Look for any podcast host, guest or anyone
Showing episodes and shows of

Clera

Shows

CleraCleraClera Gorffennaf 2025Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a llawer mwy o'r perlau a'r dwli arferol! Diolch i Llŷr Gwyn am y llun sydd ar y clawr.2025-07-151h 36CleraCleraClera Mai 2025Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, y pwnco a llawer llawer mwy! Diolch hefyd i Tudur Dylan Jones a'i awyren am y llun bendigedig ar glawr y bennod.2025-05-301h 21CleraCleraClera Ebrill 2025Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad. Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dyla...2025-04-301h 23CleraCleraClera Mawrth 2025Clera Mawrth 2025 by Clera2025-03-291h 44CleraCleraClera Chwefror 2025Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!2025-02-271h 33CleraCleraClera Ionawr 2025Clera Ionawr 2025 by Clera2025-01-311h 37CleraCleraClera Rhagfyr 2024Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arf...2024-12-201h 52CleraCleraClera Tachwedd 2024Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.2024-11-301h 36CleraCleraClera Hydref 2024Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co...2024-10-311h 32CleraCleraClera Medi 2024Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.2024-09-281h 55CleraCleraClera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell LênCroeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.2024-08-1745 minCleraCleraClera Mehefin 2024Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!2024-06-291h 16CleraCleraClera Mai 2024Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!2024-05-261h 14CleraCleraClera Ebrill 2024Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.2024-04-291h 18CleraCleraClera Mawrth 2024Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.2024-03-231h 14CleraCleraClera Rhagfyr 2023Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.2023-12-191h 41CleraCleraClera Tachwedd 2023Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!2023-11-291h 26CleraCleraClera Awst 2023Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.2023-08-311h 01CleraCleraClera Gorffennaf 2023Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o...2023-07-211h 32CleraCleraClera Mehefin 2023Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.2023-06-301h 43CleraCleraClera Mai 2023 - Eisteddfod yr UrddPennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen Bruce-Deans o'i chyfrol gyntaf, 'Gwawrio'.2023-05-3140 minCleraCleraClera Ebrill 2023Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Hefyd, cawn drafodaeth ddifyr gyda Gruffudd Antur am hen drawiadau ym myd y gynghanedd yn y Pwnco. Mwynhewch!2023-04-291h 23CleraCleraClera Mawrth 2023Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ragoriaethau a heriau sgwennu awdl. Hefyd, fe gawn flas o gyfrol newydd o gerddi y Prifardd Hywel Griffiths, 'Y Traeth o Dan y Stryd', yn ogystal a'r Delicassy gan (Tudur) Dylan a chwmni ein berniad miniog Gruffudd Antur ar gyfer llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Mwynhewch!2023-03-301h 18CleraCleraClera Chwefror 2023Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a G...2023-02-281h 27CleraCleraClera Ionawr 2023Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd.2023-01-251h 14CleraCleraClera Rhagfyr 2022Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James. Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn.2022-12-181h 16CleraCleraClera Tachwedd 2022Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch2022-11-301h 34CleraCleraClera Hydref 2022Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor. Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'.2022-10-3159 minCleraCleraClera Medi 2022Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans.2022-09-301h 24CleraCleraClera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig.2022-08-081h 09CleraCleraClera Gorffennaf 2022Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.2022-07-291h 06CleraCleraClera Mehefin 2022Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.2022-06-301h 34CleraCleraClera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch2022-05-251h 20CleraCleraClera Ebrill 2022Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng Nghaerfyrddin. Ifor ap Glyn sy'n trafod ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru, 'Sudoku Iaith' ac Emyr 'Y Graig' Davies sy'n cynnig Gorffwysgerdd i ddiolch am Sgwîdji! Hyn, a llawer iawn mwy, heb anghofio cerdd yn Almaeneg gan Dani Schlick.2022-04-291h 23CleraCleraClera Mawrth 2022Mae'r gwanwyn wedi dod â phennod newydd o Clera yn ei sgil. Cyfrniadau gwych a difyr gan Kate Wheeler yn ein heitem newydd sef, 'Gwrando Awen ein Gwradawyr', dwy orffwysgerdd deimladwy gan y Prifardd Dafydd John Pritchard, Delicassy gan (Tudur) Dylan, y Pos a llawer mwy gan Gruffudd Antur ac Aneurig.2022-03-301h 11CleraCleraClera Chwefror 2022Mae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn gyda chyfraniadau hefyd gan Sian Northey (Cerdd o'r gyfrol a olygwyd ganddi a Ness Owen, A470), Tudur Dylan a'n Posfeistr hollwybodus Gruffudd Antur. Mwynhewch!2022-02-281h 21CleraCleraClera Ionawr 2022Blwyddyn newydd ddaa chroeso i bennod gyntaf Clera yn 2022! Y mis hwn, yng nhgwmni Aneurig a Gruffudd Antur cawn Orffwysgerdd gan Jo Heyde, cyfraniadau am eu troion cyntaf yn cystadlu ar y Talwrn fel aelodau o dimau newydd (nid o reidrwyd yr ymddangosiadau cyntaf ar y Talwrn) gan Megan Elenid Lewis, Matthew Tucker a Manon Wyn Davies. Y Delicassy gan Dylan, Llinell Gynganeddol Dddamweiniol y Mis a llawer mwy!2022-01-311h 08CleraCleraClera Rhagfyr 2021Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.2021-12-201h 13CleraCleraClera Tachwedd 2021Croeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac An Chabrando Rees ar gipio Cadair y ffermwyr Ifanc a Chadair Eisteddvod Trevelin. Cawn hefyd gyfraniad gwych iawn gan Gruffudd Eifion Owen am y vers libre cyngaenddol a chwmni ein Posfeistr hoff, Gruffudd Antur. Heb sôn am ddiweddgan gan Llion Jones i Gareth Bale.2021-11-291h 34CleraCleraClera Hydref 2021 - Pennod y Pum Mlwyddiant!Croeso i bennod sy'n dathlu pum mlwyddiant Clera! Diolch o galon i'n holl wrandawyr selog am barhau i'n cefnogi dros y pum mlynedd. Yn y bennod hon mae gyda ni sgwrs gyda'n noddwr, Llŷr Hael. Blas o Ymryson Gwyl Gerallt a thrafodaeth Cymdeithas Ceredigion ar y cyfansoddiadau AmGen, cerdd arbennig gan y Prifardd Osian Rhys Jones a llawer mwy, Diolch i Alaw Griffiths am y llun ar glawr y bennod.2021-10-291h 19CleraCleraClera Medi 2021Croeso i'r bennod hiraf yn ein hanes! Ond gyda chymaint i'w gynnwys, dyna'r unig ffordd i wneud teilyngdod â chyfraniadau Anwen pierce, Alaw Mai Edwards, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Gruffudd Antur ac Osian Bonc! Cawn felly adolygiad o Gyfansoddiadau Amgen 2021, Sgwrs ddifyr gyda Sara ac Osian am lwyfaniad arbennig sydd ar y gweill o waith barddol