podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Nia Davies & David Cole
Shows
Nawr yw’r awr
5. Tîm triathlon Gemau'r Olympaidd
Nia yn esbonio i Dai pwy sydd wedi cael ei ddewis am tîm GB gemau's Olympaidd ym Mharis 2024. Ni'n trafod y penderfyniad dadleuol i adael Sophie Coldwell allan o'r tim ac yn darllen ei datganiad emosiynol sy'n trafod hyn. Symudwn ymlaen i drafod y ffordd ma'r penderfyniadau yma yn cael ei wneud. Gwrandewch ar ein barn ni ac ymunwch a'r sgwrs ar X @nawrywrawr P.S. Warning - defnyddir y gair "cachu" yn yr ep yma - #shitintheseine
2024-07-04
38 min
Nawr yw’r awr
3. Pam rhedodd Dai ddim Marathon Llundain 2024
Yn y pennod dwetha fe clywo chi David yn dweud pa mor dda oedd Hanner Marathon Bath wedi mynd a faint oedd e'n edrych ymlaen at Llundain ond aeth pethau braidd o chwith... Clywch yr hanes yma!
2024-06-19
14 min
Nawr yw’r awr
1. Duathlon Sir Benfro
Blwyddyn Newydd dda! Mae tymor 2024 wedi dechrau yn Neyland. Clywch hanes râs David ynghyd a sgwrs gyda Will a Henry Birchall, brodyr 15 a 16 mlwydd oed sydd yn amlwg yn talent enfawr am y dyfodol.
2024-02-26
23 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Nice - Diwrnod 2
Cofrestru, cael gwahoddiad i ddigwyddiad Precision Hydration a Nia a Roger ar y fireman’s pole!!!
2023-09-07
20 min
Nawr yw’r awr
3. Ffindir - Pencampwriathau 70.3 y Byd 2023 🌍🇫🇮
Dai a Nia yn sgwrsio am râs Dai. Beth digwyddodd, shwt ath hi a beth ma Dai wedi dysgu o’r râs
2023-09-04
25 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i’r Ffindir - Diwrnod 1
Dydd 1 ar ein taith i’r Ffindir. Aberteifi -> Stansted.
2023-08-23
07 min
Nawr yw’r awr
2. 70.3 Abertawe 2023
Clywch hanes un or taper weeks mwyaf unigryw erioed!
2023-08-23
59 min
Nawr yw’r awr
1. Ffredi Arthur
Dechrau cyfres newydd. Dala lan da hanes Dai a Nia ers genedigaeth ei mab, Ffredi Arthur
2023-08-17
31 min
Nawr yw’r awr
43. London Marathon - ENGLISH EPISODE
After so many requests we decided to record another London Marathon episode, this time in English. Hear DC recounting the build up to the marathon as well as the day itself where he ran the London Marathon in a time of 2:34:00! If you are a new listener, this is not our only English episode.. go back to check out our interviews with Luke Rowe, Cameron Wurf, Jodie Stimpson and the Ironman UK race director!
2023-05-10
38 min
Nawr yw’r awr
42. Marathon Llundain
Clywch hanes Marathon Llundain lle rhedodd DC amser anhygoel o 2:34:00!
2023-04-26
48 min
Nawr yw’r awr
41. Mallorca 2023
Clywch hanes y daith hyfforddi i Mallorca, mis Mawrth 2023.
2023-04-03
45 min
Nawr yw’r awr
40. Duathlon y Wildflower 2023
Y pumed fuddugloiaeth yn olynol i Dai yn nuathlon y Wildflower a gynhaliwyd yng ngardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru ar ddydd Sul 12eg o Fawrth 2023.
2023-03-13
42 min
Nawr yw’r awr
39. Co ni off i Nice!!
Newyddion cyffrous - Mi fydd David yn cystadlu ym mhencampwriath Ironman y byd ym mis Medi, yn Nice! Clywch yr hanes yma!
2023-02-21
28 min
Nawr yw’r awr
38. Hoka Trail Half Marathon
Clywch hanes David, yn rasio'r hanner marathon yma ger Port Talbot ar dydd Sadwrn 11fed o Chwefror.
2023-02-20
29 min
Nawr yw’r awr
37. Seiclo tu fewn VS seiclo tu fas!
Nia a Dai yn trafod y manteision ag anfanteision o seiclo tu fewn vs seiclo tu fas ac yn penderfynnu beth yw ei hoff un nhw!
2023-02-08
47 min
Nawr yw’r awr
36. 2023
Blwyddyn Newydd Dda!! Edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod...
2023-01-10
32 min
Nawr yw’r awr
35. Edrych yn ôl ar 2022
Y flwyddyn gorau eto?!
2022-12-22
50 min
Nawr yw’r awr
34. Helen Murray
Mae pawb yn nabod llais Helen Murray, hi yw'r llais tu nôl y podlediad triathlon wythnosol, Inside Tri Show. Dros y blwyddyn diwethaf mae Helen wedi bod yn dysgu Cymraeg. Pan clywo ni ei bod hi yn gwrando ar Nawr Yw'r Awr fe gwnaeth Dai ei gwahodd hi yn syth i fod yn westai gyda ni ar y pod. Ers y sgwrs yma ma Helen wedi bod yn gweithio yn galed i ddysgu'r iaith a dyma'r canlyniad. Dwi'n siwr y fyddwch yn cytuno fod Cymraeg Helen yn arbennig. Mwynhewch y sgwrs!
2022-12-01
37 min
Nawr yw’r awr
33. KONA
Y race report chi gyd Wedi bod yn aros am!
