n becso am faint i ni’n ennill mewn swydd, ac wrth gwrs, y twf diweddar mewn costau byw - ac mae’r cyfan yn gallu effeithio ar ein lles a iechyd meddwl. Mae’n wir i ddweud hefyd bod salwch meddwl yn gallu arwain at broblemau arian mewn pob math o ffyrdd - cylch di...
2023-07-12
45 min
Sgwrs?
Gwneud y Pethau Bychain
Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon mae Trystan Ellis-Morris yn trafod rhai o’r pethau hyn - o gelf, i redeg, i nofio gwyllt - yng nghwmni’r cwnselydd celf, Gwawr Roberts, y myfyrwyr Katie Phillips a Cara Walters, y cyflwynydd a hyfforddwr personol Connagh Howard, a’r hyfforddwr...
2023-06-28
44 min
Sgwrs?
Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn
Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans i drafod eu profiadau nhw o fyw gydag anhwylder personoliaeth ac anhwylder deubegwn. Mae’n sgwrs onest, agored, pwerus ac ysbrydoledig yn un. Rhybudd cynnwys: anhwylder bwytaBeth yw anhwylder personoliaeth a stori Tegwen (5:31)Beth yw anhwylder deubegwn a stori Ceri...
2023-06-14
46 min
Sgwrs?
Cael Cymorth
Mae gofyn am help yn rhywbeth mae llawer ohonom yn gweld yn anodd i'w wneud, ym mhob agwedd o fywyd, ond yn arbennig efallai gyda’n hiechyd meddwl. Y cwnselydd Myfanwy Williams, y myfyrwyr Daisy a Hywel - sydd hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg gwefan meddwl.org - sy’n trafod y pwysigrwydd o gael cymorth pam fod angen, a’r effaith bositif mae hynny’n gallu cael ar ein lles a iechyd meddwl.Rhybudd cynnwys: hunan anafuStori Daisy yn dechrau yn ei harddegau (4:48)Stori Hywel a’i brofiad ef (8:06)...
2023-05-31
35 min
Sgwrs?
Niwroamrywiaeth
Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie Phillips a’r gantores Non Parry yn dod ynghyd i rannu eu profiadau nhw o niwroamrywiaeth.Trafodir y modd mae cael diagnosis o ADHD ac awtistiaeth wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld ac yn beirniadu eu hunain.Beth yw niwroamrywiaeth? (1:55)Non yn cael diagnosis o...
2023-05-15
34 min
Access All: Disability News and Mental Health
Magic money
BAFTA award winning magician Fergus Flanagan talks to Nikki Fox and Emma Tracey about OCD and how his intrusive thoughts disappear when he performs. And is he able to guess what word Nikki is thinking of? Listen to find out... Covid hastened the dash towards a cashless society after we were told to use contactless cards to stop germs circulating. It might be a bonus for businesses who no longer have to cash up, but, for some of us, cash and coins make far more sense. We speak to Myf who has learning disabilities, Mencap Cymru director Wayne Crocker...
2023-04-13
33 min
Sgwrs?
Dechrau yn y Brifysgol
Cyffro? Pryder? Dim ond dau air i ddisgrifio rhai o’r teimladau mae rhywun yn eu cael cyn dechrau yn y brifysgol am y tro cynta’. Yn y bennod yma bydd y myfyriwr Lleu Price a’r awdures Megan Angharad Hunter sydd hefyd newydd orffen yn y brifysgol yn ymuno a Tara Bethan i sgwrsio efo Trystan ac Endaf.Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.Beth os wyt ti’n teimlo dy fod ar y cwrs anghywir? (4:50)Be sy’n denu rhywun i brifysgol? Y cwrs neu’r ardal? (6:40)Ydi myf...
2022-09-05
41 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022
Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exilesDianc To escapeYn ddiwylliannol ac yn grefyddol ...
2022-08-16
13 min
Sgwrs?
Iselder a Gorbryder
Yn ymuno a Trystan ac Endaf y tro hwn mae Non Parry o’r grŵp Eden a Phrifardd Eisteddfod T yr Urdd 2021, Kayley Sydenham. Mae’r ddwy wedi siarad yn agored iawn am eu profiadau o ddelio a phroblemau iechyd meddwl ac am y gwaith mewn nhw’n gwneud yn awr wrth ofalu am eu hunain a helpu eraill.Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.Cefndir iselder Kayley (3:30)Cefndir iselder Non (9:50)Profiad Endaf o weithio efo pobol efo iselder a sut mae cael cefnogaeth (15:25)Tips ar sut mae...
2022-07-27
42 min
Sgwrs?
Y Gymuned LHDT
Y Gymuned LHDT sef yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yw’r pwnc y tro hwn. Mae Alys Hall o brifysgol Bangor, James Hope o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Ellis Jones - un o ffigyrau mwyaf adloniannol instagram a Tiktok yn ymuno a Trystan ac Endaf i rannu eu teimladau wrth dyfu i fyny yn hoyw neu’n ddeurywiol, eu profiad o homoffobia a’r ffordd ddaethant o hyd i gymuned newydd o bobol yn y brifysgol.Ellis Lloyd Jones ar Tiktok https://www.tiktok.com/@ellislloydjones?lang=enCofiwch fynd i http...
2022-06-16
38 min
Sgwrs?
Y Cyfnod Clo
Y cyfnod clo neu lockdown yw’r pwnc y tro hwn. Mae wedi effeithio ac yn dal i effeithio pob un ohonom o addasu i astudio yn rhithiol ac ar-lein i orfod aros adre am wythnosau a cholli allan ar yr elfennau cymdeithasol o fod yn fyfyriwr.Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf y tro yma mae’r myfyrwyr Deio Owen a Leigh Woolford ynghyd ag Ifan Pritchard sy’n canu i’r grŵp Gwilym.Gwilym ar instagram https://www.instagram.com/_gwilym/?hl=enCofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyn...
2022-05-26
43 min
Sgwrs?
Delwedd y Corff
Delwedd y corff a hunan ddelwedd yw’r pwnc y tro hwn ac mae dylanwad enwogion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei drafod mewn dyfnder.Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf mae’r dylanwadwyr Jess Davies a Mari Gwenllian ynghyd a Mari Jones sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.Mari Gwenllian (H.I.W.T.I.) https://www.hiwti.com/Jess Davies https://jabberwithjess.com/Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.Mari Jones - dod yn ymwybodol o hunan ddelwedd a delwedd y corff? (3:19)Jes...
2022-05-15
43 min
Sgwrs?
Awydd Sgwrs?
Podlediad yng nghwmni Trystan Ellis-Morris sy’n trafod iechyd meddwl a lles myfyrwyr o bob oed. Bydd Trystan yn cael cwmni Endaf Evans sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Bangor ynghyd a myfyrwyr a lleisiau cyfarwydd i drin a thrafod materion sydd o bwys iddyn nhw.Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymruAriennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
2022-05-12
01 min