podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Gyrfa Cymru
Shows
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Awst 6, 2025
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1Dyfarnwr: Referee Dwys: Intense Anghytuno: Disagreeing Ddim yn ei anterth: Not at his peak Doniol tu hwnt: Extremely amusing Dychwelyd: To return Yn selog; Regularly Arddegau hwyr: Late teens Galw llinellau: Calling the lines Lled-broffesiynol: Semi professional Yr hadyn wedi ei blannu: The seed was planted
2025-08-06
27 min
Be' Nesa'
Ar Daith efo Busnes Cymru a Awen Haf Ashworth (Sbarduno)
Mae Be' Nesa' yn mynd ar daith eto. Yn cynnal y bennod hon fel arfer mae Beth Edwards, ynghyd â chyd-gyflwynydd Busnes Cymru, Kerry Cohen. Dyn ni’n ymuno gan Awen Haf Ashworth o Sbarduno a Inspire. Mae Awen wedi graddio o Brifysgol Bangor ac yma i rannu ei stori am ei gyrfa a phrofiad. Peidiwch â phoeni, rydym yn siarad am lawer mwy na dim ond dechrau busnes. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am Sbarduno drwy'r dolenni isod:Wefan: https://sbarduno.com/ Ebost: awen@sbarduno.com Facebook: https://www.facebook.com/sb...
2025-06-30
44 min
Y Coridor Ansicrwydd
Croeso Kpakio!
Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed. Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr awyren i'r Swistir?Mae 'na Gymro wrth y llyw y...
2025-05-29
47 min
Lleisiau Cymru
Pennod 5: Iwan Roberts
Fel y Cymro mwyaf poblogaidd yn Norwich, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd ar ôl gyrfa llawn uchafbwyntiau hoffus. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu mwy am gyfnodau anodd gyrfa Iwan, a sut ddeliodd gyda’r pwysau o fod yn ddihiryn cyn troi’n ffefryn gyda chefnogwyr Norwich. Bydd Iwan yn edrych yn ôl ar yr adegau mwyaf cofiadwy o’i yrfa, a chlywn am sut wnaeth ei ddyddiau cynnar lunio ei chwarae ar y cae. Nawr yn lais adnabyddus ar ein darllediadau pêl-droed, mae Iwan yn datgelu’r hanesion tu ôl i’w daith o...
2025-04-01
51 min
Beti a'i Phobol
Rhian Bowen-Davies
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn.
2025-03-30
50 min
Lleisiau Cymru
Pennod 2: Elinor Snowsill
Mae Elinor Snowsill wedi profi pwysau mawr yn ei camp, o’r chwe gwlad i Gwpan y Byd, mae Elinor wedi bod yn rhan bwysig o chwyldro rygbi’r menywod yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu am ei gobeithion cynnar o chwarae pêl-droed dros Loegr cyn cynrychioli Cymru mewn gamp hollol wahanol ar lwyfan y byd. Clywn am y disgwyliadau a’r pwysau oedd arni yn ystod ei gyrfa, yn enwedig dros gyfnod anodd i’r gamp yng Nghymru. Fel rhan o dîm cyntaf Barbariaid y menywod, bydd Nigel ac Elinor yn cael sgwrs ddif...
2025-03-11
32 min
Beti a'i Phobol
Lisabeth Miles
Yr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu’n gweithio’n gyson mewn cynhyrc...
2024-12-22
50 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i’n siŵr bod Elinor...
2024-04-30
18 min
Be' Nesa'
Straeon Gyrfa - Busnes Cymru
Yn y bennod hon clywn gan Elain a Sion o Fusnes Cymru, y ddau ohonynt yn raddedigion Prifysgol Bangor. Yn y bennod hon byddwch yn dod i wybod ychydig mwy am y daith yrfa y maent wedi mynd drwyddi, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am Fusnes Cymru.https://businesswales.gov.wales/Instagram - @_business.wales X (Twitter)- @_businesswalesYoutube - @BusinesswalesIn this episode we hear from Elain and Sion from Business Wales, both of whom are Bangor University graduates. In this episode you will get to...
2024-04-30
17 min
Be' Nesa'
Myf.Cymru
Ym mhennod yma bydd Ffion Davies o Myf.Cymru yn ymuno gyda ni. Dydi Ffion ddim yn ddieithr i’r sioe – rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn adnabod ei llais fel un o’n hôsts – ond y tro yma mae’n sôn am ei rôl newydd yn Myf.Cymru. Mae hi’n ail-ddweud stori ei gyrfa ac yn rhoi cipolwg i ni ar yr adnodd iechyd meddwl a lles iaith Cymraeg.Cofiwch, os oes gennych unrhyw awgrymiadau am siaradwyr yr hoffech glywed ganddynt, neu bynciau yr hoffech i ni eu trafod, e-bostiwch talent...
2024-02-29
20 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 13eg o Chwefror 2024
Pigion Dysgwyr – Max Boyce Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio Talu Teyrnged To pay a tribute Wastad AlwaysCyfweliad InterviewCae o ŷd A field of cornSa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybodGostyngedig HumbleDewin A wizardSylw AttentionAmlwg ProminentEnwogrwydd Fame ...