2022-11-15
1h 11
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 13
Y diwrnod olaf ar yr ynys fawr! Brunch, traeth, champagne, swshi, a paco am San Fran! Diolch yn fawr iawn i chi gyd am ymuno gyda ni ar y daith. Ni wedi Joio mas draw yn creu y cyfres yma!
2022-10-10
08 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 12
Y diwrnod mawr wedi cyrraedd, diwrnod y râs. NAWR YW’R AWR! Llongyfarchiade hiwj Dai - 9:54 yn Kona!!!!!
2022-10-09
08 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 11
Y diwrnod cyn y râs, racko’r beic a’r bags, shopa am Hawaiian shirts, good luck charms a brechdanau $6!
2022-10-08
14 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 10
Co ni off! Râs y Menywod!
2022-10-07
19 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 9
Llosgfynyddoedd Hawaii, towlu sausages a edrych ymlaen at râs y menywod yfory
2022-10-06
10 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 8
Seiclo, nofio, prisiau bwyd a lot o goffi!!☕️☕️
2022-10-05
16 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 7
Expo, Breakfast with Bob, torri gwallt!
2022-10-04
14 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 6
Ho’āla, cofrestru, y bag, seiclo a poké!
2022-10-03
19 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 5
Rhedeg, marced, dysgu, bendithio a crabs!
2022-10-02
17 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 4
Codi’n gynnar, y Queen K aka yr M4, $35 i barco, nofio, poke bowls a fish BBQ.
2022-10-01
16 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 3
Ar ôl 3 diwrnod o trafeilu i ni gyd, gan gynnwys y bags a’r beic(!) wedi cyrraedd Kona 🙌🏽
2022-09-30
15 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - Diwrnod 2
Heathrow -> San Francisco. David Cole x2. Burgers wedi dechre!
2022-09-29
09 min
Nawr yw’r awr
Co ni off i Kona - diwrnod 1!
Cyfres newydd yn dilyn ein taith i Kailua-Kona, Hawaii le fydd Dai yn cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd 🌎
2022-09-27
11 min
Nawr yw’r awr
32. Ironman Cymru 2022
Y degfed Ironman i byth fod yn Nimbych y Pysgod ac fe roedd yn Ironman fydd yn aros yn y côf am sawl rheswm.. Clywch yr hanes o safbwynt Dai a Nia yn y pennod yma! Llongyfarchiadau mawr i bawb a cymherodd rhan, ir gwirfoddolwyr ac am yr holl cefnogaeth. Joiodd David clywed pobl yn gweiddi "Nawr Yw'r Awr" ato yn ystod y ras yn fawr!
2022-09-23
56 min
Nawr yw’r awr
31. Paratoi am Ironman Cymru
Dyddiadur sain wrth David a Nia wedi ei recordio yn y dyddiau yn arwain lan at Ironman Cymru. Lot o nerfau, lot o stress, llawer o cyffro! Mwynhewch!
2022-09-19
25 min
Nawr yw’r awr
30. Hanner Ironman Abertawe
Clywch Dai a Nia yn adrodd hanes eu rasys yn Abertawe!
2022-09-02
47 min
Nawr yw’r awr
29. Gemau'r Gymanwlad
Yn y rhaglen hwn trafodwn Gemau'r Gymanwlad, profiad David o cael ei wahodd i stiwdio'r BBC i dadansoddi'r triathlon ag hanes ein trip i Lundain i wylio'r cystadlu yn y velodrome.
2022-08-30
33 min
Nawr yw’r awr
28. Sylwebwyr Seiclo!
Mis yma bu Nia yn sylwebu ar y Tour de France ar y rhaglen Seiclo S4C. Tra oedd hi wrthi, cafodd ambell sgwrs cyflym gyda rhai oi chyd sylwebwyr. Diolch Robyn Davies, Dewi Owen, John Hardy ac Alun Wyn Bevan.
2022-07-28
35 min
Nawr yw’r awr
27. Non Stanford - Edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad
Dai sydd yn sgwrsio â Non ynghlyn a'i gobeithion hi yng Nghemau'r Gymanwlad sy'n dechrau wthnos nesa! nawrywrawr@hotmail.com
2022-07-21
24 min
Nawr yw’r awr
26. Lakesman
Clywch Hanes triathlon Lakesman!
2022-07-14
39 min
Nawr yw’r awr
25. Triathlon TATA Steelman
Clywch am y triathlon cyntaf i Nia neud ers bron tair mlynedd ac y cyntaf iddi gwneud ers rhoi genedigaeth i Hari.
2022-07-06
30 min
Nawr yw’r awr
24. Hyfforddi ym Majorca
Clywch beth sydd wedi bod ymlaen gyda ni ers Marathon Manceinion! COVID a sylwebu ar y Giro ond yn benodol ein taith hyfforddi i Majorca!
2022-05-11
51 min
Nawr yw’r awr
23. Marathon Manceinion
Yn y rhaglen yma dysgwn am gefndir rhedeg Dai, a sut gwnaeth e ymarfer, paratoi a rhedeg marathon mewn 2awr a 37 munud.
2022-04-17
59 min
Nawr yw’r awr
22. Ail-brofi
Yn y rhaglen yma clywn am y rasio cyffrous sydd wedi bod yn digwydd ym mhlith y proffesiynwyr yn ddiweddar. Yna trafodwn ailbrofi - a clywn am beth mae Nia wedi dysgu wrth ailbrofi ei rhediad dros 5KM. I orffen y rhaglen cyhoeddwn ein bod yn rhan o Wyl the Big Retreats eleni - tocynnau ar gael thebigretreatfestival.com
2022-04-06
30 min
Nawr yw’r awr
21. Duathlon Y Wildflower 2022
Clywch hanes duathlon y Wildflower a gynhalwyd yng Ngherddi Fotaneg Cenedlaethol Cymru ar ddydd Sul y 13eg o Fawrth.
