podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Richard Nosworthy
Shows
Hefyd
Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21
Yn y pennod olaf o'r gyfres yma, ein gwestai ydy Diana Luft, sy’n dod o Ganada yn wreiddiol. Mae Diana wedi astudio llawer o hen ddogfennau megis testunau meddygol (Plîs peidiwch â dilyn yr hen gyngor meddygol mae hi’n rhannu o’r oesoedd canol!) Heddiw, mae hi’n gweithio fel cyfieithydd, ac yn y sgwrs yma mae hi’n siarad am ei bywyd yn Nghanada a'r Unol Daleithiau, symud i Gymru, a’i phrofiadau o ddysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am Diana ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Ri...
2023-03-07
39 min
Hefyd
Barbara a Bernard Gillespie: ymddeol, grwpiau cymunedol a byw ar y ffin | Pennod 20
Ein gwesteion ni y tro yma ydy Barbara a Bernard Gillespie. Symudodd y cwpl o Wolverhampton yn Lloegr i ganolbarth Cymru ar ôl iddyn nhw ymddeol. Yn y blynyddoedd ers hynny maen nhw wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n defnyddio’r iaith yn aml iawn. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n trafod eu profiadau o symud i Gymru a dysgu’r iaith, y gweithgareddau a chlybiau cymdeithasol Cymraeg yn eu hardal nhw, a thraddodiad y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae mwy o wybodaeth am Barbara a Bernard ar fy ngwefan i. Cyflwynyd...
2022-12-16
37 min
Hefyd
Steve Dimmick, Dyn Busnes o’r Cymoedd | Pennod 19
Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy’n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni’n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu’r iaith a’i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r #CwestiwnYMis...
2022-11-17
37 min
Hefyd
Jo Heyde, Bardd o Lundain | Pennod 18
Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd! Erbyn hyn mae hi’n rhan o’r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi! Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r ‘Cwestiwn Y Mis’ postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?’. Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy
2022-10-20
20 min
Hefyd
Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17
Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o...
2022-09-15
43 min
Hefyd
Josh Osborne, Enillydd Medal y Dysgwyr | Pennod 16
Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein. Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd...
2022-08-18
24 min
Hefyd
Rhian Howells, Awdur ac Athrawes o Ardal Abertawe | Pennod 15
Y mis yma, dwi’n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe. Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy’n angerddol am y Gymraeg. Yn ogystal â’i gwaith, mae hi’n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni’n trafod ei llyfr hi, 'Princess Pirate Pants'! Mae mwy o wybodaeth amdani hi ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Ca...
2022-07-21
21 min
Hefyd
Helgard Krause, Almaenes a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru | Pennod 14
Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau! Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Rich...
2022-06-16
43 min
Hefyd
Rhifyn arbennig: Rich ac Elin | Pennod 13
Mae’r pennod yma yn un arbennig... Fi (Rich) yw’r gwestai, ac fy merch, Elin yw’r cyflwynydd! Mae mwy o wybodaeth ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Elin Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
2022-05-19
07 min
Hefyd
Matt Davies, Ffan Chwaraeon o Benybont Ar Ogwr | Pennod 12
Y mis yma rydyn ni’n cwrdd â Matt Davies – ffan chwaraeon o Benybont Ar Ogwr. Mae Matt yn gweithio i Chwaraeon Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn ein sgwrs, rydyn ni’n trafod pwysicrwydd chwaraeon, heriau a tips dysgu Cymraeg, a llwyddiant tîm pêl droed Cymru. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gad...
2022-04-27
18 min
Hefyd
Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11
Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn. Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
2022-03-17
41 min
YOU Better!
At the Edge of Growth with Phill Nosworthy
In this episode, Kiesha heads over to Australia (virtually!) to connect with Phill Nosworthy to indulge in mutual curiosity about how it feels to grow and how you compassionately guide yourself when you find yourself at the edge of growth. The two discuss the idea of slowing down to move at the speed of wisdom so you can do less, better. And they also talk about how to tackle that gap between all those things you learn and the things you actually put into practice. At the time this episode airs in March of 2022, our human family on...
2022-03-11
1h 10
Hefyd
Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10
Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
2022-02-17
31 min
Hefyd
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9
David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a’i ddiddordeb mewn technoleg. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** ...
2022-01-20
36 min
Hefyd
Liz Day, Podlediwr a Pherfformiwr Syrcas | Pennod 8
Liz Day yw'r gwestai y tro yma. Mae Liz yn dod o Swydd Amwythig, Lloegr. Symudodd hi i Gaerdydd, ble mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Wales Online. Erbyn hyn, mae hi'n gwneud nifer o bethau diddorol - sy'n cynnwys sgiliau syrcas, a gwneud blog a phodlediad ei hun, Liz Learns Welsh. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Goog...