2024-02-13
12 min
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
10. Sgiliau, Datblygu a Chyfleoedd Gyrfa
Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.· Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd· Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol· Cynlluniau Rheoli Traethlin· Cronfa Dd...
2023-10-16
17 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg ProminentCyhoeddi AnnounceYmennydd BrainYn gyfangwbl CompletelyTinc ...
2023-10-03
12 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 12fed 2023
Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau StatisticsCalon HeartYmchwil ResearchPerthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r Byd newydd...
2023-09-12
13 min
Be' Nesa'
Straeon Gyrfa
Mae Gill Stephen yn Brif Swyddog ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam a hefo stori gyrfa ddiddorol i’w rannu. Wnaeth darganfod angerdd am yr iaith Gymraeg gael effaith mawr am gamau dechreuol taith gyrfa’ Gill ac mae’r angerdd yma wedi siapio ei phrofiadau hi wrth iddi fynd yn ei blaen. O fyw a gweithio yn Ne Cymru i Ogledd Cymru, mae gan Gill sawl tip i’w gynnig i chi. Am ragor o wybodaeth am Menter Iaith Fflint a Wrecsam, gwelwch isod: https://menterfflintwrecsam.cymru/Facebook: @menteriaithffawTwitter: @fflintawr...
2023-07-06
19 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: GWAWR EDWARDS-PHILLIPS
Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu. Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!
2023-06-25
43 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023
Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Llygad dyst Eye witnessArbenigo To specialiseLodes MerchEhedeg HedfanPorth Tyw...
2023-06-06
12 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: HELEDD FYCHAN, AS
I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!
2023-05-14
46 min
NAEL Cymru
Voices from the Field: Rachel Simmonds
Voices from the Field: Rachel Simmonds Rachel Simmonds Strategic Manager, Conwy Youth Service Rachel Simmonds joined Conwy County Borough Council in 2007, following a range of previous roles within community settings. In 2007, Rachel joined Conwy as a Professional Youth Worker and since this time her roles within the organisation has developed continuously, and she is currently Strategic Manager of Conwy Youth Service and Outdoor Education. Rachel feels Youth Work is at the heart of the community, providing positive caring and welcoming spaces for young people to connect, share and learn. Rachel has always had a passion and interest in improving Young...
2023-05-09
10 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023
Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne JonesMae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni…..Ariannin ArgentinaYsbrydoli To inspireBarddoni To write poetryTirwedd LandscapeYsbryd SpiritDaearyddiaeth gorfforol GeographyDychymyg ImaginationYsgogi To motivate
2023-05-02
12 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: MIRAIN IWERYDD
Merch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!
2023-02-19
30 min
NAEL Cymru
Voices from the Field: Geraldine Foley
Geraldine Foley Headteacher, Marlborough Primary School Geraldine Foley started her teaching career in Liverpool in 1992. She moved to Cardiff in 1999 and took up anew Deputy Headteacher post. Geraldine started her first headship in 2004 and her second headship at Marlborough Primary School in 2011. Marlborough is a vibrant, inclusive school in the heart of Penylan community. There are 530 pupils on roll, including Y Galon, our 30 place Specialist Resource provision for pupils with Severe and Complex needs. Geraldine is Chair of the NPQH Assessment Centre for the Central South Consortium (CSC) and is part of a pilot cohort of System Leaders with CSC. ...
2023-01-25
10 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022
Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn BeesCwch HivePara To lastPeillio To pollinateHanfodol EssentialDiwydiant IndustryCnwd CropTrystan ac Emma – Gari’r GwiningenY gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lan...
2022-11-22
16 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002
BETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Go...
2022-10-25
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: SIONED DAVIES
Talent gerddorol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru ac i fyd opera. Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn ac yn mezzo soprano uchel ei pharch a phrysur sy'n dweud wrtha i am ei gyrfa ac yn siarad yn gwbl gyffyrddus am opera, eisteddfodau, Glasgow, Canwr y byd, sopranos a llawer mwy. Ac unwaith eto, yn gyfweliad â pherson clên, naturiol, onest a diddorol! Ymunwch â ni ac edrychwch am Cymeriadau Cymru ar Spotify, apple, google, anchor, Ypod ac amryw o lwyfannau eraill.
2022-10-16
45 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: IFAN HUW DAFYDD
Yr actor Ifan Huw Dafydd sydd yn sgwrsio â fi tro yma ar Cymeriadau Cymru a bois, na chi actor! O Pobl y Cwm i District Nurse ac o Theatre Clwyd i Radio 4, ma Ifan wedi cael gyrfa a hanner! Cofiwch edrych am y podlediad a phob pennod ohoni ar Spotify a nifer o lwyfannau amrywiol.
2022-10-09
38 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022
Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDidd...
2022-08-23
13 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022
Cor y Byd LlangollenCȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd ConductorYmarfer RehearsalDatblygu To developParatoi To prepareLlwyfan A stageSymudiadau MovementsCerddorion MusiciansCreu To createBalch ProudAnwen bowlio i'r gymanwlad…a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 yn...
2022-07-19
12 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022
Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros GinioBreuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expres...