2022-03-17
33 min
Nawr yw’r awr
20. Dechrau tymor newydd - Tymor 2022
Ma tymor rasio Dai a Nia wedi dechrau mewn ffordd llwyddianus dros ben! Bant a'r cart! https://www.patreon.com/nawrywrawr
2022-03-08
18 min
Nawr yw’r awr
19. Ironman 70.3 Abertawe - *BILINGUAL*
Wthnos 'ma clywn ymateb Dai a Nia ar ôl iddynt seiclo'r cwrs cyn iddynt holi Rebecca Sutherland, cyfarwyddwr y râs am 70.3 Abertawe ag Ironman Cymru. This week we hear David & Nia's first reaction after cycling the bike course before having a chat with Rebecca Sutherland, the Ironman race director about what we can expect from Swansea 70.3 band Ironman Wales this year. To volunteer/ I gwirfoddoli: https://www.ironman.com/im703-swansea-register https://www.facebook.com/IronmanVolunteers/ uk@ironmanvolunteers.com. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com...
2022-02-14
31 min
Nawr yw’r awr
18. Triathlon 24 Awr Russell Williams
Rhaglen dwyieithog yn sôn am triathlon 24 Awr Russell. A bilingual episode ahead of Russell’s 24hr triathlon on Saturday 5th February. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :) Facebook: https://facebook.com/events/s/24-hour-charity-triathlon/261983626061894/ Just giving: https://www.justgiving.com/crowdfunding/24hourtri?utm_term=XrrqvRnV7
2022-02-03
14 min
Nawr yw’r awr
17. Fegonawr aka Veganuary
Trafodwn ein profiad o fod yn fegan am fis. Ein hoff prydau, beth welo ni eisiau, a wnaeth e gwella ein perfformiadiau triathlon ac a fyddwn ni yn ei gario 'mlan. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2022-02-01
47 min
Nawr yw’r awr
16. Andy Davies
Clywn wrth Andy Davies, 42 mlwydd oed a newydd rhedeg 10KM PB. Roedd 6 eiliant i ffwrdd o gyrraedd yr amser i ennill slot i cynrhychioli Cymru yn gemau'r gymanwlad ym marathon Llundain ac mae mynd i rhoi siot arall arni ym marathon Seville mewn 4 wthnos. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2022-01-24
36 min
Nawr yw’r awr
15. Profion
Wthnos ‘ma trafodwn profion, beth yw nhw, sut i gwneud nhw a sut gellir eu ddefnyddio i fesur eich hyfforddi a’ch perfformiad triathlon. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2022-01-17
28 min
Nawr yw’r awr
14. Edrych yn ôl ar 2021
Edrych yn ôl ar uchafbwyntiau triathlon Dai a Nia o 2021. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2022-01-10
24 min
Nawr yw’r awr
13. “Off - Season” gyda Non Stanford
Wthnos ma i Ni’n dal lan gyda cyn-gwestai ir podlais, Non Stanford ac yn trafod pwysigrwydd cael amser bant o triathlon dros y Gaeaf. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-12-20
42 min
Nawr yw’r awr
12. Cynlluniau 2022
Clywch sgwrs rhwng Dai a Nia lle trafoda nhw eu cynlluniau am 2022. Dysgwch sut y maent yn gwneud y fwyaf o’r “off-season”, sut y maent yn trefnu ei blwyddyn triathlon a cewch cwpwl o synidau am rasys blwyddyn nesaf! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-11-15
37 min
Nawr yw’r awr
11. Ffion Caines
Yn y rhaglen hon clywn hanes Ffion, mae Ffion yn newydd i triathlon, wedi prynu beic yn y cyfnod clo cyntaf ac wedi dechrau hyfforddi nol ym mis Ionawr leni. Mae Ffion yn gweithio'n galed ac yn gwneud y mwyaf o bywyd a phob cyfle wedi iddi ddioddef o gancr pan yn blentyn a treulio amser hir yn yr ysbyty. Stori i'ch ysbrydoli! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-11-08
29 min
Nawr yw’r awr
10. Sharon a Noelwyn
Ein gwesteuon wthnos 'ma yw'r par priod Noelwyn a Sharon. Gwnaeth y ddau cwblhau Ironman Barcelona yn ddiweddar. Ironman cyntaf i Sharon a hi yn ei 50au. Gwrandewch ar hwn os yr ydych am cael eich ysbrydoli. Yn geiriau Sharon - "anything is possible"! Os yr ydych am wrando nôl ar ein podlais gyda Noelwyn a dysgu fwy am ei hanes ef a'i waith fel trefnwr rasus triathlons, dyma'r linc: Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-10-25
49 min
Nawr yw’r awr
9. Bolton 70.3
Clywch hanes yr hanner Ironman cyntaf i’w chynnal ym Molton! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-10-18
39 min
Nawr yw’r awr
8. Gruff Lewis - Tour of Britain
Ar ôl ei berfformiad gwych yng nghymal 4 y Tour de Britain rhaid oedd cal sgwrs arall gyda seiclwr proffesiynol tîm Ribble Weldtite, Gruffudd Lewis! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-09-20
42 min
Nawr yw’r awr
7. Tour of Britain
Trafodwn y râs seiclo Tour of Britain sydd yn digwydd wthnos ma, gan gynnwys hanes y recce nath Dai o cymal 4 sef Aberaeron i Landudno! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-09-06
25 min
Nawr yw’r awr
6. Andrew Horsfall-Turner
We start this week by discussing the awful news that has rocked the triathlon community over the last week of Nathan Ford's terrible injuries sustained whilst racing at Aberfeldy British Middle distance championship events. Nathan is currently in Intensive Care in Scotland and has a long road ahead of him. Nathan was diagnosed with two life threatening conditions, a brain injury and a spinal injury. It appears that his brain injury isn't as severe as initially thought but his spinal injury is worse than we could have ever imagined. Currently Nathan is not able to breathe independently and is...
