podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Sgil Cymru
Shows
Rhaglen Cymru
Y diaspora yn dathlu - Gwelliannau BBC Cymru
Pod fer iawn am welliannau i arlwy Cymraeg y BBC i'r bobl sy'n byw dramor. Mae'r hafan "Gwrando Rhyngwladol" yn awr yn fyw ar wefan ac ap Cymru Fyw!!! Er mwyn cynnig cymorth mae Andy yn cynnal gwers fach am sut i gyrraedd y cynnwys. Mae criw BBC Cymru wedi gwenud ymdrech arbennig i wella sefyllfa druenus yn sgîl tawelu BBC Sounds yn fyd eang. Diolch iddnyt. Rhagor gan Andy yn y bennod go iawn nesaf o 'Rhaglen Cymru' fydd ar gael diwedd yr wythnos gydag Andy arall. Fe fydd And...
2026-01-14
03 min
Yr Hen Iaith
Pennod 76 - Angharad James
Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrifau. Cawn ein swyno gan y cynhesrwydd a’r diffuantrwydd sy’n nodweddu’i barddoniaeth hi, ac wrth ddarllen cerdd sy’n gofyn i gyfeilles ymweld â hi awgrymwn ei bod yn apelio’n fwy atom na chywydd ar...
2025-12-04
30 min
Beti a'i Phobol
Jâms Powys
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.
2025-11-16
44 min
Lleisiau Cymru
Gwersi Dolgarrog
Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones...
2025-11-02
27 min
Gwleidydda
Canrif o Blaid Cymru
Wedi ei recordio yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar gan mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru. Mae'r ddau yn trafod gweledigaeth y sylfaenwyr, a sut mae’r blaid wedi datblygu dros y degawdau. Roedd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa hefyd ynglŷn ag etholiad y Senedd flwyddyn nesa', a sut mae gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn newid yn sgîl dyfodiad Reform UK.
2025-08-11
49 min
Yr Hen Iaith
Pennod 67 - Ochr Arall y Geiniog
Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r cysgodion. Awgrymwn y dylid ystyried llwyddiant yr emyn Methodistaidd ochr yn ochr â hen fathau o ganu crefyddol Cymraeg a nychodd oherwydd y llwyddiant hwnnw, gan gynnwys y canu plygain a’r halsing. I’r perwyl hwnnw, darllenwn ychydig o garol Nadolig hir gan Edward...
2025-07-31
28 min
Rhaglen Cymru
Digidol amdani
Rhagflas o bennod nesaf "Rhaglen Cymru" lle bydd Aled Jones, syfeinydd ypod.cymru, yn trafod yr heriau a'r cyfleodd a ddaw yn sgil yr oes digidol. rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-12
01 min
Lleisiau Cymru
Rhys Miles Thomas
Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun.Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang.Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb...
2025-05-27
47 min
Lleisiau Cymru
Kristy Hopkins
Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar.Bellach, yn athrawes i blant...
2025-05-20
34 min
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#114 - Ffocws ar eneteg, iechyd yr anifail a defnyddio EID yn y ddiadell Gymraeg Cyfnod newydd yn Ystâd Rhug
Cyfle unigryw i ymweld ag Ystâd Rhug ac i ddysgu mwy am y newid mawr yn y ddiadell ddefaid yn sgil y cyngor a chymorth a gafwyd drwy'r Rhaglen Geneteg Defaid Cymru. Byddwn yn clywed yn uniongyrchol am y rhan arwyddocaol technoleg, gan ddarparu data i helpu i reoli penderfyniadau'n ymwneud â bridio wrth ganiatáu i'r fferm ŵyna'n bennaf yn yr awyr agored, gan gadw diadell gaeedig ac felly bridio defaid cyfnewid ei hun.