2022-06-14
14 min
Beti a'i Phobol
Ceri Isfryn
Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith h...
2022-06-05
51 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 19eg 2022
Stiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - S...
2022-04-19
18 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022
Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effectsA phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?Beti a Beks ...
2022-04-05
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: BETHAN SAYED
I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon, neu o leiaf, i fyd cyn-wleidydd. Bethan Sayed (Jenkins) yw fy ngwraig gwadd hollol ffab ar y podlediad wythnos hon a sgwrs wych gyda hi am ei gyrfa, gwleidyddiaeth, Y Senedd, bod yn fam a gadael gwleidyddiaeth a llawer, llawer mwy. Ma Bethan, yn ogystal â bod yn fam frysur, yn parhau i ddiddori ac i fod yn rhan o weithgareddau pwysig yng Nghymru a cholled fawr y Senedd yw hi'n penderfynu gadael. Mae ganddi ddeallusrwydd siarp a bachog am bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, yn ogystal â hiwmor ag agwedd ''down to earth'' a ph...
2022-03-31
37 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 22ain 2022
Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and thatFalmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws.Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders ...
2022-03-22
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: ALAW HÂF
Wel, person gwadd gwbl wahanol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru. Petai chi di gwylio'r gyfres ar BBC3 ''Young , Welsh and bossing it'', mi fysech chi yn cofio stori'r ferch o'r Wyddgrug, Alaw Hâf, sy'n gwneud bywoliaeth fel model, a gyda dilyniant eang ar safle 'Only fans' (ymysg eraill). Ar ôl graddio yn y gyfraith, fe benderfynodd Alaw i wneud rhywbeth gwbl newydd ac unigryw! Sgwrs ddiddorol dros ben gyda merch hynaws a chyfeillgar a hoffus iawn a diolch iddi hi am fod mor naturiol ag onest am ei gyrfa, ei dewisiadau, yr ochr negyddol a dadleuol o'i gwaith a...
2022-03-03
40 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022
Mali Ann Rees Bore Sul Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi. Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnagDa clywed, ynde, bod penderfyniad...
2022-02-22
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: GILLIAN ELISA THOMAS
Mae hi'n bleser mawr croesawu'r actores Gillian Elisa Thomas ar Cymeriadau Cymru wythnos hon! Ges i gymaint o hwyl yn sgwrsio â hi am ei bywyd, gyrfa, comedi, Pobl y Cwm, Billy Elliot, a lot mwy! A'r cyfan gyda Cariad y Chihuahua yn cadw llygad ar bethe! Mae Gillian wedi bod yn actio ers rai blynyddoedd ar ein llwyfannau ac ar ein sgrins ac mi roedd hi'n anrhydedd i'w chael ar y podlediad. Diolch o galon hefyd i Adam ''yn yr ardd'' Jones am fod yn ŵr gwadd a diolch i chi gyd am wrando ac am yr ad...
2022-02-10
53 min
Dewr
Beti George
Yn y bennod mae Tara yn cael cyfle i sgwrsio gyda’r ddarlledwraig Beti George, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei gyrfa.Mae Beti yn fwy cyfarwydd â holi’r cwestiynau, ond y tro yma hi sy'n eu hateb gan drafod cyfnodau hapus a heriol ei bywyd a gyrfa.
2022-01-16
55 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021
01. Aled Hughes – Elfyn JonesDoes dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled HughesYn union ExactlyGorchuddio To coverAnhygoel IncredibleDenu To attractCeudyllau PotholesTwyllodrus Deceptive
2021-12-31
16 min
Beti a'i Phobol
John Alwyn Griffiths
Awdur nofelau Ditectif a cyn Ditectif Arolygydd yn yr Adran dwyll yng Ngogledd Cymru John Alwyn Griffiths yw gwestai Beti George. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mangor a'i waith fel plismon, ditectif ac fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Dwyll. Pan oedd John yn fachgen ifanc yn yr ysgol doedd gan yr athrawon ddim llawer o hyder ynddo, medda fo. Feddyliodd neb y byddai’r bachgen hwnnw rhyw ddiwrnod yn awdur poblogaidd ac wedi cael gyrfa lwyddiannus yn yr heddlu. Mi helpodd ei brofiad o weithio efo’r Heddlu i ddatblygu fel person. Ar ôl ymd...
2021-12-12
53 min
CYMERIADAU CYMRU
Cymeriadau Cymru: KAREN ELLI
Karen Elli neu ''Heini'' yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a sgwrs yn LLAWN hwyl a chwerthin am ei gyrfa, bywyd, cadw'n heini (wrth gwrs), datblygu tau a llawer mwy! A maint mae hi'n gwybod am Lanelli sgwn i?
2021-12-09
48 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: NON PARRY/WILLIAMS
Dwi'n hoffi meddwl bod pob un bennod o Cymeriadau Cymru yn ddiddorol neu ddoniol neu'n ddylanwadol. Wythnos yma beth bynnag, dwi wir yn meddwl fod y bennod yma nid yn unig yn ddiddorol, doniol ac 'entertaining' ond yn bwysig a dylanwadol. Mae Non Parry (Williams) yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru ac yn rhan o'r grŵp bytholwyrdd Eden wrth gwrs. Mae hi yn gantores, cyfansoddwraig ac yn sgriptio i deledu a radio ac yn ogystal â hynny, mae hi wedi sgrifennu llyfr am ei bywyd a'i gyrfa a'i brwydr â salwch meddwl ag iselder. Mae hi'n fraint i gael Non...