a llawer llawer mwy! Mwynhewch.2021-09-301h 40CleraCleraClera Awst 2021 - Cadwyn o OrffwysgerddiPennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!2021-08-211h 15CleraCleraClera Gorffennaf 2021Ym mhennod Mis Gorffennaf mae gennym deyrnged i'r diweddar David R. Edwards, neu Dave Datblygu. Hefyd cawn gerdd deyrnged iddo gan Ifor ap Glyn a chyfraniadau arbennig gan Lleucu Siencyn a Nerys Williams. Cawn sgwrs yn ogystal gyda Nia Morais a chwmni ein Posfeistr Gruffudd Antur. Hyn a llawer mwy.2021-07-201h 35CleraCleraClera Mehefin 2021Recordiwyd y bennod hon ar Alban Hefin, cyn inni glywed am golli David R Edwards. Bydd teyrnged i Dave Datblygu, felly, ym mhennod mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, mae pennod orlawn yn eich disgwyl a'r haf yn ei anterth.2021-06-241h 30CleraCleraClera Mai 2021Croeso i Glera mis Mai! Cawn orffwysgerdd ddwbwl gan y tad a'r mab, John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones, pos ac eitem swmpus gan Gruffudd a'i Lawysgriffau a chyfle i glywed llais newydd, sef Anne Phillips. Hyn a chymaint mwy! Mwynhewch2021-05-281h 28CleraCleraClera Ebrill 2021Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hyn cawn gwmni'r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan ac Ifor ap Glyn ac fe gawn sgwrs gyda Phrifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses. Hyn a chymaint mwy, mwynhewch!2021-04-301h 30CleraCleraClera Mawrth 2021Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad mwyaf barddol y byd. Yn ogystal â chlywed am dwf garlleg Eurig cawn sgwrs gyda’r Arthro-Brifardd Tudur Hallam am ddehongliad R.M. ‘Bobi’ Jones o’r gynghanedd. Cawn orffwysgerdd o gywydd hyfryd gan Les Barker a bydd y Posfeistr, Gruffudd Antur, nid yn unig yn cynnig atebion i’r poas diwethaf ac yn gosod pos newydd ond mi fydd e hefyd yn cynnig eitem newydd inni sef ‘Gruffudd a’i Lawysgriffau’. Hyn a mwy! Mwynhewch.2021-03-271h 27CleraCleraClera Chwefror 2021Croeso i bennod fawr y mis bach. Y tro hwn cawn gw,mni Bardd Plant Cymru, gruffudd Eifion Owen, yn ogystal a'n Posfeistr hollwybodus. Cerdd arbennig ac egsliwsif yn yr orffwysfa gan Rufus Mufasa. Eitem bryfoclyd am y gynghanedd gan Simon Chandler a rhagflas o traglen arbennig fydd gan Clera ar eich cyfer sef y Talwrn Ifanc.2021-02-251h 21CleraCleraClera Ionawr 2021Blwyddyn newydd gaeth i chi gyd! Cawn gwmni ein Posfeistr hollwybodus, Gruffudd Antur, drwy gydol y bennod hon o Clera. Yn ogystal a hynny, cawn gerdd gan Megan Haf Davies, bardd ifanc o Rydaman a'r bardd sydd yn y bath y tro hwn yw'r Prifardd Osian Rhys Jones.2021-01-301h 18CleraCleraClera Rhagfyr 2020Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem.2020-12-201h 26CleraCleraClera Tachwedd 2020Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch.2020-11-281h 31CleraCleraClera Hydref 2020Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch2020-10-291h 08CleraCleraClera Medi 2020Croeso i bennod mis Medi o bodlediad Clera. Yn y bennod hon cawn gerdd o gyfrol newydd sbon Casia Wiliam, 'Eiliad ac Einioes' (Cyhoeddiadau Barddas), fe glywn gan Alaw Griffiths sy'n dechrau swydd newydd fel Cydlynydd Barddas ac fe gawn hefyd y pos gan yr hollwybodus Bosfeistr, Gruffudd Antur a Phwnco am Huw Morys a beirdd 'y dirywiad', gan holi ydy'r cyfnod modern cynnar o ran y traddodiad barddol wir yn gyfnod o ddirywio?2020-09-301h 16CleraCleraClera Awst - Gemau a GiamocsPennod arbennig o'r Babell Lên AmGen. Recordiwyd