2025-03-23
23 min
Rhaglen Cymru
Abertawe ar yr awyr
Roedd cau drysau 32 Heol Alecsandra Abertawe yn ddiwedd cyfnod yn narlledu Cymreig a Chymraeg. Lyn T. Jones yw gŵr gwadd y podlediad ac mae e'n rhannu hanes y lle ac ei farn am safle Abertawe ar dirwedd darlledu Cymreig. Mae gan Lyn hefyd bethe i'w dweud am cyflwr radio a theledu yn y Gymraeg yn sgîl y bwriad i gau Capital Cymru. Rhagor am Abertawe a darlledu gan Alun Thomas. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cwydgyn4x07o Delweddau o'r adeilad: https://coflein.gov.uk/en/site/545063 A...
2025-02-08
44 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
CRIW MADFABULOUS!
Y mis yma rydym yn sgwrsio gyda 3 o'n prentisiaid fu'n gweithio ar ffilm newydd 'Mad As Birds', 'Madfabulous'. Cafodd y ffilm ei saethu yng Nghymru y llynedd. Lowri Thomas o Sgil Cymru sy'n dal i fyny gyda chyn-brentisiaid Fiorella Wyn Roberts ac Elin Glyn Jones a phrentis presennol CRIW Flo Baverstock am eu profiadau a'u hamser ar y cynhyrchiad. Roedd y prentisiaid hyn yn gweithio ar draws gwahanol adrannau; Gwisgoedd, Gwallt a Cholur ac yn yr Adran Gynhyrchu. This month we are chatting to 3 of our apprentices who worked on the new 'Mad As Birds' film 'Madfabulous'. The film...
2025-02-02
37 min
Beti a'i Phobol
Daf James
Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae’r stori yn mynd yn bellach, gonestrw...
2025-01-26
1h 03
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Recriwtio BBC/BBC Recruitment
I ddechrau'r flwyddyn newydd mae gennym newid cyfeiriad cyffrous ar gyfer ein podlediad 'Pod y Prentis'. Trown y ffocws oddi wrth ein cyn-brentisiaid tuag at siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol y diwydiant am gyfleoedd a recriwtio. Yn y bennod gyntaf hon o 2025, mae Lisa Jarman yn siarad â Zoe Rushton (Mentor ar gyfer Siop Un Stop - One Stop Shop) a Hannah Williams (Cynghorydd Busnes i’r BBC) am y broses o ddod yn brentis gyda’r BBC, y cyngor a’r mentoriaeth sydd ar gael am ddim o siopunstop-onestopshop.cymru a'r gweminar ar Ionawr 8fed yn cael ei redeg gan Hann...
2024-12-29
30 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Arwen Jones & Lisa Jarman
Pennod iaith Gymraeg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Roedd Arwen yn gweithio gyda Golley Slater yn ystod ei phrentisiaeth ac wedi mynd ymlaen i gael nifer o swyddi gwahanol dros amrywiaeth o ddiwydiannau. Yn y bennod hon rydym yn dysgu am ei thaith, gan gynnwys gweithio i aelod seneddol yn ystod yr etholiad! A Welsh language episode this month with Lisa Jarman presenting (English subtitles available on our YouTube Channel). Arwen worked with Golley Slater during her apprenticeship and went on to work in a variety of different roles across different sectors...
2024-11-30
55 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Sam Passmore & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Sam gyda ni blwyddyn diwethaf ar ol cwblhau prentisiaeth gyda'r BBC. Mae Sam newydd gael swydd llawn amser gyda BBC Radio Wales ac yn y bennod yma mae'n dweud wrthon ni am ei daith, ei amrywiaeth o swyddi yn y gorffennol a'i obeithion am y dyfodol. An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Sam finished with us last year after completing an apprenticeship with the BBC. Sam has just landed a full time job with BBC Radio Wales and in...
2024-10-31
47 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jack Osman-Byrne & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jack gyda ni ar brentisiaeth CRIW yn gynharach yn y flwyddyn. Yn ystod ei brentisiaeth, roedd Jack yn hynod o brysur yn gweithio dros nifer o adrannau a chynyrchiadau gyda amrywiaeth o brofiadau. Yn y bennod yma, mae Jack yn trafod sut oedd gweithio dros y rhannau gwahanol yma o'r diwydiant, o ffeithiol i ol-gynhyrchiad, y swyddfa gynhyrchu i weithio ar y llawr. An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Jack finished with us on the CRIW apprenticeship earlier this...