2021-08-30
1h 11
Nawr yw’r awr
5. Râs y Collins Cup
Wthnos ma gewch rhagolwg ar râs y Collins Cup sydd yn digwydd dydd Sadwrn! Ni'n reli edrych mlan iddo a gobeitho bod y rhaglen yma yn rhoi esboniad cloi i chi am sut ma'r râs yn gweithio, y timoedd, a pwy fydd yn rasio! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-08-23
42 min
Nawr yw’r awr
4. Triathlon Llundain
Trafoda Dai a Nia (âg am bell mewnbwd gan Hari) profiad Dai yn rasio triathlon Llundain! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-08-16
31 min
Nawr yw’r awr
3. Staffordshire 70.3
Clywch Dai yn adrodd hanes ei râs diweddar yn Staffordshire. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-08-09
33 min
Nawr yw’r awr
2. Scott Davies
Wthnos ‘ma clywn wrth y seiclwr professiynol Scott Davies. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ma Scott nawr yn seiclo i dîm Bahrain Victorious. Clywn am ei yrfa seiclo gyd yn hyn a’r anaf sydd wedi bod yn ei boeni eleni. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-08-02
54 min
Nawr yw’r awr
1. Croeso nôl
O’r diwedd, yr ydym nôl ar ôl egwyl wedi enedigaeth Hari! Gewn catch up bach yn y rhaglen hon yn sgwrsio am ein ymarfer nawr, Ironman Cymru, Kona ac ein cynlluniau am gweddill y flwyddyn. Diolch am ymuno nôl gyda ni.
2021-07-26
24 min
Nawr yw’r awr
10. Jodie Stimpson
Jodie Stimpson - 2 medal aur Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow / 2 Commonwealth Gold medals - cynrhychioli Prydain yn triathlon ITU i lawer o lwyddiant / Has represented GB at ITU to huge success - Camu lan i pellteroedd hirach / Stepping up to the longer distances - ennillydd Challenge Miami eleni - dim ond ei 3ydd ras dros y pellter canol / Won Challenge Miami - only her 3rd middle distance race - anelu at Gemau'r Gymanwlad ym Mirmingham / Aiming for the Birmingham Commonwelth Games - Noddwyd gan CES Sport ac yn...
2021-05-10
55 min
Nawr yw’r awr
9. vEveresting
Yn ein pennod wythnos yma clywn am sialens ddiweddaraf Dai a rhai o athletwyr DCTriathlo, Guto, Russell a Nick sef vEveresting. Gwrandewch ar y pennod i glywed beth yn union yw vEveresting a os oedd y bois yn llywddianus! Diolch i Guto, Russell a Nick am siarad a ni ac ail-fyw y profiad! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2021-04-26
56 min
Nawr yw’r awr
8. Sarah Everard - profiadau merched NYA!
Fe lofruddiwyd Sarah Everard nôl ym mis Mawrth 2021. Fe chipiwyd hi tra'n cerdded adref o dŷ ffrind. Gwnaeth y digwyddiadau trist yma dechrau sgwrs mawr dros Prydain i gyd am diogelwch merched tra allan yn rhedeg a cerdded. Bu llawer o siarad ynglyn a'r ffordd ma rhai dynion yn trin menwod a merched tra bo nhw allan yn ymarfer. Ar y podlais wthnos yma felly clywn am straeon "merched Nawr Yw'r Awr" - cyn-westai a gwrandawyr y pod. Pwrpas y rhaglen yw i codi ymwybyddiaeth a cadw'r trafodaeth i fynd am y pethau sy'n digwydd i ni a su...
2021-04-12
1h 15
Nawr yw’r awr
7. Cameron Wurf
Ein ail bennod dwy ieithog - our second bilingual episode! Roedd yn fraint cael sgwrsio gyda Cameron yn ddiweddar! Nid yn unig un o'r triathletwyr fwyaf llwyddiannus y byd ond hefyd yn dipyn o gymeriad! - Cyn rhwyfwyr Olympaidd - Seiclwr professiynol tîm Ineos - Triathletwr proffesiynol - ennillydd Ironman Wales a Eidal - Record cwrs beic Kona - 5th Kona 2019 It was an honour chatting with Cameron recently! Not only one of the most successful triathletes in the world but also quite a character! - Olympic rower - Professional Cyclist for team Ineos - Professional triathlete - W...
2021-03-29
1h 35
Nawr yw’r awr
6. Jade Knight
Ma Jade Knight yn chwaraewr rygbi rhyngwladol, yn chwarae safle'r mewnwr i'r Saracens ac i Gymru. Mae hefyd yn fydwraig ac yn fam i Emrys, 6 oed. Yn y sgwrs clywn am cefndir Jade yn chwaraeon a'i siwrnau i fod yn rhif 9 Cymru can gynnwys sut daeth hi nôl i ffitrwydd ar ôl enedigaeth ei mab. Clwyn tips di-ri wrth Jade, y fydwraig (midwife) ynglyn âg hyfforddi tra'n feichiog ac ar ôl beichiogrwydd. Dilynnwch Jade ar Instagram @jade_knight9 Diolch i chi gyd am wrando. Cysylltwch â ni ar nawrywrawr@hotmail.com com neu ar Facebook neu Instagram @nawrywrawr Cefn...