hon ar Zoom gyda'n gwesteion arbennig Llio Maddocks, Elinor Wyn Reynolds, Ani Llŷn a Gruffudd Antur. Cawn drafodaeth bwnco ar gyhoeddi answyddogol, gorffwysgerdd arbennig gan Llio Maddocks, pos difyr gan Gruff a gemau a giamocs i gloi. (Maddeuwch y brychau bychain o ran sain)2020-08-2555 minCleraCleraClera Gorffennaf 2020 - 'Y Gynghanedd Heddiw'Pennod arbennig sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar gyfrol y mae Aneurig ar fin ei chyhoeddi, sef Y Gynghanedd Heddiw. Mwynhewch drafodaeth am y gyfrol a cherdd dafod yng nghwmni gwesteion arbennig, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Caryl Bryn a Rhys Iorwerth. Diolch i'r Eisteddfod AmGen am gael defnyddio'r sain o'n trafodaeth fel rhan o ddarpariaeth amgen yr Eisteddfod. Hefyd cawn gerdd yn yr Orffwysfa gan Aled Lewis Evans, sydd newydd gyhoeddi cyfrol am Wrecsam, sef Tre Terfyn (Gwasg Carreg Gwalch).2020-07-2858 minCleraCleraMehefin 2020Croeso i bennod mis Mehefin o Clera. Y mis hwn rydyn ni'n cael tair gorffwysgerdd gan feirdd buddugol Eisteddfod T yr Urdd, sef Osian Wyn owen, Cristyn Rhydderch Davies a Lois Campbell. Caryl Bryn yw'r Bardd yn y Bath, Llyr Gwyn lewis sy'n trafod ei bamffled newydd o gerddi ac mae Gruffudd a'i Ymennydd llawn Minnions yn cynnig pos difyr arall. Hyn oll a llawer mwy.2020-06-291h 25CleraCleraClera Mai 2020'Dechreuad mwyn dyfiad Mai', a ganodd Dafydd ap Gwilym. Croeso i bennod mis Mai o bodlediad Clera. Cawn ddwy gerdd y tro hwn gan y Prifardd a'r Bardd Cenedolaethol, Ifor ap Glyn. Pos difyr gan Gruffudd Antur. Rhys Iorwerth yw'r Bardd yn y Bath ac fe gawn wrth gwrs yr eitemau arferol a llawer mwy!2020-05-281h 18CleraCleraClera Ebrill 2020Croeso i'r ail bennod o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr. Mwynhewch, cadwch eich pellter, parchwch eraill yn y siopau a chefnogwch ein gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol a chadwch yn ddiogel.2020-04-301h 06CleraCleraClera Mawrth 2020Podlediad cyntaf Clera yn y lockdown.2020-03-3056 minCleraCleraClera Chwefror 2020Croeso i bennod mis Chwefror o bodlediad Clera. Yn rhifyn y mis bach rydyn ni'n pwnco am feirniadu eisteddfodol, yn cael gorffwsgerdd arbennig gan goilad o feirdd sy'n canu am Frecsit ac yn clywed unwaith eto gan ein Posfeistr doeth a hollwybodus, Gruffudd Antur. Mwynhewch!2020-02-281h 00CleraCleraClera Ionawr 2020Croeso i'r bennod gyntaf o Clera yn y ddegawd newydd! Yn y bennod hon, mae gennym yr orchwyl drom o gofio Dai Rees Davies a gollwyd cyn Nadolig. Bardd, cynganeddwr, diddanwr, cefnogwr y pethe. Yn ogystal, cawn rai o'r eitemau arferol, y Pwnco, y Pos, y Newyddion a llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Cawn hefyd gerdd gan Eurig ei hun o'i gyfrol llyfr Gwyrdd Ystwyth. Diolch i Tudur Dylan am y llun o Dai Rees Davies ar glawr y bennod hon.2020-01-211h 08CleraCleraClera Rhagfyr 2019Croeso i bennod y gaeaf noethlwm a'r Nadolig. Fel arfer, mae llwyth o ddanteithion barddol yn eich disgwyl, o Orffwysgerdd newydd sbon gan Geraint Lovgreen i lu o leisiau amrywiol yn trafod cyfrolau a chyhoeddiadau newydd sy'n eich disgwyl yn y siopau. Hyn oll, a chymaint mwy, o Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r Pos gan gruffud Antur i eitem gsan Eurig o daith ddiweddar i India!2019-12-151h 17CleraCleraClera Tachwedd 2019Croeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!2019-11-271h 13CleraCleraClera Hydref 