2024-10-04
46 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jessica Llewellyn & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jess prentisiaeth gyda BBC Chwaraeon blwyddyn ddiwethaf ar ôl cychwyn prentisiaeth yn 2022. Mae Jess wedi gweithio o fewn teledu a radio ac yn y bennod yma mae'n sôn am y sgiliau hanfodol buodd hi'n dysgu yn ystod y brentisiaeth ac yn trafod bywyd llawrydd. An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Jess finished her apprenticeship with BBC Sport last year after starting in 2022. Jess has worked within TV and radio and in this episode she talks about the essentials sk...
2024-08-31
51 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Ffion Llewellyn & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Ffion prentisiaeth gyda'r BBC blwyddyn ddiwethaf. Ar ôl cychwyn gyda Radio Cymru, aeth Ffion ymlaen i weithio gyda BBC Ffeithiol ar Bargain Hunt. Ers gorffen y brentisiaeth, mae Ffion wedi bod yn gweithio'n llawrydd ac yn y bennod onest hon mae'n rhoi mewnwelediad i'r heriau sy'n gallu wynebu gweithwyr llawrydd. An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Ffion finished the BBC apprenticeship last year. After starting with BBC Radio Cymru, Ffion went on to work with BBC Factual on Bargain Hunt. Since finishing t...
2024-08-04
45 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jason Barnes & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jason ar brentisiaeth CRIW gyda ni yn ddiweddar ac mae’n gobeithio am yrfa o fewn yr adran sain ar gynyrchiadau teledu a ffilm. Yn ystod ei brentisiaeth cafodd flas ar wahanol fathau o gynyrchiadau, o deledu â chyllideb is i ffilmiau cyllideb uchel. An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Jason finished on the CRIW apprenticeship with us recently and is hoping for a career within the sound department on TV and film productions. During his apprenticeship he got a taste of different typ...
2024-07-01
36 min
Yr Haclediad
Hac the Planet!!
"I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod: 👉cariad Llywodraeth Cymru tuag at AI 👉Sylwadau Mira Murati o Open AI am sut bo rhai swyddi creadigol "ddim angen bodoli" 👉y blockchain yn amddiffyn gwaith artistiai...
2024-06-29
2h 51
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
1. Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol yng Ngheredigion
Ymunwch â ni am daith graff i'r rôl hanfodol y mae'r tîm ymroddedig hwn yn ei chwarae o fewn CNC. Dysgwch sut maen nhw wedi'u strwythuro i ymateb yn effeithiol i wahanol argyfyngau amgylcheddol. Byddwn yn mynd â chi y tu ôl i'r llen i ddeall sut beth yw hi pan fydd galw sydyn ar aelodau'r tîm i weithredu. O'r hysbysiad cychwynnol brys i gyrraedd y safle, byddwch yn cael golwg fewnol ar y broses fanwl o nodi a mynd i'r afael â ffynonellau llygredd. Mae'r bennod hon yn dangos nid yn unig sut mae'r tîm yn ym...
2024-06-07
23 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Neve Clissold & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Mae Neve wedi gorffen ei phrentisiaeth ers flwyddyn erbyn hyn ac ar fin cychwyn ar 'Mr Burton'. Mae'r bennod yma yn dilyn ei thaith o brifysgol i ddarganfod Sgil Cymru, gweithio dros nifer o gynyrchiadau yn ystod ei phrentisiaeth ac yna allan i'r byd llawrydd! An English language episode this month with Lisa Jarman presenting. Neve finished her apprenticeship a year ago and is about to begin working on 'Mr Burton'. This episode follows her journey from university to discovering Sgil Cymru, working across a number of...
