podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Cyswllt Ffermio
Shows
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#119 - Sut i gynyddu elw drwy sicrhau bod eich cyfradd stocio a phori yn iawn
Ymunwch ag Ifan Jones Evans ar gyfer yr ail bennod yn ein cyfres arbennig ar ffermio proffidiol a chynhyrchiol yng Nghymru. Y tro hwn, rydym yn edrych yn fanwl ar systemau ffermio sy'n seiliedig ar laswellt. Mae Ifan yn teithio i Moelogan, Llanrwst, i gwrdd â Llion a Sian Jones. Mae'r pâr arloesol ar genhadaeth i greu fferm ucheldir broffidiol gan ddefnyddio system sy'n seiliedig ar borfa, gan wthio ffiniau rheoli glaswellt dros 1,000 troedfedd. Darganfyddwch beth sydd wir yn bosibl gyda'r rheolaeth gywir yn y bennod graff hon! Pwyntiau Allweddol: Cydbwyso Cyf...
2025-06-27
30 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#118- Deall Sut i Gwblhau Cynllun Busnes Syml a Chyfrif Rheoli gydag Aled Evans, Rest Farm, Henllan Amgoed
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad cyfres newydd arbennig sy'n ymroddedig i ffermio proffidiol a chynhyrchiol yng Nghymru, a gyflwynir gan Ifan Jones Evans. Yn y bennod agoriadol hon, rydym yn edrych yn fanwl ar gymryd rheolaeth o gyllid eich fferm er mwyn gwneud penderfyniadau mwy craff. Ymunwn ag Aled Evans o Rest Farm, derbynnydd Gwobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn y Farmers Weekly. Cymerodd Aled, sy'n ffermio mewn partneriaeth â'i frawd Iwan, Rest Farm yn Henllan Amgoed drosodd â dalen wag. Fe wnaethant weithredu system mewnbwn isel, yn seiliedig ar laswellt yn strategol, gan flaenoriaethu delfrydau amgylcheddol. Mae eu...
2025-06-13
30 min
The Legal Lounge from LBLaw.co.uk
Cefnogaeth Olyniaeth gan Cyswllt Ffermio i Ffermwyr yng Nghymru
Yn y bennod hon rydym yn croesawu Einir, Pennaeth Sgiliau Mentera. Mae Einir yn sgwrsio gyda’n cyfreithiwr Sioned Williams am y gefnogaeth y gall Mentera ei gynnig i gleientiaid ffermio, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio olyniaeth. Maent hefyd yn trafod sut y gall Lanyon Bowdler helpu i sicrhau bod y dogfennau perthnasol yn cael eu cynhyrchu gyda mynediad i arian drwy Cyswllt Ffermio. Croeso i The Legal Lounge, lle byddwch chi'n clywed gan Amanda a'i thîm o gyfreithwyr o Gyfreithwyr Lanyon Bowdler yn siarad am sawl agwedd ar y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Yn ysto...
2025-06-09
18 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#112 - Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru
Croeso i 'Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru,' lle rydym yn archwilio potensial tyfu cnau yng Nghymru. Yn y bennod hon, cawn gwrdd â Martyn Williams o Sir Gaerfyrddin sydd wedi mentro i fyd cynhyrchu coed cnau. Gyda chefnogaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae wedi plannu coed cnau Ffrengig a chastanwydd melys ar ei dir, gan obeithio datgloi ffynhonnell newydd o incwm a chyfrannu at ddyfodol amaethyddol mwy cynaliadwy. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio i heriau a gwobrau’r prosiect uchelgeisiol hwn, a darganfod a all Cymru ddod yn hafan i dyfwyr cnau. Mae Tom Tame, sy'n tyfu Cnau Ffrengig yn f...