2019Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!2019-11-0154 minCleraCleraClera Medi 2019Rhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn oll a mwy!2019-09-291h 14CleraCleraClera Yn Fyw o'r EisteddfodPennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr.2019-08-2051 minCleraCleraClera Gorffennaf 2019Pennod Fyrddinaidd!2019-07-311h 05CleraCleraClera Mehefin 2018Sgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!2019-06-291h 14CleraCleraClera Mai 2019Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am y ffenomen hynod Gymraeg a Chymreig o ddiffyg teilyngdod mewn eisteddfodau. Cawn orffwysgerdd gan Judith Musker-Turner. Awn i Lydaw i drafod cynganeddu yn 2019-05-301h 15CleraCleraClera Ebrill 2019Croeso i bennod mis Ebrill o Clera! Y tro hyn rydyn ni'n dathlu pen-blwydd arbennig y prifardd-archdderwydd Jim Parc Nest, yn parhau i drafod y Stomp gyda rhai o drefnwyr y nosweithi poblogaidd dros y blynyddoedd, Ceri Anwen James a Leusa Llewelyn, ry'n ni hefyd yn fyw yn lansiad cyfrol y Prifardd Idris Reynolds, yn cyfweld a chynganeddwr o Sheffield yn Llydaw sef Felix Parker Price, y pos a llawer mwy!2019-04-261h 12CleraCleraClera Mawrth 2019Trafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch.2019-03-291h 12CleraCleraClera Chwefror 2019Croeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!2019-02-231h 08CleraCleraClera Ionawr 2019Blwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy.2019-01-301h 10CleraCleraClera Rhagfyr 2018Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.2018-12-231h 09CleraCleraClera Tachwedd 2018Ym mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!2018-11-281h 06CleraCleraClera Hydref 2018Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!2018-10-311h 06CleraCleraMedi 2018Dyma bennod gyntaf Clera ers i Nei ffoi i Lydaw a gadael i Eurig wynebu Brexit ar ei ben ei hun...ond tybed a fydd Eurig yn gorfod podledu ar ei ben ei hun yn ogystal...? Uchafbwynt arall y bennod yw sgwrs ddifyr gyda'r Prifardd Catrin Dafydd. Mwynhewch!2018-09-2053 minCleraCleraClera Awst 2018Pennod fyw o’r Babell Lên gyda’n gwesteion arbennig, prifweithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, prifardd y Gadair Gruffudd Eifion Owen, y gomediwraig Beth Jones, ein posfeistr Gruffudd Antur a bardd yr orffwysfa y prifardd Rhys Iorwerth. Sgyrsiau, gemau a giamocs!2018-08-1748 minCleraCleraClera Gorffennaf 2018Ffarwel i Ffostrasol! Dros y misoedd diwethaf bu Aneurig yn cwrdd yn Nhafarn Ffostrasol er mwyn recordio Clera. Gyda Nei yn mynd i fyw yn Llydaw am flwyddyn o fis Awst ymlaen, dyma'r cyfarfyddiad olaf yn Ffostrasol am sbel. Dyma, felly, bennod arbennig o Clera yn Nhafarn FFostrasol, yng nghwmni rhai o feirdd Tim Talwrn Ffostrasol, heb anghofio'r pos, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy.2018-07-171h 05CleraCleraClera Mehefin 2018Pennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy2018-06-1850 minCleraCleraClera Mai 2018Pennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a llawer mwy! Diolch i Betsan Haf Evans (cwmni Celf Calon) am y llun o Alan Llwyd sydd ar glawr y bennod.2018-05-251h 14CleraCleraClera Ebrill 2018Pennod arbennig am ei bod yn cynnwys cyfraniad gan rai o leisiau ac enwau enwocaf y byd canu Cymraeg: Huw Chiswell, Rhys Meirion, Elin Fflur, Twm Morys, Gwyneth Glyn a Cleif Harpwood. Hefyd, mae cerdd yr orffwysfa yn un newydd sbon gan y Prifardd dwbwl Alan Llwyd. Hyn oll, y pos