2024-06-01
42 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Bethan Jenkins & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma! Mae Bethan newydd orffen prentisiaeth CRIW gyda ni ac wedi bod yn gweithio yn yr adran gwallt a cholur! Mae hi'n sôn yn y bennod yma am ei thaith o brifysgol i brentisiaeth CRIW, y cynyrchiadau buodd hi'n gweithio arnynt a'r sgiliau gwallt a cholur mae hi wedi dysgu ar hyd y ffordd! An English language episode this month! Bethan has only recently finished the CRIW apprenticeship with us and has been working in the hair and makeup department! In this episode, she talks about her journey from university to the CRIW apprenticeship, t...
2024-05-06
35 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jacob Page & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg mis yma! Roedd Jacob yn brentis CRIW gyda ni o 2021 i 2022. Yn y bennod yma, mae'n sôn am ei brofiad yn ystod y brentisiaeth a sut mae hynny wedi ei arwain at fod yn 2il AD ar Casualty erbyn hyn. Mae CRIW yn recriwtio ar hyn o bryd felly dyma gyfle arbennig i glywed am brofiad rywun sydd wedi gwneud y brentisiaeth yn barod! An English language episode this month! Jacob was a CRIW apprentice with us from 2021 to 2022. In this episode, he talks about his experience during the apprenticeship and how that led him t...
2024-03-31
39 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Elin Glyn Jones & Lisa Jarman
Pennod iaith Gymraeg mis yma! Roedd Elin yn brentis CRIW gyda Sgil Cymru yn 2021-2022. Gweithiodd Elin gyda Rownd a Rownd cyn symud ymlaen i weithio gyda Chwarel lan yng Ngogledd Cymru. Ar ôl gorffen y brentisiaeth, cafodd Elin cynnig swydd llawn amser, lle maen nhw'n dal i weithio ar hyn o bryd. Dilynwch stori Elin o brifysgol i swydd yn y byd teledu! A Welsh language episode this month! Elin was a CRIW apprentice with Sgil Cymru in 2021-2022. Elin worked with Rownd a Rownd before moving on to work with Chwarel up in North Wales. After finishing t...
2024-03-04
40 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jasper Ronconi-Woollard & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg i gychwyn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024! Roedd Jasper yn brentis CRIW gyda Sgil Cymru o 2022-2023. Buodd Jasper yn gweithio yn y swyddfa gynhyrchu ar Black Cake, Steeltown Murders a Pren ar y Bryn yn ystod ei brentisiaeth - dysgwch mwy am ei daith yn y bennod gyffrous yma! An English language episode to kick off Apprentice Week Wales 2024! Jasper was a CRIW apprentice with Sgil Cymru from 2022-2023. He worked in the production office on Black Cake, Steeltown Murders and Pren ar y Bryn during his apprenticeship - learn more about his journey in this exciting...
2024-02-05
44 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Scott Lea & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg i ddod a ni mewn i'r flwyddyn newydd. Roedd Scott yn brentis gyda Sgil Cymru o 2016-2017 ac erbyn hyn mae'n byw yn Denmarc! Mae'r bennod yma'n dilyn ei daith ddiddorol o Sgil Cymru, i benderfynu bod gwell ganddo yrfa o flaen y camera. Symudodd i Lundain i fynd i ysgol ddrama - ac yna yn ei flwyddyn olaf daeth y pandemig! Dydy'r daith ddim wedi bod yn un llyfn i Scott, ond mae ei agwedd bositif yn dod trwyddo'n amlwg yn y bennod arbennig yma. An English language episode to...
2024-01-01
51 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Kaitlin Brock & Lisa Jarman
Pennod iaith Saesneg yr wythnos hon! Mae Lisa yn siarad gyda Kaitlin Brock - ein cyn-brentis CRIW cyntaf ar y podlediad y gyfres yma! Fe wnaeth Kaitlin orffen ei phrentisiaeth yn yr haf. Yn y bennod yma mae'n trafod y cwmnïau caeth hi'r siawns i weithio gyda nhw yn ystod ei phrentisiaeth, y profiad o weithio mewn adrannau gwahanol a phenderfynu taw golygu oedd y swydd iddi hi a hefyd sut i gadw i fynd pan mae'r gwaith yn dod i ben...yn ei hachos hi, agor siop Etsy! An E...