2021-12-02
52 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: ELIN FFLUR
Ar ôl cyfweliad a sgwrs wych gan Lisa Pedrick, cantores a chyflwynwraig arall sydd ar y podlediad tro hwn. Neb llai nag Elin Fflur! Gyrfa, perfformio, Cân i Gymru, Dan y lloer, canu a cherddoriaeth, Ynys Môn, The Voice, Jim Steinman, 10 cwestiwn chwim a chwis, a llawer mwy! Sgwrs wych arall! Pa mor lwcus dwi i!
2021-11-18
50 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: LISA PEDRICK
Pwy sy'n cofio'r gyfres Y Wow Ffactor ar S4C rhai blynyddoedd yn ôl? Enillydd y gyfres oedd fy ngwraig gwadd wythnos hon. Y gantores hyfryd, cyflwynwraig a chyfansoddwraig Lisa Pedrick (Rumble) wnaeth siarad â fi peth amser yn ôl am ei gyrfa, Wow ffactor, canu, dylanwadau, dysgu, teulu, Gwauncaegurwen a llawer mwy ac unwaith eto, pleser pur oedd cael sgwrsio gyda rhywun mor dalentog ac mor hyfryd!
2021-11-11
42 min
CYMERIADAU CYMRU
Cymeriadau Cymru: DELYTH EIRWYN
Pwy sy'n cofio gweld Emyn roc a rôl ar S4C? Neu Bob a'i Fam? Actores wych yw Delyth Eirwyn, neu efallai mai 'oedd' sy'n gywir erbyn hyn gan mai athrawes yw hi bellach. Cyfweliad wedi ei recordio yn ystod tywydd poeth iawn eleni ag ambell i hofrennydd neu feic modur yn y cefndir! Ha!! Recordio byw! Sgwrs ddiddorol am ei dyddiau cynnar yn actio a'i rhesymau dros newid gyrfa, 10 cwestiwn cyflym, a chwis bach! Ac os oes rhywun wedi gweld y ffilm sinema 'Arthur's Dyke', wel mae Delyth yn y ffilm honno! Ond i fi, 'Bob a'i fa...
2021-10-14
35 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : JENNY OGWEN WILLIAMS
O mam fach! Am wraig gwadd wythnos yma! Seren a seleb go iawn, Jenny Ogwen, brenhines y tywydd ar S4C am flynyddoedd ac un o fy hoff bobl erioed! Anaml iawn mae JO yn rhoi cyfweliadau erbyn hyn a dwi mor ddiolchgar iddi am ddod ar y podlediad a siarad mor agored am ei bywyd a'i gyrfa.....a sôn am storis!! I ddweud y gwir, ma'r bennod yma yn fwy fel sgwrs dros baned na chyfweliad a fi ddim yn meddwl mod i wedi mwynhau na chwerthin gymaint ers tipyn! Parch mawr i Jenny....DYMA beth yw c...
2021-09-30
44 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : RAE CARPENTER
Mae fy mhobl gwadd mor amrywiol ar y podlediad yma. Wythnos diwethaf, prif gwnstabl heddlu. Wythnos hon, cyflwynwraig, hyfforddwraig cadw'n heini a gwraig fusnes, Rae Carpenter, sydd yn siarad mor agored ag onest am ei bywyd. Beth wnaeth iddi benderfynu colli pwysau a chadw'n ffit? Sut mae hi yn medru helpu pobl i newid eu bywydau? Sut beth yw ei gwybodaeth hi am y corff? (cwis bach). Mae Rae yn un o dîm y gyfres deledu Ffit Cymru ar S4C erbyn hyn ond mae ei gyrfa wedi bod yn anhygoel o amrywiol! O ddifri!
2021-09-23
49 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 27ain Awst 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros GinioPadlfyrddio - Paddle boardingBuddsoddi - To investAnsawdd - QualityHyfforddwyr - TrainersGorbryder ...
2021-08-27
13 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : GARETH POTTER
DJ, actor, cerddor, cyflwynydd a chyn bo hir, 'tour guide' yng Nghaerdydd. Ie, mae bywyd a gyrfa fy ngŵr gwadd wythnos hon, Gareth Potter, yn un diddorol, lliwgar, dylanwadol a hwyliog. Wnes i fwynhau gymaint yn siarad â Gareth, sy di actio yn Eastenders, DJ'io yn Ibiza a chyflwyno ymhobman, ac sy 'di bod mor ddewr yn ddiweddar yn siarad am ei brofiadau personol. Anrhydedd yw nabod Gareth a phleser yw ei gael ar y podlediad. Diolch eto i bawb am wrando ac am adael adborth gwych a diolch o galon i'r wondyrfwl Nia Parry am fod mor wych ar...
2021-08-26
55 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio’ wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - WarDogni - RationsGwerthfawrogi - To appreciateEnwogion - CelebratiesDigri - ...