2021-03-15
31 min
Nawr yw’r awr
5. Huw Jack Brassington.
Ar y podlais wthnos ma rydy yn croesawi Huw Jack Brassington. Mae Huw yn gyflwynydd, siaradwr gwâdd, awdur, anturuwr ac athletwr o fri. Mae wedi cyflawni rhai o rasus anoddaf y byd gan gynnwys y Coast to Coast yn Seland Newydd, Râs Cefn y Ddraig a 47 Copa neu'r Paddy Buckley. Mae ganndo hefyd brofiad yn triathlon wedi cystadlu yn lleol ond hefyd yn China fel "age-grouper" dros Prydain yn pellter y sbrint. Llyfr Huw "Herio i'r Aethaf" https://www.amazon.co.uk/Stori-Sydyn-Herio-ir-Eithaf/dp/1784618381 Amazon Prime - 47 Copa https://www.amazon.co.uk/47-C...
2021-03-01
1h 15
Nawr yw’r awr
4. Shanghai Ironman 70.3
Yn y rhaglen heddiw edrycha David a Nia yn ôl i'r tro dwetha teithio nhw tramor, pan aethon nhw i Chongming, Shanghai ar ddiwedd 2019 er mwyn i David cymeryd rhan yn y ras hanner Ironman 70.3. Clywch yr hanes yma! Diolch i chi gyd am wrando. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :) Cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter (@nawrywrawr) neu ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com
2021-02-15
56 min
Nawr yw’r awr
3. Luke Rowe
Ein pennod ddwy ieithog cyntaf! Our first bilingual episode! Croeso to our new listeners. Wthnos 'ma ymunodd y seiclwr professiynol tîm Ineos, y Cymro, Luke Rowe â ni. Gobeitho newch chi joio'r sgwrs cymaint a ni. This week we interviewed Welsh professional Ineos cyclist, Luke Rowe! We hope you enjoy the chat as much as we did! - Dechreuodd seiclo i tîm Sky yn 2012 / He began riding with Team Sky in 2012. - Ennillodd ei ras cyntaf profesiynol yn y Tour of Britain yn 2012 / Won his first professional race in the Tour of Brita...
2021-02-01
59 min
Nawr yw’r awr
2. Gruffudd ab Owain (Y Ddwy Olwyn)
Ar y rhaglen wythnos yma sgwrsiwn â Gruffudd ab Owain. Bydd nifer ohonoch yn adnabod Gruffudd trwy ei flog seiclo, Y Ddwy Olwyn. Mae Gruffudd hefyd yn adnabyddus ar Twitter fel @cycling_dragon. Mae'n ysgrifennwr talentog a gwybodus iawn a chlywn am ei flog a'i basiwn at seiclo yn y rhaglen yma. Fydd yn syndod i rhai i ddysgu fod Gruffudd ond yn 16 mlwydd oed! Dysgwch fwy am y person tu nôl i'r blog yn y rhaglen yma. Os oes gennych diddordeb yn ymuno â ni am y seminar maeth (nutrition) sy'n cael ei chynnal gan ein cyn-westai, y d...
2021-01-18
49 min
Nawr yw’r awr
1. Rhedeg yr Adfent gyda Guto Jones.
BLWYDDYN NEWYDD DDA! Croeso nôl i gyfres newydd o Nawr Yw'r Awr. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :) Wthnos ma ymuna Guto Jones â ni a hola Nia ef a Dai am y sialens rhedeg fe wnaethon cwblhau dros yr adfent. Os i chi moyn noddi nhw a rhoi arain at yr elusen Mind, dyma'r dudalen Just Giving > https://www.justgiving.com/fundraising/MINDAdventCalendarRunningChallenge?utm_source=whatsapp&utm_medium=fundraising&utm_content=MINDAdventCalendarRunningChallenge&utm_campaign=pfp-whatsapp&utm_term=99f12e66b8d146f296b5a...
2021-01-04
57 min
Nawr yw’r awr
25. Newyddion
Wthnos ma trafodwn newyddion y byd triathlon, newyddion wrth Nawr Yw'r Awr ag ychydig o newyddion wrth Dai a Nia! Noddwyd y rhaglen gan CRWST - ymwelwch a'i gwefan crwst.cymru a defnyddiwch y côd CRWST10 am ostygiad o 10% o'r pris. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros y 25 wthnos dwethaf! x Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-11-30
33 min
Nawr yw’r awr
24. Caffîn gyda Dr Roger Cole
Wthnos ma trafodwn pobeth am caffîn gyda Dr Roger Cole. Esbonia Roger beth yw caffîn cyn trafod y manteision a'r anfanteision. Diolch yn fawr i Roger am ei amser. Diolch yn fawr hefyd i'n noddwyr - Teifi Coffee. teificoffee.co.uk - cadwch lygad mas am côd ddisgownt ar ei' tudalennau facebook a twitter. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-11-23
1h 08
Nawr yw’r awr
23. Ironman Cymru
Wthnos ma trafodwn Ironman Cymru. A oeddech chi yn un o'r pobol a gafodd lle yn y râs wthnos dwethaf? Yn benodol, clywn hanes Nia a'i thaith hi o fod yn rhywun oedd ddim yn gwneud dim ymarfer corff i gwblhau Ironman Cymru yn 2018. Am rhagor o wybodaeth am gwaith hyfforddi Dai ymwelwch â dctriathlon.co.uk neu ebostiwch dctriathlon@outlook.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-11-16
