podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Nerth Dy Ben
Shows
Byw ar dy ora'
Pennod 9 - Sgwrs efo Robin Aled
Podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny. Alaw, sylfaenydd Nerth dy Ben, sy'n chwilio am yr atebion trwy gael sgyrsiau gonest, hwyliog ac annisgwyl efo cymeriadau lliwgar o bob cwr o Gymru.Peilot ydi Robin Aled, yn wreiddiol o Rhostryfan. Er ei fod yn trafeilio’r byd, mae Robin yn cario ei Gymreictod ar ei gefn i ble bynnag mae’n mynd. Dyma sgwrs hamddenol rhwng dau ffrind sy’n cyffwrdd ar themau megi...
2025-10-29
39 min
Byw ar dy ora'
Pennod 8 - Sgwrs efo Lois Owens
**Mae'r bennod yma yn cynnwys sgwrs am farwolaeth a rhoi organnau**Mae gan Lois Owens o Bwllheli stori eitha’ anghyffredin. Mae hi’n byw gyda chyflwr ar yr iau sy’n golygu ei bod hi wedi gorfod cael tair trawsblaniad trwy gydol ei bywyd. Dyma sgwrs ddiddorol rhwng Alaw a Lois sy’n trafod pwysigrwydd rhoi organnau, cael stwythr cadarn i fywyd a sut mae rhywun yn dygymod a dod dros sefyllfaoedd heriol fel un Lois – yn gorfforol ac yn feddyliol.
2025-09-10
59 min
Byw ar dy ora'
Pennod 7 - Sgwrs efo Dafydd Davies-Hughes
Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?Mae Dafydd Davies-Hughes, yn wreiddiol o ardal Cricieth ond rwan wedi ymgartrefu yn Rhiw ym Mhen Llŷn, yn berson sydd yn gwsigo sawl het mewn bywyd.Mae o’n saer coed, yn storïwr, yn grefftwr, yn athro ond yn fwy na dim, mae o’n berson sydd yn mwynhau antur bywyd.Dyma sgwrs andros o ddiddorol r...
2025-08-13
1h 00
Byw ar dy ora'
Pennod 6 - Sgwrs efo Cadi Mai
Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?Fe adawodd Cadi Mai Ben Llŷn am Vietnam bron i chwe mlynedd yn ôl. Mae hi wedi ymgartrefu yno bellach ac yn gweithio fel athrawes mewn ysgol. Dyma sgwrs gonest, hwyliog ac adlewyrchol rhwng Alaw a Cadi sy’n sôn am sut a pham mae rhywun yn gallu newid eu bywyd er gwell.
2025-07-30
46 min
Byw ar dy ora'
Pennod 5 - Sgwrs efo Sara Mai
Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?Therapydd a hyfforddwr personol o Ynys Môn ydy Sara Mai sy’n cyfuno’r ddau sgil i gynnig seicffit, math o therapi sy’n defnyddio ymarfer corff i helpu ni siarad. Yn y bennod hon bydd Alaw a Sara yn trafod pwer ymarfer corff a symyd, y pwysigrwydd o beidio cymharu ein hunain âg eraill, bywyd mewn degawdau a fers...
2025-07-16
44 min
Byw ar dy ora'
Pennod 4 - Sgwrs efo Dr Eleri Jones
Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?Seicolegydd Chwaraeon a darlithiwraig ym Mhrifysgol Bangor ydi Dr Eleri Jones. Yn y bennod hon bydd Alaw ac Eleri yn sgwrsio am bethau fel; be ydi seicoleg chwaraeon a sut y gallwn ni gyd elwa ohono. Sut mae bod yn rhan o dîm yn chwarae rôl mewn bywyd bob dydd? A pwysigrwydd y petha' allwn ni e...