2021-08-20
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: NIA PARRY
Beth allai ddweud am fy ngwraig gwadd wythnos hon? Chwa o awyr iach ac un o'r bobl fwyaf positif, ffeind, talentog, hapus a brilliant dwi'n nabod. Neb llai na Nia Parry! Cyflwynwraig, cynhyrchydd ac athrawes Gymraeg, sydd â'r wên orau a'r agwedd orau. Ond oeddech chi'n ymwybodol o'i bywyd a'i gyrfa CYN iddi ymddangos ar y sgrin? Sgwrs naturiol yn llawn hwyl a syrpreisys, 10 cwestiwn chwim (atebion gwych) a chwis am Dwrci! (Bydd rhaid i chi wrando😉) Diolch yn fawr i Nia a diolch hefyd i rywun arall ffab, Emma Walford, am fod ar y bennod ddiwethaf.
2021-08-19
48 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 13eg Awst 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro’r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion…Cyfres - SeriesArwydd - A signEithriadol - ExceptionalYn ddiweddar - RecentlyCanolbarth Lloegr - The Midlands Gwythïen - ...
2021-08-13
16 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : EMMA WALFORD
Mae gen Emma Walford, sydd yn ôl bob sôn, o Glwyd 😂, y cyfan. Y lwcs, y dalent, y naturioldeb a'r cymeriad hoffus a doniol. Dwi wrth fy modd yn siarad â hi ar y bennod wythnos hon ac roedd hi'n donig go iawn. Sgwrs wych am ei gyrfa, Hotel Eddie, Eden, Priodas pum mil a llawer mwy, yn ogystal â 10 cwestiwn chwim, a chwis, am Glwyd! Sgwn i faint o'i hatebion oedd yn gywir!😉
2021-08-12
51 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: SONIA WILLIAMS
Sonia Williams sy'n rhedeg cwmni Hyder mewn lliw/Confidence in colour, sydd ar y podlediad tro yma. Yn ddynes busnes sy'n cynnig cyngor i fenywod ynglŷn â lliwiau i'w gwisgo, a steil, ma hi felly yn cyfrannu at hunan hyder ac yn codi calonnau ac ysbryd. Felly nid swydd o flaen camera neu feicroffon nag ar lwyfan, ond swydd bwysig ag amserol iawn yn ystod y cyfnod hwn. Hyfryd oedd cael clywed am ei gyrfa a'i gwaith ac mi roedd hi'n bleser siarad â hi. Un o 'gymeriadau Cymru' go iawn os chi'n gofyn i fi.
2021-07-29
44 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: RHIANNON LEWIS
Awdures sydd ar y podlediad wythnos hon. Rhiannon Lewis o Geredigion, sydd wedi ennill gymaint o glôd a sylw yn barod, am ei nofel gyntaf hi, sef My Beautiful Imperial, hanes Cymro Cymraeg o Aberteifi yn mynd yn gapten long ac yn teithio i Chile a De America. Dwi di darllen y llyfr fy hun ac ma hi'n wych!!!!! Os oes gyda chi ddiddordeb mewn llyfrau, sgrifennu a'r broses o sgrifennu, mae'r cyfweliad yma'n berffaith i chi! Diolch o galon i Rhiannon am fod mor onest am ei gyrfa a'i phroses hi o weithio fel awdures.
2021-07-15
37 min
Beti a'i Phobol
Jên Angharad
Y ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.
2021-05-27
49 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: ELLEN WILLIAMS
Bach o 'class' ar y podlediad wythnos hon (er ma PAWB sydd ar Cymeriadau Cymru yn class wrth gwrs! 😉😉)....y gantores hyfryd a ffabiwlys Ellen Williams. Wnes i recordio ein sgwrs rhai misoedd yn ôl ac erbyn hyn, mae Ellen wedi rhyddhau sengl arall, ond hyfryd oedd cael siarad â hi a'i holi am ei dylanwadau, am gerddoriaeth ac am opera, ei gyrfa fel unawdydd ac yn canu gyda Athena...ac eto, mae'r 10 cwestiwn cloi/chwim yn ''revealing'' iawn! Diolch o galon Ellen ac ewch i'w safle we hi, sef www.ellen-williams.co.uk. Bois bach, fi wrth fy modd yn siara...
2021-05-27
33 min
Beti a'i Phobol
Paul Carey Jones
Y canwr opera Paul Carey Jones yw'r cwmni, ac mae'n sôn am ei blentyndod yng Nghaerdydd, astudio Ffiseg yn Rhydychen a mynd i ddysgu cyn newid gyrfa a throi at ganu Opera. Mae Paul hefyd wedi cyhoeddi blog am ei brofiadau fel canwr yn ystod y cyfnod clo, ac am ei brofiad o gael ei daro gan Covid 19 ym mis Ebrill.