2023-12-03
44 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Gwenno Ellis Owen & Lisa Jarman
Pennod iaith Gymraeg yr wythnos hon (bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar YouTube o'r 9fed o Dachwedd)! Mae Lisa yn cael sgwrs gyda Gwenno Ellis Owen sydd yn gweithio fel cydlynydd cynhyrchu gyda Boom. Mae Gwenno wedi bod yn gweithio gyda Boom ers cychwyn ei phrentisiaeth ac wedi parhau gyda'r cwmni ers hynny yn gweithio yn bennaf ar gynyrchiadau ffeithiol, ond mae hi hefyd wedi cael y cyfle i weithio ar phrosiectau eraill o fewn y cwmni yn cynnwys cwpwl o ddramau a Boom Plant. A Welsh language episode this week...
2023-11-06
40 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Connor Morgans & Lisa Jarman
Yr wythnos hon, mae Lisa yn siarad â Connor Morgans am fywyd fel gweithiwr llawrydd ym myd radio. Mae angerdd Connor at radio yn amlwg ac mae wedi llwyddo i jyglo nifer o swyddi gwahanol gan gynnwys gweithio gyda Radio 1, Radio Wales a Kiss FM, gan rannu ei amser rhwng Llundain a de Cymru. This week, Lisa talks to Connor Morgans about life as a freelancer in the world of radio. Connor's passion for radio is evident and he's managed to juggle a number of different jobs including working with Radio 1, Radio W...
2023-10-02
45 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Ellie Williams & Lisa Jarman
Yr wythnos hon, mae Lisa yn sgwrsio ag Ellie Williams (a oedd yn un o’n prentisiaid Golley Slater) am beth yn union mae’r cwmni’n ei wneud a beth oedd ei rôl o fewn ochr gynhyrchu’r cwmni yn ystod ei phrentisiaeth. Rhoddwyd swydd lawn amser i Ellie ar ddiwedd ei phrentisiaeth ac mae’n rhoi’r manylion llawn am ei swydd newydd i ni! In this week's episode, Lisa talks to Ellie Williams (who was one of our Golley Slater apprentices) about what exactly the company does and what her...
2023-09-04
32 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Gruff Evans & Lisa Jarman
Pennod iaith Gymraeg wythnos yma! Mae Lisa yn dal lan gyda Gruff Evans sydd yn gweithio gyda S4C o fewn yr adran ddigidol. Rydym yn dilyn stori Gruff o ddechrau gyda Sgil Cymru fel prentis S4C, hyfforddi yn ystod pandemig, yna dod i weithio yn Sgil Cymru cyn mynd nôl i S4C lle mae'n dal i weithio heddiw! Pleser oedd croesawu Gruff yn ôl i'n plith am sgwrs! A Welsh language episode this week! Lisa catches up with Gruff Evans who is working with S4C in the digital department. We...
2023-08-07
30 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023
SHELLEY & RHYDIANYr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed…Y Fedal Ryddiaith The prose medalWedi gwirioni Over the moonBraint PrivilegeEnwebu To nominateRhestr fer Short listCoelio CreduTrosi To translateYn reddfol Ins...
2023-08-01
18 min
Clera
Clera Gorffennaf 2023
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o...
2023-07-21
1h 32
Addysg Cymru | Education Wales
Sut mae'r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella yn cael ei ddefnyddio er budd Ysgol Cybi
Cyfweliad Mark Jones, Cynghorydd Proffesiynol i Lywodraeth Cymru, gydag Owen Roberts, Pennaeth Ysgol Cybi, ar sut mae'r ysgol yn defnyddio'r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella a'r gwelliannau sy’n dod yn ei sgil. https://hwb.gov.wales/gwerthuso-gwella-ac-atebolrwydd/yr-adnodd-cenedlaethol-gwerthuso-a-gwella/
2023-07-06
16 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Eva Runciman & Lisa Jarman
Rydyn ni nol o dan enw newydd! Yn y pennod gyntaf, rydym yn dal i fyny gyda Eva Runciman, sydd bellach yn gweithio gyda BBC Radio Shetland. Mae Lisa yn cael sgwrs diddorol gyda Eva am ei thaith hi hyd yma yn y diwydiant, o hyfforddi yn ystod pandemig i symud i dop y DU ar gyfer ei swydd! We are back under a new name! In our first episode we catch up with Eva Runciman, who currently works with BBC Radio Shetland. Lisa has an interesting chat with Eva about her journey so...