2025-01-26
52 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#108 - Gweithio tuag at hunangynhaliaeth mewn protein
Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn un o 15 digwyddiad fferm arddangos Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd drwy gydol mis Medi 2024. Rydym yn Fferm Lower House ger Llandrindod gyda Robert a Jessica Lyon. Maent yn ffermio 146 hectar ac yn rhedeg menter gymysg, gan wyna 900 o famogiaid yn ogystal â 32,000 o frwyliaid. Maen nhw hefyd yn gorffen 150 o heffrod croes Belgian Blue yn flynyddol. Mae fferm Lower House wedi treialu cynnwys pys a ffa a brynwyd i mewn yn y dogn mamogiaid beichiog y gaeaf diwethaf er mwyn cynyddu gwytnwch a lleihau ôl troed carbon ei fferm, mae Robert eisiau...
2024-10-27
18 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#105 - Gwella Effeithlonrwydd ar fferm Glascoed, Y Drenewydd
Cyfle arall i glywed trafodaeth yn ystod y digwyddiad hwn ar y fferm Glascoed. Bydd yr arbenigwraig defaid, Kate Phillips yn arwain y drafodaeth rhwng Alwyn a Dylan Nutting ac yn son am ganfyddiadau’r adolygiad a gynhaliwyd yn Glascoed i nodi meysydd cyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Alwyn a Dylan yn rhannu sut mae gwneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen bori cylchdro wedi chwarae rhan mewn cyflawni gostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu. Yn ymuno hefyd yn y sgwrs bydd Non Williams, Swyddo...
2024-07-21
36 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#102 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 2
Croeso i Glust i'r Ddaear. Mae hon yn bennod dwy ran sy’n canolbwyntio ar y wybodaeth a ddosbarthwyd i ffermwyr mewn Digwyddiad Cyswllt Ffermio diweddar yn Dylysau Uchaf, Padog, Dyffryn Conwy. Os nad ydych wedi gwrando ar y bennod flaenorol eto, cofiwch wneud hynny gan ei fod yn cynnwys manylion cefndir y fenter ffermio yn Dylasau ynghyd â chanolbwyntio ar agwedd allweddol o’r prosiect yno sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd silwair er mwyn sicrhau fod y fferm yn llai dibynnol ar ddwysfwyd a brynir i mewn. Yn ystod y digwyddiad fferm hwn, bu Joe Angell, o filfeddygon y Wer...
2024-06-02
38 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#101 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 1
Yn y bennod dwy ran hon rydym yn ymweld ag un o'n ffermydd ffocws sy'n ymwneud â Rhwydwaith Ein Ffermydd. Mae Beca Glyn ar teulu yn ffermio yn Dylasau Uchaf, Padog, Dyffryn Conwy ac eleni wedi bod yn gweithio ar y cyd â Cyswllt Ffermio i wneud gwell defnydd o’r silwair a gynhyrchir ar y fferm fel eu bod yn llai dibynnol ar ddwysfwyd a brynir i mewn. Manteisiwyd ar y cyfle i gasglu’r wybodaeth a roddwyd i’r ffermwyr a fynychodd ein digwyddiad agored yn Nylasau yn ddiweddar. I ddechrau, byddwn ni’n clywed gan James Holloway, Y...
2024-06-02
29 min
Beti a'i Phobol
Geraint Jones
Geraint Jones cyn-swyddog cyswllt amaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyn aelod o’r band Rocyn yw gwestai Beti George. Fe fu'n gweithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am 40 mlynedd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a ffermio. Mae bellach yn gweithio fel bownsar neu geidwad drysau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi wynebu dau gyfnod o salwch difrifol, ac yn siarad yn agored iawn am yr heriau a wynebodd.
2024-03-24
50 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#95 - Diweddariad Ein Ffermydd: Tyfu yng Nghymru - Rhan 1. Treialu technegau rhyng-gnydio codlysiau-grawnfwyd ar gyfer cynhyrchu bwyd
Yn y bennod fer hon, bydd swyddog Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Hannah Norman, yn cael cwmni Alex Cook, Bremenda Isaf, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin a fydd yn trafod eu prosiect l archwilio technegau rhyng-gnydio codlysiau-grawn ar gyfer cynhyrchu bwyd i’w fwyta gan bobl.