2021-05-07
51 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: LISA ANGHARAD
Y gyflwynwraig, a'r gantores a pherfformwraig Lisa Angharad sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Cymeriad a hanner a gwd laff! Wrth recordio hwn, roedd Lisa yn feichiog, yn feichiog iawn! Erbyn hyn, ma hi'n fam ac felly llongyfarchiadau enfawr iddi hi!! Nes i wir fwynhau siarad gyda'r dalent yma ac i ni'n trafod ei gyrfa, gwaith, cabaret, musical theatre a beth fase hi yn mynnu mynd gyda hi ar yr ynys golledig! Ac mae'r ffaith fod 'na ambell i reg a 'Wenglish' go iawn yn y sgwrs yn ffantastig!😂 Go Lisa!!!
2021-04-29
45 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 16eg Ebrill 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … SHAN COTHI Y cerddor Brychan Llyr oedd gwestai Shan Cothi yr wythnos yma ac esboniodd e wrth Shan pam ei fod mor hoff o bobl, o fwyd ac o gerddoriaeth Yr Eidal… Cerddor - MusicianHala - TreulioCyfarwydd - FamiliarAnnwyl - EndearingParchus - RespectableRhufain - RomeCyfle - OpportunityTw...
2021-04-16
16 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion Dysgwyr 9fed Ebrill 2021
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS FRECWAST Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha. Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon...
2021-04-09
15 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: OWAIN GWYNEDD
Nid Owain Gwynedd, y brenin hynafol sydd ar y podlediad wythnos hon (obvs) ond Owain Gwynedd, y cyflwynydd teledu ac un o'r bobl fwyaf diymhongar a 'neis' dwi'n i nabod. Dwi mor ddiolchgar i Owain am drafod pob fath o bethau yn ystod ein sgwrs dros zoom. Gyrfa, rygbi, gwaith a mater trist a phersonol o farwolaeth ei dad. Cyfweliad naturiol iawn, yn llawn hwyl ond hefyd yn un dewr iawn. Diolch Owain!👍👍 Ac os oeddech yn meddwl pa fath o 'showreel' odd gan y gwr o Borthmadog.....wel, gwrandewch ar y podlediad! 😂
2021-03-25
53 min
Digon
Dylan Cernyw
Yn y bennod yma caiff Non gwmni’r telynor Dylan Cernyw. Mae Dylan yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru yn cyfeilio i rai o'n cantorion a chorau mwyaf adnabyddus. Mae hefyd yn rhan o’r ddeuawd boblogaidd Piantel.Mewn sgwrs agored, mae Dylan yn rhannu ei brofiadau fel dyn ifanc yn brwydro anhwylder bwyta, a’r effaith mae hyn wedi cael arno drwy gydol ei fywyd.Mae Non hefyd yn rhannu ei phrofiadau o hunanddelwedd, a’r rhagfarn mae hi wedi ei wynebu ar gyfnodau o’i gyrfa fel menyw yn llygad y cyhoedd.
2021-01-20
41 min
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: MICHELLE EVANS-FECCI
Reit, maint ohonoch chi'n gwylio 'Great british bake off'? Cofio 2019 a'r Gymraes o Sir Gâr, Michelle Evans-Fecci? Wel, dyna pwy sydd ar y podlediad wythnos hon! Pleser mawr oedd siarad gyda Michelle, eto dros zoom, tua diwedd 2020, a phleser odd clywed am ei gyrfa, ei angerdd am bobi, coginio a bwyd yn gyffredinol, ac wrth gwrs, am ei hamser ar y gyfres deledu. Mae ei bywyd wedi newid yn sylweddol ers iddi ymddangos ar y gyfres, ac er iddi adel ar ôl 5 wythnos, mae ei hwyneb a'i llais wedi dod yn adnabyddus a'i phroffil wedi codi! Nes i ril...
2021-01-14
28 min
Digon
Caryl Parry Jones
Fel diddanwr, cerddor a chyflwynydd, Caryl Parry Jones yw un o wynebau mwyaf adnabyddus a dylanwadol y byd adloniant Cymreig. Mae hi’n gyfrifol am gyfoeth o anthemau pop cyfoes a’n llais cyfarwydd ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2.Ers ei phlentyndod yn cystadlu mewn eisteddfodau mae Caryl wedi byw gyda chyfnodau o or-bryder ac iselder.Yn y bennod yma mae’n sôn am sut mae agweddau at iechyd meddwl wedi newid ers ei phlentyndod a'r adegau o'i bywyd pan y gwnaeth hi ddioddef. O'r coleg a dyddiau cynnar ei gyrfa hyd heddiw mae Caryl y...
2021-01-13
59 min
Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Gwenno Saunders
Y cerddor o Gaerdydd sy'n trafod bywyd a gyrfa rhwng sawl iaith...
2021-01-07
1h 04
Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Dafydd Iwan
Y canwr ac ymgyrchydd dylanwadol sy'n ymuno ag Elis James i drafod iaith, bywyd a gyrfa
2020-12-30
1h 02
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU RHIF 13: SHONED OWEN AKA TANYA WHITEBITS!