2025-07-02
45 min
Byw ar dy ora'
Pennod 3 – Sgwrs efo Mark Williams
Mark Williams, neu Mark LIMB-Art fel mae rhan fwyaf o bobl yn ei ’nabod o, ydy’r unigolyn ysbrydoliedig sydd, ynghyd â’i wraig Rachel, tu ôl i’r cwmi LIMB-Art. Dylunio gorchuddion coes prosthetig lliwgar a llawn cymeriad mae’r cwmni, ac mae ysbryd positif, cefnogol ac uchelgeisiol Mark, sydd hefyd yn gyn-nofiwr paralympaidd, yn disgleirio trwy’r gwaith – a thrwy’r bennod arbennig hon hefyd. Dyma sgwrs i ysbrydoli, i ail-feddwl sut mae rhywun yn edrych ar fywyd ac i gofio – mai bod yn glên ydi un o'r pethau pwysicaf yn y byd.
2025-06-04
45 min
Byw ar dy ora'
Pennod 2 - Sgwrs efo Rhys Yaxley
Mae Rhys Yaxley o ardal Glyn Dyfrdwy yn berson sy’n hoffi cerddoriaeth, cymdeithasu ac antura. Wrth ei waith mae’n seicotherapydd sy’n treulio rhan fwyaf o’i amser yn gweithio efo cartrefi plant. Yn y bennod hwyliog hon, bydd Rhys ac Alaw yn sgwrsio am bethau fel pŵer cerddoriaeth, pwysigrwydd gwthio ein hunain i wneud pethau anghyfforddus, be ydi rhyddid a pam y bysa Rhys y person gwaetha’ i’w herwgipio…Ewch i'n gwefan www.nerthdyben.cymru i ddarganfod mwy am ein gwaith
2025-05-21
34 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mai 7, 2025
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1 Cynyddu: To increase Sionc: Lively Drygionus: Naughty Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw Efeilliaid: Twins Yn gwmws: Exactly Cerrig milltir: MilestonesCLIP 2 Penillion: Verses Gorchymyn: Command Bwrw mlaen : To get on with it Egni: Energy Ysgwyddo: To shoulder Tewch â sôn: Don’t mention Rhyfedda: Strangest Dod i ben: To fulf...
2025-05-07
32 min
Byw ar dy ora'
Pennod 1: Sgwrs efo Elin Crowley
Aritst a Mam i dri o blant ydi Elin Crowley o Fachynlleth. Yn y bennod hon bydd Alaw ac Elin yn sgwrsio am bob math o bethau yn cynnwys: trystio dy reddf a gwybod be sy’n dda i chdi, y broblem efo’r diwydiant iechyd a lles ac ymgyrch i ddod a troi fyny ar stepan drws pobl yn ôl! www.nerthdyben.cymru
2025-05-07
36 min
Byw ar dy ora'
Croeso nôl i Nerth dy Ben!
Dan ni’n ôl (ac yn ecsaited IAWN am y peth). Ar ôl amser gwerthfawr tu ôl i’r llen yn meddwl, sgriblo a chynllunio (efo Swyddog Datblygu newydd – iei!) dan ni’n barod i’ch croesawu chi’n nôl efo cyfres podlediad newydd sbon: Byw ar dy Ora’! Yn y bennod hon bydd Enlli, ein Swyddog Datblygu yn holi Alaw, ein syflaenydd am egin Nerth dy Ben, be sy’n dod nesa a be i ddisgwyl yn y gyfres newydd o bodlediadau!I wybod mwy am waith Nerth dy Ben ewch am dro i'n g...
2025-04-29
17 min
Nerth dy Ben
Ceridwen a Llywela
Sgwrs bendigedig rhwng dwy efaill, Ceridwen a Llywela, am yrfa ar ôl coleg, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, mwynhâd o lwyddo ym myd y pel-droed a’r pwysa sy’n bodoli ar ddelwedd.