gan Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamwiniol y mis, y newyddion a mwy!2018-04-3058 minCleraCleraClera Mawrth 2018Ym mhennod gyntaf y gwanwyn mae Aneurig yn Pwnco am y ddadl rhwng beirdd sy'n darllen eu gwaith a beirdd sy'n perfformio eu gwaith o'r cof. Mae sgwrs gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru a Steffan Phillips o Lenyddiaeth Cymru, a cherdd yr Orffwysfa yn un arbennig iawn gan taw dyma gywydd croeso Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r fro 2019, gyda'r Prifardd Osian Rhys Jones. Hyn oll a llwyth o'r difyrrwch arferol hefyd.2018-03-1154 minCleraCleraClera Chwefror 2018Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am beth yw gwerth cerdd, yn sgil colofn ar y pwnc yn Barddas gan y prifardd Ceri Wyn Jones. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Gwyneth Lewis ac rydym hefyd yn adrodd hanes sioe farddol newydd Karen Owen, sef 7 Llais, heb son am lwyth o'r pethau difyr eraill sy'n arferol ar Clera. Diolch yn fawr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones am gael defnyddio ei lun o Karen Owen ar glawr y bennod hon.2018-02-1757 minCleraCleraIonawr 2018Croeso i bennod gynta'r flwyddyn o Clera o gynhesrwydd Tafarn Ffostrasol. Rydyn ni'n dechrau 2018 gydag armywiaeth o bethau barddol, difyr a geeky! Pwnco am y gynghanedd a sut i ateb aceniad estron rhai geiriau, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Cerdd Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs am ffurf yr Anterliwt a llawer mwy o'r eitemau arferol.2018-01-1946 minCleraCleraClera Rhagfyr 2017Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.2017-12-1753 minCleraCleraClera Tachwedd 2017Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!2017-11-2459 minCleraCleraClera Hydref 17Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!2017-10-0153 minCleraCleraClera Medi 2017Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw.2017-09-1746 minCleraCleraClera Awst o'r Babell LênPennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra.2017-08-1645 minCleraCleraClera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr DolgellauPennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!2017-07-2543 minCleraCleraClera MehefinPennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!2017-06-2647 minCleraCleraClera Mai 2017Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!2017-05-151h 02CleraCleraClera Ebrill 2017Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth o newyddion a mwy!2017-04-091h 12CleraCleraClera Mawrth 2017Pennod Mis Mawrth 2017 o Clera. Pennod lawn dop y tro hwn, gyda sgwrs Pwnco yn dod o Dy Newydd, Llanystumdwy, Cerdd gan Nofelydd o fri, eitem newydd sbon, sgwrs gyda Golygyddion Y Stamp, adroddiad ar frwydr Slam Farddol fawr, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!2017-03-141h 10CleraCleraClera Chwefror 2017Pennod y Mis Bach, 2017, o Clera. Digon o geekrwydd cynganeddol yn y bennod hon, gyda'r gwestai arbennig, Iwan Rhys, hefyd cerdd newydd gan Fardd Plant Cymru, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy.2017-02-1257 minCleraCleraClera Ionawr 2017Clera Ionawr 2017 by Clera2017-01-161h 03CleraCleraClera Mis RhagfyrPennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.2016-12-1652 minCleraCleraClera Tachwedd 20161. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion2016-11-1951 minCleraCleraClera Hydref 2016Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.2016-10-2648 min