I orffen y flwyddyn ar nodyn bositif (ac mae angen bod yn bositif ar ôl 2020), fy ngwraig gwadd wythnos hon yw'r entrepreneur a ''social butterfly'' Shoned Owen, neu i rai, Tanya Whitebits! Yn llwyddiannus dros ben gyda'i chwmni cynnyrch tan ffug a nifer o bethau eraill, Shoned yw un o'r pobl mwyaf positif, hapus, mentrus a chefnogol allwch chi gyfarfod. 'Cymêr go iawn'! Dwi mor lwcus i nabod Shoned a phleser oedd cyfweld â hi ar gyfer podlediad olaf 2020, yn trafod ei gyrfa, ei chwmni, ei gobeithion ac ambell i dip ar sut i gadw'n bositif. Cofiwch, mae'r podlediadau i g...
2020-12-24
28 min
Beti a'i Phobol
Sian Reese-Williams
Gwestai Beti yw'r actores, Sian Reese-Williams sy'n portreadu'r Ditectif Cadi John yn y gyfres Craith. Yma mae hi'n son am ei magwraeth yn Aberhonddu, ei gyrfa wrth ymddangos mewn cyfresi fel Emmerdale a'r Gwyll ac yn trafod marwolaeth ei brawd Llŷr llynedd.
2020-11-29
46 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pigion y Dysgwyr 20fed Tachwedd 2020
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu…Ategolion lledr - Leather accessoriesSefydlu - To establishYmddiddori mewn - To take an interest...
2020-11-20
15 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Pwyso a mesur ar ôl derbyn canlyniadau
Gyda’r canlyniadau TGAU wedi’u cyhoeddi, does dim nawr i atal miloedd o bobol ifanc drwy Gymru rhag penderfynu o ddifri pa opsiwn sydd ar gael ac sy’n addas iddyn nhw.
2020-08-21
29 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Was It Heaven For Year 11?
Betsan finds out how our students got in their GCSEs and speaks to the mums about the process leading up to results day. And there's good practical advice on next steps from Careers Wales' careers adviser, Louise Evans.
2020-08-21
40 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Pwyso a mesur ar ôl derbyn canlyniadau
Gyda’r canlyniadau TGAU wedi’u cyhoeddi, does dim nawr i atal miloedd o bobol ifanc drwy Gymru rhag penderfynu o ddifri pa opsiwn sydd ar gael ac sy’n addas iddyn nhw.
2020-08-21
29 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Was It Heaven For Year 11?
Betsan finds out how our students got in their GCSEs and speaks to the mums about the process leading up to results day. And there's good practical advice on next steps from Careers Wales' careers adviser, Louise Evans.
2020-08-21
40 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Aros yn nerfus am ganlyniadau TGAU
Mae Betsan a'r panel o arbenigwyr yn dychwelyd i drafod gyda theuluoedd sy'n disgwyl canlyniadau TGAU, eu gobeithion a'u pryderon yn arwain at ddiwrnod canlyniadau.
2020-08-16
43 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Aros yn nerfus am ganlyniadau TGAU
Mae Betsan a'r panel o arbenigwyr yn dychwelyd i drafod gyda theuluoedd sy'n disgwyl canlyniadau TGAU, eu gobeithion a'u pryderon yn arwain at ddiwrnod canlyniadau.
2020-08-16
43 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
The Nervous Wait For The “Second Wave” Of Results
Betsan and her panel of experts return to discuss with the families expecting GCSE results, their initial hopes and concerns ahead of results day.Need some advice from Careers Wales about your child's GCSE results? Go to careerswales.gov.wales or call the freephone helpline 0800 028 4844.
2020-08-16
42 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
The Nervous Wait For The “Second Wave” Of Results
Betsan and her panel of experts return to discuss with the families expecting GCSE results, their initial hopes and concerns ahead of results day.Need some advice from Careers Wales about your child's GCSE results? Go to careerswales.gov.wales or call the freephone helpline 0800 028 4844.
2020-08-16
42 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020
Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos ymaMae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi…Amgen AlternativeBardd PoetCywydd Croeso A poem to welcome the EisteddfodCerdd PoemSbort FunAdeg anghyffredin Unusual periodEr nad oedd...
2020-08-14
16 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
A Level-headed Chat About A Levels
Betsan Powys catches up with Scott and mum Katherine in Meifod to find out whether he got the grades he needed for Durham. She also chats to careers advisor Matthew Cadman about how best to make your way through the fog of the most unusual of A Level results days.Need some advice from Careers Wales after your child's A Level results? Go to careerswales.gov.wales or call the freephone helpline 0800 028 4844.
2020-08-13
25 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
A Level-headed Chat About A Levels
Betsan Powys catches up with Scott and mum Katherine in Meifod to find out whether he got the grades he needed for Durham. She also chats to careers advisor Matthew Cadman about how best to make your way through the fog of the most unusual of A Level results days.Need some advice from Careers Wales after your child's A Level results? Go to careerswales.gov.wales or call the freephone helpline 0800 028 4844.
2020-08-13
25 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Y ffordd trwy’r dryswch
Gall gwrandawyr ddarganfod mwy am y teuluoedd hynny sydd wedi derbyn canlyniadau Safon Uwch, gan drafod sut maen nhw'n teimlo, y canlyniadau a'r camau nesaf gyda'r panel arbenigwyr. Ydych chi angen cyngor gan Gyrfa Cymru ar ôl derbyn canlyniadau arholiadau safon uwch? Ewch i gyrfacymru.llyw.cymru neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 028 4844.