54 min
Nawr yw’r awr
22. Holi Dai a Nia!
Diolch i bawb a ddanfonodd cwestiynau atom, natho ni reli joio ei ateb nhw. Os chi moyn fwy o wybodaeth am unrhywbeth yna danfonwch ebost (nawrywrawr@hotmail.com) neu danfonwch neges i ni ar Facebook neu Twitter. Diolch! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-11-09
51 min
Nawr yw’r awr
21. Gruffudd Lewis
Wthnos ma sgwrsiwn â Gruffudd Lewis. - Seiclwr professiynol i dîm Ribble Weldtite - Sylwebydd ar rhaglen "Seiclo" yr S4C - Perchennog "Caffi Gruff" - sef caffi, siop beics a enw ar tim seiclo arweinwyd gan Gruff. Am rhagor o wybodaeth ewch i www.caffigruff.cc neu @caffigruff ar Facebook ag Instagram. Diolch i noddwyr ein rhaglen - Llewelyn Davies - cyfrifwyr siartedig o Sir Benfro. Diolch iddynt am pob cymorth tra'n sefydlu "DCTRIATHLON". Ymwelwch a http://www.llewelyndavies.co.uk am fwy o wybodaeth.
2020-11-02
1h 08
Nawr yw’r awr
20. Tips a Tricks Dai a Nia: Y Cyfnod Clo #2
Yn y pennod yma trafoda Dai a Nia ei tips nhw am sut i gadw'r cymhelliant yn uchel yn ystod yr ail cyfnod clo a'r Gaeaf sydd o'n blaenau. Cofiwch ddanfon neges os yr ydych moyn ymuno â ni ar Zwift dydd Sadwrn. Twitter: @nawrywrawr Facebook: Nawr Yw'r Awr Ebost: nawrywrawr@hotmail.com Am fwy o wybodaeth am ein hyfforddi: dctriathlon.co.uk // dctriathlon@outlook.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-10-26
40 min
Nawr yw’r awr
19. Y dietegydd, Carys Davies
Ar y rhaglen wthnos ma siaradwn gyda dietegydd, triathletwr a chwaer Nia, Carys Davies. Trafodwn pwnc pwysig iawn .... BWYD! Beth i fwyta cyn, yn ystod ag ar ôl ymarfer neu rasio. Os oes gwnnych unrhyw cwestiynau danfonwch ebost atom - nawrywrawr@hotmail.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-10-19
49 min
Nawr yw’r awr
18. Andrew Toft
Ymunodd y rhedwr a physio o Penparc, Andrew Toft gyda ni wthnos ma am sgwrs hynod o ddiddorol am ei brofiadau ef am rhedeg marathons a ultras cyn i ni holi e am ei waith fel physio. Gofynnon iddo am unrhyw tips a trics roedd ganddo i chi so newch yn siwr i wrando! I gysylltu â Andrew ei gyfeiriad yw Feidr Tywod, Penparc, Aberteifi, SA431RE neu ffoniwch 01239 615838. Diolch i ein noddwr wthnos ma sef Be You Yoga, stiwdio yoga a symudiad wedi ei leoli yng Nhanolfan Teifi, Pendre, Aberteifi. Ewch i'w wefan beyouyogawales.co.uk am fwy o fa...
2020-10-12
1h 04
Nawr yw’r awr
17. Dewi Griffiths
Yn ymuno â ni wthnos ma', mae Dewi Griffiths - un or rhedwyr Cymraeg gorau erioed. - Marathon 2:09 - ail amser cyflyma i Gymro erioed. - Gemau'r gymanwlad 2014 - Hanner marathon Caerdydd - 61:33 - Pencampwr trawsgwlad. Cofiwch allwch gysylltu â ni ar nawrywrawr@hotmail.com neu trwy ein dudalennau Twitter neu Facebook. Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-10-05
45 min
Nawr yw’r awr
16. Tips a Trics Dai a Nia. Rhan 2: Teithio tramor
Yn y pennod yma trafodwn ein top tips an teithio tramor i cystadlu neu ymarfer. Beth yw ffordd orau i fynd â'r beic? Pa yswiriant sydd orau? Pa fwydydd i osgoi cyn y ras? Os oes gennych ynrhyw sylwadau cysylltwch â ni ar facebook, twitter neu ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-09-28
51 min
Nawr yw’r awr
15. Shane Williams MBE
🌟 SHANE WILLIAMS MBE 🌟 Cawsom y fraint wthnos ma i holi cyn asgellwr gorau’r byd, Shane Williams. Ers ymddeol o chwarae rygbi mae Shane wedi troi ei law at triathlon gan gwblhau 4 Ironman Cymru. Nid yw Shane wedi colli ei ochr gystadleuol a trafodwn ei targedau ym maes triathlon. Mae codi arian at elusennau hefyd yn bwysig i Shane gan gynnwys Canolfan Cancr Felindre a fel arfer fy fyddai Shane yn teithio’r byd yn taclo’r sialens nesaf er mwyn godi arian at achosion da. http://www.velindrefundraising.com Diolch i noddwyr y rhaglen: -crwst.cymru -ces-sport.co.uk -tafellat...
