Look for any podcast host, guest or anyone
Showing episodes and shows of

CYDAG

Shows

CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 10 – ADY – Trystan WilliamsCyn haf 2024, cafodd Trystan ei benodi fel Arweinydd Cenedlaethol ADY (yr iaith Gymraeg). Yn y bennod hon byddwn yn trafod ei rôl newydd a phopeth arall o dan yr ymbarél anghenion dysgu ychwanegol. Cyn hynny, mae Trystan wedi bod yn Bennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd ADY yn Ysgol Plas Mawr yng Nghaerdydd.2024-11-1848 minCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 9 – Trawma – Sian Griffith a Sara WilliamsMae Sian yn athrawes yn Ysgol Tywyn, Ynys Mon ond ar secondiad fel athrawes ymgynghorol plant mewn gofal yn yr awdurdod lleol ar hyn o bryd.  Mae Sara yn athrawes yn Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi.  Yn ychwanegol i’w gwaith arferol, mae Sara a Sian yn hyfforddwyr ar gyfer Trawma Informed Schools, sefydliad sydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg ar sut i ddelio gyda disgyblion sydd ag anghenion emosiynol neu broblemau iechyd meddwl.  Yn y bennod hon byddwn yn trafod y wyddoniaeth a’r seicoleg tu ôl i’r problemau hyn a beth allwn ni ei wneud i fod o gy...2024-11-181h 11CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 8 – Datblygu’r Gymraeg – Lee JamesMae Lee yn Bennaeth yn Ysgol Brynaman.  Ar ol eu harolwg yn Hydref 2023, cafodd yr ysgol ei chanmol am sut mae’n nhw’n llwyddo i ysgogi’r disgyblion i siarad Cymraeg.  Yn dilyn hyn, mae Estyn wedi rhannu eu harferion mewn astudiaeth achos arfer effeithiol.  Wrth gwrs, mae cael disgyblion i siarad Cymraeg yn her mae nifer o ysgolion ledled Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod yr hyn mae Ysgol Brynaman yn ei wneud i ddatblygu’r Gymraeg i ennill y clod haeddiannol gan Estyn. 2024-11-1856 minCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 7 – Lles – Jayne DaviesMae Jayne yn Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Sir Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi ar secondiad yn y consortia lleol fel Ymgynghorydd Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn y bennod hon byddwn yn trafod pob dim ynglyn a lles.  Ers i Jayne fod yn Bennaeth ar yr ysgol mae sawl astudiaeth achos Estyn wedi cael eu hysgrifennu am y gwaith mae’r ysgol wedi ei wneud i gynyddu lles a’r effaith mae hynny wedi gael ar y plant a’r gymuned ehangach.2024-11-181h 08CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 6 – Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – Judith RobertsMae Judith yn nyrs, athrawes ac yn ymgynghorydd iechyd a lles annibynnol sydd wedi gweithio gyda sawl ysgol, dalgylch ac awdurdod i'w hyfforddi, cynghori a’u harwain ar sut i addysgu iechyd a lles. Yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o’i hamser yn mynd i gefnogi ysgolion ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y bennod hon, bydd Judith yn trafod sut i addysgu’r Cwricwlwm Cydberthynas a Rhywioldeb a sut i oresgyn rhai o’r heriau mae ysgolion ar draws Cymru yn eu hwynebu.2024-11-1849 minCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 5 – Asesu a Chynnydd CiG – Gethin Môn ThomasMae Gethin yn ymgynghorydd addysg annibynnol sydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yma’n Nghymru ac ar draws y ffin i ddatblygu eu cwricwlwm.  Cyn iddo fod yn ymgynghorydd, roedd yn athro addysg gorfforol yn Ysgol David Hughes cyn symud ymlaen i weithio i gonsortia’r gogledd. Yn y bennod hon, bydd Gethin yn ein helpu ni ddeall asesu a chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o ysgolion ar hyn o bryd. 2024-11-181h 00CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 4 – Arweinyddiaeth 2 – Meilir TomosMae Meilir yn bennaeth yn Ysgol Glan Morfa, Caerdydd ac yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi nifer o ddisgyblion sydd yn dod o gefndiroedd difreintiedig ac yn llwyddo hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg yn ardal Splott. Yn y bennod hon Mae Meilir yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.2024-11-181h 34CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 3 – Blynyddoedd Cynnar - Laura DobsonMae Laura yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yng Ngholeg y Met Caerdydd, ond cyn hynny, bu’n athrawes ac arweinydd cyfnod sylfaen yn Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod y blynyddoedd cynnar yn gyffredinol, profiadau Laura o weithio ym mhob oedran o’r cyfnod sylfaen a’r gwaith o addysgu plant yn yr ysbyty.2024-11-181h 30CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 2 – Arweinyddiaeth – Gwyn JonesMae Gwyn yn bennaeth profiadol yn Ysgol Croes Atti, Sir y Fflint ac yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg o fewn y sir. Yn y bennod hon mae Gwyn yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol. 2024-11-181h 11CYDAG - Yr Ysgol SgwrsioCYDAG - Yr Ysgol SgwrsioPennod 1 - Addysgu Tu Hwnt i Gymru – Sioned Wyn JonesMae Sioned yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llandegfan, Ynys Môn ond cyn hynny, mae hi wedi bod yn addysgu yn Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia ac yn Ysgol Gymraeg Llundain.  Yn y bennod hon mae Sioned yn siarad am ei phrofiadau o addysgu tu hwnt i Gymru a sut mae hynny wedi ei siapio hi fod yr athrawes ydi hi heddiw.2024-11-171h 06