2020-08-13
24 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Y ffordd trwy’r dryswch
Gall gwrandawyr ddarganfod mwy am y teuluoedd hynny sydd wedi derbyn canlyniadau Safon Uwch, gan drafod sut maen nhw'n teimlo, y canlyniadau a'r camau nesaf gyda'r panel arbenigwyr. Ydych chi angen cyngor gan Gyrfa Cymru ar ôl derbyn canlyniadau arholiadau safon uwch? Ewch i gyrfacymru.llyw.cymru neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 028 4844.
2020-08-13
24 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Getting Ready For A Level Results Day
With just a few days to go, Betsan and the panel of experts discuss initial hopes and concerns with the families expecting A Level results this week.
2020-08-10
35 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Getting Ready For A Level Results Day
With just a few days to go, Betsan and the panel of experts discuss initial hopes and concerns with the families expecting A Level results this week.
2020-08-10
35 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Edrych ‘mlaen at ganlyniadau Safon Uwch
Ychydig o ddyddiau sydd i fynd, mae Betsan a’r panel o arbenigwyr yn trafod y gobeithion a'r pryderon gyda’r teuluoedd sydd yn disgwyl canlyniadau Safon Uwch.
2020-08-10
42 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Edrych ‘mlaen at ganlyniadau Safon Uwch
Ychydig o ddyddiau sydd i fynd, mae Betsan a’r panel o arbenigwyr yn trafod y gobeithion a'r pryderon gyda’r teuluoedd sydd yn disgwyl canlyniadau Safon Uwch.
2020-08-10
42 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Welcome to 'Is That An Option?'
The podcast for anyone looking after - and looking out for - young people waiting for exam results this summer. Betsan Powys and a panel of experts follow families, discussing their hopes, concerns, and what the next steps are, for those getting exam results in August 2020.
2020-08-04
01 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Pa Opsiwn i Ti?
Podlediad i unrhyw un sy’n gofalu ar ôl pobol ifanc ac yn aros am ganlyniadau arholiadau Awst 2020. Betsan Powys sydd yn siarad ag arbenigwyr ym maes addysg, prentisiaethau, gwirfoddoli, fydd yn eu tro yn gwrando ar bobol ifanc yn trafod yr hyn sy’n eu poeni nhw, a’r camau nesaf ar gyfer y dyfodol.
2020-08-04
00 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Welcome to 'Is That An Option?'
The podcast for anyone looking after - and looking out for - young people waiting for exam results this summer. Betsan Powys and a panel of experts follow families, discussing their hopes, concerns, and what the next steps are, for those getting exam results in August 2020.
2020-08-04
01 min
Pa opsiwn i ti? / Is that an option?
Pa Opsiwn i Ti?
Podlediad i unrhyw un sy’n gofalu ar ôl pobol ifanc ac yn aros am ganlyniadau arholiadau Awst 2020. Betsan Powys sydd yn siarad ag arbenigwyr ym maes addysg, prentisiaethau, gwirfoddoli, fydd yn eu tro yn gwrando ar bobol ifanc yn trafod yr hyn sy’n eu poeni nhw, a’r camau nesaf ar gyfer y dyfodol.
2020-08-04
00 min
Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Sian Harries
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a'r awdur a'r perfformiwr comedi Sian Harries. Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Sian a'i gyrfa.
2020-04-02
53 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 2
Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol.Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 2Uwchradd - Secondary Chweched dosbarth - Sixth form Dylanwadol - Influential Clustiau - Ears Clasurol - Classical Penderfynu, penderfynais - To decide, I decided Coleg cerdd - College of music Cynigion - Offers Gradd(au) - Grade(s) Arholiad(au) - Exam(s) Dewis - Choice Dros y byd i gyd - All over the world Priodas - wedding Almaeneg - German (language) Iei...
2019-10-16
08 min
Beti a'i Phobol
Richard Lewis
Daw Richard Lewis o Borth Tywyn, ac wedyn Meinciau.Wedi gadael Ysgol y Strade, aeth i wneud gradd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.Penderfynodd ei fod am ymuno â'r heddlu, a chafodd swydd fel cwnstabl yng Ngheredigion.Dringodd ysgol gyrfa yn gyflym iawn, a chael ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Ebrill 2019.Mae'n parhau i fyw yn Aberaeron, gan deithio yn ôl ac ymlaen bob penwythnos.Roedd yn chwaraewr rygbi addawol iawn, a bu'n chwarae i dîm ieuenctid y S...
2019-07-04
48 min
Beti a'i Phobol
Ifana Savill
Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu.Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt.Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw.Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu....
2019-04-14
48 min
Beti a'i Phobol
Eleri Twynog Davies
Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a...
2018-06-12
46 min
Beti a'i Phobol
Eryl Besse
Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau.Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd.Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.
2017-11-12
48 min
Beti a'i Phobol
Andrew Tamplin
Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl...
2017-10-15
49 min
Beti a'i Phobol
Elin Jones
Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones.Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg.Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth.Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru.Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur.Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, s...
2017-10-08
50 min
Beti a'i Phobol
John Grisdale
Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale.Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach.Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru.Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 1970au.
2017-08-15
50 min