2021-11-17
22 min
Hefyd
David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn 2021 | Pennod 7
Y gwestai y tro yma ydy David Thomas. Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr. Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned. Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd...
2021-10-21
37 min
Hefyd
Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6
Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski. Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg! Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts...
2021-09-21
29 min
Hefyd
Geordan Burress, Ffan Cerddoriaeth Cymraeg o Cleveland, Ohio | Pennod 5
Geordan Burress yw ein gwestai ym mhennod 5. Mae Geordan yn byw yn Cleveland, Ohio, UDA, a dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys. Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a siaradodd hi am ei hymweliad â Chymru. Gallwch chi weld lluniau o daith Geordan i Gymru yma. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
2021-08-19
23 min
Hefyd
Rosa Hunt, Gweinidog Capel o Donteg a Malta | Pennod 4
Ein gwestai ni y tro yma ydy’r Parchedig Doctor Rosa Hunt – Gwenidog Capel Salem, Tonteg ger Pontypridd. Mae Rosa yn dod o ynys Malta yn wreiddiol. Fel Cymru, mae Malta yn wlad fach gyda iaith ei hun yn ogystal â Saesneg. Siaradon ni am ei phlentyndod ym Malta, sut mae statws Malteg wedi newid ers ennill annibyniaeth, a’r heriau a phleserau o ddysgu Cymraeg a symud i Gymru. Manylion a geirfa Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
2021-08-12
26 min
Hefyd
Stephen Rule, y 'Doctor Cymraeg' o Sir y Fflint | Pennod 3
Y tro yma dwi'n siarad gyda Stephen Rule, y dyn sy'n rhedeg y cyfrif Twitter poblogaidd, y Doctor Cymraeg, sy'n rhoi cyngor i ddysgwyr. Yn y pennod yma rydyn ni'n siarad am sut dysgodd e Gymraeg, a sut gallwch chi datblygu hyder i siarad yr iaith yn gyhoeddus. Manylion a geirfa Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
2021-06-17
33 min
Hefyd
Angharad Jones, Athrawes o Fedwas | Pennod 2
Yn yr ail bennod, rwy'n siarad gydag Angharad Jones. Mae Angharad yn athrawes o Fedwas ger Caerffili. Mae hi’n gweithio mewn ysgol gynradd Saesneg, ond gan bod y Gymraeg yn fwyfwy pwysig yn y cwricwlwm, mae hi’n gwneud cwrs o’r enw ‘Cymraeg mewn blwyddyn’ er mwyn helpu’r plant. Manylion a geirfa: https://richardnosworthy.cymru/2021/05/20/podlediad-hefyd-pennod-2-angharad-jones/ Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
2021-05-20
19 min
Hefyd
Rhiannon Oliver, Actores o Benarth | Pennod 1
Ein gwestai cyntaf yn y gyfres hon yw Rhiannon Oliver. Mae Rhiannon yn actores sydd wedi gweithio yn y theatr a theledu ers mwy nac 17 mlynedd. Mae ei gwaith hi yn cynnwys perfformio gyda National Theatre Wales, teithio o gwmpas Prydain ac America, ac ymddangos ar Doctors a Torchwood.
2021-04-15
23 min
Hefyd
Walter Ariel Brooks o Batagonia | Pennod Peilot
Mae dysgu Cymraeg wedi newid bywyd Walter Ariel Brooks. Hanesion ei nain a chaneuon Cymraeg wnaeth sbarduno diddordeb yn y bachgen o'r Ariannin. Cwympodd e mewn cariad gyda'r iaith a symudodd e i Gaerdydd. Dyma ei stori anhygoel.
2021-02-03
1h 04
The Seminal Catastrophe Podcast
Supplemental 4. Militarism Run Stark Mad
Boy, Europe sure had a lot of enormous armies in 1914, didn't they?IMAGES FOR TODAY'S EPISODESources:Davis, Tenney L. The Chemistry of Powder and Explosives. Boston: MIT Press, 1941.Hart, Peter. The Great War: A Combat History of the First World War. Oxford: Oxford University Press, 2013.Nosworthy, Brent The Battle Tactics of Napoleon and his Enemies. London: Constable, 1997.Westwell, Ian. An Illustrated History of the Weapons of World War One. Leicestershire: Anness Publishing, 2011.Willmott, H.P. World War I. New York: DK Publishing, 2003...
2020-05-16
59 min