2020-09-21
49 min
Nawr yw’r awr
14. Llywbr arfordir Ceredigion
Wythnos dwetha rhedodd Dai hyd llwybr arfordir Ceredigion! Clywch yr hanes yn y pennod yma. Just Giving Darren Williams https://www.justgiving.com/crowdfunding/darren-williams-132?utm_term=ABaKeB5RM Just Giving LEJOG https://www.justgiving.com/crowdfunding/oxygentherapy/updates/5cae0?utm_term=NN8DgdPZV&fbclid=IwAR2hSHWVeekH5B_0bKKtsHh57YjTAkKAdZaNxa6iw2uRNjwmwTSJ0HtGzdw Hyfforddiant DC Triathlon dctriathlon@outlook.com Diolch i JT Bicycle Service and Repairs am noddi https://www.facebook.com/jtsbicycleseriviceandrepair Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-09-14
58 min
Nawr yw’r awr
13. Rasio yn dychwelyd i Gymru.
Ar y rhaglen wythnos 'ma troiwn ein sylw at y digwyddiad Duathlon ym Mhembrey a ddigwyddodd Dydd Sul y 6ed o Fedi. "Test event" gan Welsh Triathlon - y digweddiad cyntaf yng Nghymru ers y cyfnod clo. Ymuna Gareth Evans, pennaeth datblygu Triathlon Cymru â ni y noson cyn y digwyddiad i'w drafod a ni'n cael "ecsliwsif" am rhagor o ddigwyddiadau ni'n gobeithio fydd yn cymeryd rhan cyn diwedd y flwyddyn! Clywch hefyd adroddiad Dai am y digwyddiad cyffrous. Diolch i ein noddwyr Bara Menyn www.baramenynbakehouse.co.uk am noddi'r rhaglen. Cefnogwch ni/Support us: h...
2020-09-07
42 min
Nawr yw’r awr
12. Elinor Kirk
Dechreuodd Elinor ei gyrfa rhedeg gyda’r Swansea Harriers cyn symudodd i Southampton i astudio meddygyniaeth. Treuliodd dau mlynedd ym Mhrifysgol yn Alabama a fan hyn aeth rhedeg Eli o nerth i nerth. Wedi gorffen yn y brifysgol bu Eli yn rhan o dîm rhedeg professiynol New Balance. Cystadleuodd Eli yng ngemau’r gymanwlad yn 2014 a 2018 dros5KM, 10KM a’r marathon! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-08-31
1h 04
Nawr yw’r awr
11. Tips a trics Dai a Nia - Rhan 1: Kit
Dechreuwn y pennod yma drwy sgwrsio ein newyddion diweddaraf sef profiad Dai o fod ar y rhaglen Heno a’r newyddion na fyddai Geraint Thomas yn y tour ‘leni. Yna atebwn cwestiwn sydd wedi cael ei danfon mewn yn ddiweddar sef pa kit sydd angen i wneud triathlon. Os oes gennych chi unrhyw tips neu trics yna danfonwch mewn atom nawrywrawr@hotmail.com. Mae hyn yn rhan cyntaf o gyfres so os hoffech chi glywed tips am unrhyw topics eraill yna cysylltwch â ni. Diolch i JT Bicycle Service & Repair am noddi'r rhaglen. Ffeindiwch ei fanylion ar Fac...
2020-08-24
53 min
Nawr yw’r awr
10. Nerys Jones
Ar y rhaglen yma rydym yn cyfweld Nerys Jones. Merch o Aberteifi yw Nerys ac mae’n saff i ddweud fod chwaraeon yn rhan enfawr o fywyd Nerys. Mae wedi cynrhychioli GB mewn Biathlon a dechreuodd ei gyrfa triathlon trwy ENNILL Long Course Weekend yn 2014! Mae Nerys hefyd yn caru rhedeg yn enwedig o gwmpas arfordir Ceredigion. Cyfweliad hynod o ddiddorol gyda un o ferched mwyaf ysbrydoledig Cymru. Noddwyd y rhaglen yma gan JT Bicycle Service & Repairs. Ffeindiwch ei fanylion ar Facebook https://www.facebook.com/jtsbicycleseriviceandrepair I cysylltu â ni ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com neu os...
2020-08-17
1h 03
Nawr yw’r awr
9. Cotswolds Classic
Ar y rhaglen yma trafoda Dai a Nia râs diweddar Dai yn y Cotswolds. Râs pellter canol aka hanner Ironman neu 70.3. Hwn oedd y triathlon cyntaf ym Mhrydain wedi’r cyfnod clo. Noddwyr y rhaglen yma oedd teificoffee.co.uk. Os oes gennych unrhyw cwestiynau neu hoffwch noddi rhaglen ebostiwch ni ar nawrywrawr@hotmail.com. Am rhagor o wybodaeth am gwmni hyfforddi Dai ebostiwch dctriathlon@outlook.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-08-10
56 min
Nawr yw’r awr
8. Gareth Davies
Ein gwestai wthnos ‘ma Yw’r chwaraewr rygbi, Gareth Davies. 🏴 Mewnwr Scarlets a Cymru 🏴 Rhan o garfan y Scarlets ers 2006 🏴 53 cap dros Cymru 🏴 14 cais i Gymru 🏴 Cwpan y Byd 2015 - quaterfinalist 🏴 Cwpan y Byd 2019 - semi finalists 🏴 Grandslam ym Mhencampwriath y Chwe Gwlad 2019 Trafodwn ei hyfforddi a’i dulliau ymarfer - sut mae e’n cydbwyso fod yn gryf a cadw spîd; cymharwn hyfforddi rygbi a triathlon; y cyfnod clo; pwysicrwydd bwyta’n dda; nerfau; y cais enwog yn erbyn Lloegr; colli yn Semi Finals Pencampwriaeth y Byd yn erbyn De Africa ar dyfodol - gan gynnwys y cwestiwn fawr.. a welwn ni e yn cwblhau Ironman Wales yn y dyfodol! Er nad yw Gareth yn driathlete mae’r sgwrs yn hynod o diddorol a pherthnasol. Fraint oedd...