2023-07-03
34 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023
Pigion Dysgwyr – Sulwyn ThomasGwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbrydDarlledwr BroadcasterCyfrinach SecretYsbryd SpiritFfodus LwcusCam bihafio MisbehavingNewyddiadurwr JournalistBant I ffwrddDyfalu To guessPigion Dysgwyr – Ann EllisSulwyn T...
2023-06-27
10 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023
Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar..Ddaru ni Wnaethon niEstyniad ExtentionYn werth ei weld Worth seeingLlymaid A swigCoelio CreduGwaith haearn Iron worksGwyrth MiracleCaniatâd PermissionSefyll yn llonydd Standing still(H)wyrach Efallai
2023-06-13
12 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023
Pigion Dysgwyr – Ewan Smith...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw…Cylchgronnau Merched Women’s magazinesAelod MemberHen Ferchetan Old Maid (title of folk song)Prif gymeriad Main characterAm hwyl For funGwasg PressCyhoeddi PublishYn seiliedig ar Based on
2023-05-23
14 min
Beti a'i Phobol
Sylvia Davies
Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi â’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cy...
2022-12-04
52 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002
BETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Go...
2022-10-25
15 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022
Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artistBwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen C...
2022-09-16
15 min
Beti a'i Phobol
Beks - Rebekah James
Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.
2022-04-03
53 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Adam Neal + Sue Jeffries - CRIW Podcast
During his Apprenticeship, Adam was part of the Unscripted team for BBC Studios and they offered me a wide view of different roles. Depending on the production, Adam took the role of a researcher, a runner or production management assistant. These different roles helped him develop skills in researching, camera operating, loading rushes for edit, transcripts, production paperwork such as filming schedules as well as the day to day shooting on location and in the studio. Working on productions such as The Miners Who Made Us, The One Show, X-Ray, Crimewatch Roadshow Live and Bargain Hunt. When...
2021-08-04
24 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Lewis Stephens + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Lewis Stephens & Sue Jeffries discuss social media, the BBC, MMA, Dan Walker, Gary Lineker and more! Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Equinox Communications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, Amplified Business Content ac S4C. Trwy bartneriaeth gyda...
2021-07-01
31 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Laura Light + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Laura Light (formerly Thorne) & Sue Jeffries discuss coming into the industry as a Production Office Apprentice with BBC Cymru Wales and how she has been able to network with Women in Marketing initiative Rise and land a role as a Senior Marketing Executive with London's disguise after a few years with Object Matrix Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymr...
2021-06-02
22 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Morgan Parry - Sgyrsiau CRIW
Wrth i Morgan baratoi ar gyfer mynd ar set fel rhan o'r brentisiaeth CRIW, dyma podlediad fer 2 funud gan Morgan am ei brofiad yn yr wythnosau cyntaf ac sut mae bywyd fel prentis yng nghanol pandemig. As Morgan prepares to start working on sets as part of the CRIW scheme, he recorded this short podcast episode about his experience and how he is navigating being an Apprentice during the pandemic. Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyff...
2021-05-10
02 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Jesse Gareth Edwards + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Jesse & Sue Jeffries discuss apprenticeships in the media industry in Wales, Jesse's experience as coming into the industry from Ebbw Vale and how he was able to build his confidence over time at BBC Radio Wales. Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cym...
2021-05-01
23 min
Getting into TV
S1 Ep2 Apprenticeships & Mentoring | Getting into TV
This week I'm joined by Holly Miles as she discusses being a production assistant, as well as talking about good ways of getting into TV This was originally made for YouTube with no intention of a podcast release so that might be why it sounds a bit odd. All future releases will be produced with the podcast in mind. Holly - https://twitter.com/HollyAnnMiles Sgil Cymru - https://www.sgilcymru.com Cult Cymru - https://cult.cymru MY SOCIAL Twitter - https://twitter.com/TomDix_ YouTube - https://www.youtube.com/channel/UCxplcQRUcG-NUp_UBoM8s5A Personal website - https...