2022-10-18
25 min
Nerth dy Ben
Ceridwen a Gwern
Tro yma mae Ceridwen yn rhoi’r byd yn ei le hefo Gwern Pierce. Cymeriad a hanner sydd a’i draed ar y ddaear ac sy’n ceisio byw ei fywyd gyda un feddylfryd benodol…! Sgwrs hamddenol braf a gonest rhwng dau berson Ifanc a doeth.
2022-10-14
16 min
Nerth dy Ben
Ceridwen ac Elenid
Yn y gyfres fer yma o bodlediadau Nerth yr Ifanc, mae Ceridwen yn sgwrsio, mwydro ac yn rhoi’r byd yn ei le hefo tri ffrind yn ei dro. A’r cyntaf ydy Elenid Alun, sydd yn sgwrsio am ei phenderfyniad hi i beidio dilyn y drefn ‘arferol’ o fynd i’r brifysgol, a chael yr hyder i ddilyn ei trywydd ei hun. Mwynhewch!
2022-10-11
22 min
Nerth dy Ben
P4 Sgwrs Llior a’r ‘baby lunatic’
** Pennod arbennig **Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd! Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac o drio cadw dy hun yn gall ar ol profi genedigaeth trawmatic i deimlo fel Beyonce!! (o.n ‘Wolfgang and the baby lunatic gan Charlie C King’ ydy enw’r nofel gyda llaw! Sy’n llawn hiwmor tywyll, gonestrwydd a realiti bywy...
2022-05-12
34 min
Nerth dy Ben
P3 Mari Hughes - byd llawn lliw
Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio hefo Mari o Lansannan, sydd wedi dilyn gyrfa ym myd Celf. Dan ni’n sgwrsio am ddylanwad celf ar ei bywyd o ddydd i ddydd, a sut ma' hynny wedi ei galluogi hi i ddelio efo be' bynnag ma bywyd yn ei daflu ati. Ma' hon yn sgwrs llawn lliw, creadigrwydd, pwysigrwydd hunan-werth, a derbyn bod hi’n ocê i wneud camgymeriadau, a defnyddio’r rhwbiwr 'na o dro i dro, ac ail ddechra’ dylunio.Mwynhewch!
2022-05-05
58 min
Nerth dy Ben
P2 Dewi Glyn - Cobiau, chwerthin a chicio pêl
Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn.Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlas yn Trofarth, Llangernyw. Dan ni’n sgwrsio am bwysigrwydd persbectif, nerth a chryfder cymeriad, y wers o fethiant, a darganfod be sy’n gyffredin rhyngdda fo a’r teulu brenhinol. O ia – a phêl droed!
2022-04-20
50 min
Nerth dy Ben
P1 Llior Radford – O Lannefydd i Lundain
Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd. Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm olygu iddi fagu’r cryfder i oroesi byd heriol y byd ffasiwn yn Llundain, y gwersi mae hi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd, a’r hyn sydd bellach yn bwysig iddi ar ôl gwthio ei ffiniau a chyflawni gyrfa lwyd
2022-04-07
53 min
Nerth dy Ben
Cyflwyniad
Be' ma' cryfder meddwl yn ei olygu mewn gwahanol sefyllfaoedd? O’r ffarm i’r weinidogaeth, o’r mynyddoedd i’r ‘stafell ddosbarth - stay tuned i ffeindio allan!
2022-04-03
00 min
Nerth dy Ben
Nerth dy Ben
2021-02-02
44 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 12fed o Fawrth 2020
Rhaglen Aled Hughes - Cŵn defaid gwrando'n astud - listening attentively hyfforddwr cŵn defaid - sheepdog trainer o fri - of renown chwip o sgil - a heck of a skill y prif ci - the main dog y brenin - the king pencampwriaeth - championship llinach - pedigree gast - bitch ara deg - slowly Aeth Aled Hughes draw i Langwm ger y Bala i siarad gydag Aled Owen am ei gŵn defaid. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Stiwdio - Iaith Drama adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog - reflecting the bilingual society colofnydd teledu - tel...
2020-03-12
13 min