2020-08-03
58 min
Nawr yw’r awr
7. Non Stanford
🌟Triathletwr proffesiynol ITU 🇬🇧 🌟Pencampwr y byd dan-23 oed 2012 🌎 🌟Pencampwr y byd 2013 🌍 🌟Olympics Rio 2016 - 4ydd 🇧🇷 🌟Capten tîm Cymru yng nghemau’r Cymanwlad 2018 🏴 🌟Ennillydd ras ITU Hamburg 2019 🥇 Mae Non yn un o driathletwyr gorau’r byd - trafodwn ei llwyddiannau; ei phrofiadau yn ystod y cyfnod clo; ei gobeithion am y dyfodol; Ironman Cymru a sut mae’n ymdopi gyda pwysau cystadlu. Roedd yn pleser siarad â Non - diolch. Noddwyd y rhaglen gan RJ Financial Planning. 🔹 https://www.rjfinancialplanning.co.uk 🔹 01239 801555 🔹 Twitter: @RJFINANCIALPLA1 Cysylltwch â ni: 🔸nawrywrawr@hotmail.com (podlais) 🔸dctriathlon@outlook.com (Tri coaching) Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-07-27
52 min
Nawr yw’r awr
6. Steff Hughes
Ar y rhaglen wythnos ma yr ydym yn sgwrsio gyda Steff Hughes. Ma Steff yn trafod ei amser fel rhedwr tywys mewn 3 gemau Olympaidd; Ironman Cymru; trip seiclo gyda Dai i Iwerddon ac hefyd ei gwmniau newydd Sgiliau a Lean Kitchen. Mae yna lot o hiwmor a banter yn yn rhaglen yma ac hefyd ma Steff yn shario sawl stori diddorol. Am rhagor o wybodaeth am Steff, Lean Kitchen a SGILIAU gwelwch: https://leankitchen.org.uk/ https://twitter.com/steffrhughes?lang=en https://www.instagram.com/steffrhughes/?hl=en h...
2020-07-20
1h 30
Nawr yw’r awr
5. Y Narberth Nobbler
Clywch am 10KM PB newydd Dai yn y rhaglen yma cyn i ni mynd a chi gyda ni i rhoi shot ar gwneud râs y Narberth Nobbler! Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-07-13
37 min
Nawr yw’r awr
4. Noelwyn Daniel
Sgwrs da Noelwyn Daniel. Triathlete a trefnwr gweithgareddau yn sir Gâr. Wedi cystadlu mewn triathlon pob blwyddyn ers 1989 ma Noelwyn yn gwbod beth ma athletwr moyn mas o râs ac mae’n defnyddio’r profiad yma i greu rhai o’r gweithgareddau mwya poblogaidd yng Nghymru. Mae proffit pob ras a drefnwyd gan Healthy Life Activities yn mynd at elusennau lleol. Am fwy o wybodaeth ewch at y gwefan healthylifeactivities.co.uk Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-07-06
57 min
Nawr yw’r awr
3. Pwy sydd angen Sa Calobra?!
“Pwy sydd angen Sa Calobra pan ti ‘lli cleimo mas o Langrannog” - clywch am ein trip ddiweddar ar y beics ar hyd arfordir De Ceredigion cyn i ni ateb eich cwestiynau gan gynnwys pwy sydd ore yn y bore, tips nofio(!), sut yr ydym yn motivato ein gilydd a pha sialens yr ydym wedi osod ein hunain nesaf tra bo' ddim rasys ar y calendar. Os oes cwestiwn hoffwch chi glywed ni'n ateb yna cysylltwch â ni - nawrywrawr@hotmail.com, Twitter (@nawrywrawr) neu Facebook (Nawr Yw'r Awr) Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/naw...
2020-06-29
43 min
Nawr yw’r awr
2. Lowri Morgan
Yn ystod y rhaglen yma ni’n trafod anturiaethau ultra anhygoel yr athletwr Lowri Morgan yn jwngl yr Amazon, yn yr Arctic ac ar hyd a llêd Cymru. I ni hefyd yn trafod y pwysau o wneud Ironman Cymru, sut a ffaint ma Lowri yn ymarfer, beth yw heriau’r dyfodol ac mae na sawl cwestiwn diddorol wrth y gwrandawyr. Ma’ Lowri wir yn legend yn y byd athletau ac yn ysbrydoliaeth i nifer. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr - “Beyond Limits” ma hwn ar gael ar: https://www.amazon.co.uk/Beyond-Limits-Lowri-Morgan/dp/1785622757 Allwch ffeindio mwy o wybodaeth a...
2020-06-22
1h 17
Nawr yw’r awr
1. Dod i nabod Dai a Nia.
Dai a Nia yn cyflwyno ei hunen a rhoi bach o gefndir am eu profiadau yn y maes triathlon cyn holi 3 cwestiwn i’w gilydd! Ar diwedd y rhaglen ma gwestai cyntaf Nawr Yw’r Awr yn cael ei ddatgelu! Ebost: nawrywrawr@hotmail.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-06-15
44 min
Nawr yw’r awr
Croeso i Nawr Yw’r Awr
Cyflwyniad byr o ein podlais newydd. Cadwch lygad ar ein Facebook a Twitter am fwy o newyddion! Ebost: nawrywrawr@hotmail.com Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr Diolch :)
2020-06-10
00 min