2024-03-10
11 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#92 - Mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru
Mae Cennydd Jones yn cael cwmni Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon, Cyswllt Ffermio. Mae'r rhifyn hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau archwiliadau ôl-troed carbon a gwblhawyd ar 185 o ffermydd bîff a defaid drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwrpas yr astudiaeth fer hon oedd crynhoi canlyniadau’r archwiliadau hyn a gwblhawyd yn 2022 er mwyn echdynnu ffigyrau defnyddiol a fydd yn rhoi mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru. Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is n...
2024-01-28
43 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#90 - Cyfleoedd i arallgyfeirio o fewn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru
Mae adroddiad diweddar yn awgrymu ein bod ni’n cynhyrchu 3.5% o’r ffrwythau a’r llysiau rydyn ni’n eu bwyta fel poblogaeth yma yng Nghymru. Os ydych yn ffermwr sydd am arallgyfeirio neu ychwanegu menter arall ar y fferm, gallai'r podlediad hwn eich cymell i edrych ar yr opsiynau. Ymunwch gyda'r tri sydd ar y panel - Mae gan John Morris a'i deulu o Grucywel 8 menter ar y fferm, mae'n disgrifio ei hun fel 'gweithredwr defnydd tir' sydd yn cynhyrchu incwm o fferm gymharol fach trwy sawl menter arallgyfeirio. Rydym hefyd yn clywed wrth Edward Morgan, yn cynrychioli Castell...
2023-12-10
34 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#89 - Ai menter ar y cyd yw’r ateb i ddiwydiant sy’n heneiddio?
Trafodaeth banel rhwng aelodau’r Academi Amaeth sydd wedi llunio eu cytundebau menter ar y cyd ei hunain, Anna Bowen, Andersons Centre ac Eiry Williams o Cyswllt Ffermio
2023-11-26
26 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#81 - Dyfodol moesegol y diwidiant llaeth
Mae Angharad Menna, cyflwynydd newydd arall ar y podlediad hwn yn cyfweld â’i gwestai cyntaf, Anna Bowen, Ysgolhaig Nuffield (a noddir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creake) sydd wedi teithio’r byd i astudio dyfodol moesegol ffermio llaeth. O fewn y bennod hon, byddwn yn clywed mewn manylder am eu phrofiadau mewn meysydd megis ymarferoldeb cyswllt buchod a lloi, y defnydd gorau o semen rhyw, a dod o hyd i farchnad ar gyfer lloi eidion or fuches laeth. A allai’r diwydiant hefyd ddysgu oddi wrth rasio ceffylau a’i drwydded gymdeithasol? Os yw'r bennod hon yn eich cymell i e...
2023-07-04
1h 04
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#80 - Jim Elizondo Real Wealth Ranching- 'A allwn wneud y mwyaf o elw fferm tra hefyd yn gwella'r amgylchedd?'
'Rancher' gwartheg o Texas yw Jim Elizondo sydd â 30 mlynedd o brofiad o reoli da byw mewn amodau hinsawdd amrywiol ar draws America a thu hwnt. Mae ei angerdd yn helpu ffermwyr i adfywio eu tir tra'n cyrraedd y proffidioldeb mwyaf bosib. Mae’n darparu hyfforddiant ‘Real Wealth Ranching’ i gleientiaid o bob rhan o’r byd ac mae wedi helpu nifer o fusnesau fferm i gyrraedd y cynhyrchiant mwyaf posibl wrth adfywio eu tir. Yn ddiweddar bu Jim yn cyflwyno mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio, mae’r bennod hon a gyflwynir gan Cennydd Jones yn gyfle arall i glywed cefn...
2023-06-25
48 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#79 - Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomedig am wlan yn ddiweddar. Er bod y llun eto'r tymor hwn yn edrych fel un heriol, mae yna ddigonedd o weithgarwch y tu ôl i'r llenni i wireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas. Mae Alison Harvey yn cwrdd â thri gwestai a all roi mwy o sylwedd i'r agwedd bwysig hon. Gareth Jones, Rheolwr marchnata cynhyrchwyr yn British Wool, Sara Jenkins, gwraig Fferm a Arweinydd Agisgôp Cyswllt Ffermio...
2023-06-04
44 min
Pod Profi
#15 Ffion; Mentera; Food & Agriculture
Podlediad Saesneg gyda Ffion o Mentera | An English podcast with Ffion from MenteraMae Mentera yn arwain y ffordd er mwyn sicrhau datblygiad economaidd parhaus yng Nghymru. Maent yn cefnogi unigolion, grwpiau a busnesau bach a chanolig ledled Cymru a thu hwnt i ddechrau a thyfu, trwy eu rhaglenni cefnogi busnes wedi’u teilwra. Maent wedi llunio’r rhaglenni hyn i ymateb i ofynion grwpiau targed penodol, ac maent wedi llwyddo i helpu nifer fawr o entrepreneuriaid i sefydlu a rhedeg eu busnesau a’u paratoi i ddatblygu ymhellach. Mae prosiect Cyswllt Ffermio yn cynnig cefnogaeth sy’n t...
2023-05-25
23 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#74 - Electricity for poultry production and renewable options
This episode is the second in our series for poultry producers, but the content will also be of interest for farmers with high on site energy consumption. Catherine Price, Lead Dairy and Poultry Technical Officer at Farming Connect is joined by not one, not two but three guests. We have egg producers Llyr Jones and Osian Williams who have invested heavily in renewable energy on farm and energy specialist Chris Brooks which provides a deeper understanding of what's driven the energy price increase, and how we can look at our energy efficiency before considering if renewable energy is still a vi...
2022-12-11
47 min
Pod Profi
#15 Ffion; Menter a Busnes; Food & Agriculture
Podlediad Saesneg gyda Ffion o Menter a Busnes | An English podcast with Ffion from Menter a BusnesMae Menter a Busnes yn arwain y ffordd er mwyn sicrhau datblygiad economaidd parhaus yng Nghymru. Maent yn cefnogi unigolion, grwpiau a busnesau bach a chanolig ledled Cymru a thu hwnt i ddechrau a thyfu, trwy eu rhaglenni cefnogi busnes wedi’u teilwra. Maent wedi llunio’r rhaglenni hyn i ymateb i ofynion grwpiau targed penodol, ac maent wedi llwyddo i helpu nifer fawr o entrepreneuriaid i sefydlu a rhedeg eu busnesau a’u paratoi i ddatblygu ymhellach. Mae prosie...
2022-12-08
23 min
Pod Profi
#14 Ffion; Menter a Busnes; Bwyd ac Amaeth
Podlediad Cymraeg gyda Ffion o Menter a Busnes | A Welsh podcast with Ffion from Menter a BusnesMae Menter a Busnes yn arwain y ffordd er mwyn sicrhau datblygiad economaidd parhaus yng Nghymru. Maent yn cefnogi unigolion, grwpiau a busnesau bach a chanolig ledled Cymru a thu hwnt i ddechrau a thyfu, trwy eu rhaglenni cefnogi busnes wedi’u teilwra. Maent wedi llunio’r rhaglenni hyn i ymateb i ofynion grwpiau targed penodol, ac maent wedi llwyddo i helpu nifer fawr o entrepreneuriaid i sefydlu a rhedeg eu busnesau a’u paratoi i ddatblygu ymhellach. Mae prosie...
2022-12-08
27 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
Gwella perfformiad amgylcheddol ac economaidd y fferm
Mae Geraint Davies o Fferm Fedw Arian Uchaf ger Y Bala yn rhannu’r hyn y mae wedi bod yn ei wneud i wella perfformiad amgylcheddol ac economaidd ei fferm o blannu gwrychoedd newydd i gyflwyno system gylchbori a threialu amaeth-goedwigaeth. Hefyd ar y podlediad mae Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi bod yn gweithio gyda Fedw Arian fel un o ffermydd ffocws Cyswllt Ffermio.
2022-07-03
31 min