2021-04-19
14 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Barry Roberts + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Barry Roberts & Sue Jeffries discuss apprenticeships in the creative industry in Wales. Barry completed his Sgil Cymru apprenticeship at BBC Cymru Wales working in the Art Department during 2018 – 2019. At our recent ‘Dathliad’, Barry was awarded the Creative Apprentice of the Year Award, sponsored by Creative Risk Solutions. Prior to the apprenticeship, Barry was working as a freelance Graphics Designer, and had the opportunity to take part in a work experience project at the BBC Roath Lock. Whilst Barry was completing his work experience at the BBC, a former apprentice, who now works as an Art...
2021-03-31
39 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Eugenia Taylor + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Eugenia Taylor & Sue Jeffries discuss apprenticeships in the media industry in Wales, Eugenia's time as as Apprentice with Sgil Cymru in ITV Wales, as well as Eugenia's new role as a Journalist with ITV! Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales...
2021-03-01
25 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Dylan Mohammad-Smart + Sue Jeffries - CRIW Podcast
Dylan Mohammad-Smart started his apprenticeship in 2014 on a Level 3 Apprenticeship in Creative and Digital Media and is now an established Radio Producer, specialising in Sports. Based at Great Point Seren Stiwdios (formerly Pinewood Studio Wales) in Cardiff, the team has more than 100 years combined experience in bilingual media training and production. The Sgil Cymru team have trained over 100 apprentices by working with companies across south Wales. For more info about Media Apprenticeships in Wales, head to: www.sgilcymru.com Dechreuodd Dylan Mohammad-Smart ei brentisiaeth yn 2014 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 ac m...
2021-01-21
19 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Meish Quinn + Sue Jeffries - CRIW Podcast
In our new podcast, CRIW, Meish Quinn & Sue Jeffries discuss apprenticeships in the media industry in Wales. Based at Great Point Seren Stiwdios (formerly Pinewood Studio Wales) in Cardiff, the team has more than 100 years combined experience in bilingual media training and production. The Sgil Cymru team have trained over 100 apprentices by working with companies across south Wales including BBC Cymru Wales, Equinox Communications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, Amplified Business Content and S4C. Through partnership with ScreenSkills, Sgil Cymru is delivering a package of training courses for the UK film & TV industry.
2021-01-21
14 min
Pod y Prentis / Apprentice Pod
Zahra Errami + Sue Jeffries - Podlediad CRIW
Sgwrs rhwng Zahra a Sue am brentisiaethau, gwneud argraff da, cyfryngau cymdeithasol a mwy! Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Equinox Communications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, Amplified Business Content ac S4C. Trwy bartneriaeth gyda ScreenSkills, mae Sgil Cymru yn cyflwyno pecyn...
2021-01-20
12 min
Ar y Marc
Gwion Edwards - cyfnod heb bêl-droed
Gwion Edwards, chwaraewr Ipswich, yn rhannu ei brofiad o ddelio â chyfnod heb bêl-droed yn sgîl gwaharddiad gemau oherwydd argyfwng Coronafeirws.
2020-03-28
30 min
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 12fed o Fawrth 2020
Rhaglen Aled Hughes - Cŵn defaid gwrando'n astud - listening attentively hyfforddwr cŵn defaid - sheepdog trainer o fri - of renown chwip o sgil - a heck of a skill y prif ci - the main dog y brenin - the king pencampwriaeth - championship llinach - pedigree gast - bitch ara deg - slowly Aeth Aled Hughes draw i Langwm ger y Bala i siarad gydag Aled Owen am ei gŵn defaid. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Stiwdio - Iaith Drama adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog - reflecting the bilingual society colofnydd teledu - tel...
2020-03-12
13 min
Beti a'i Phobol
David Williams
Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV. Daeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol y...
2018-05-25
50 min
Beti a'i Phobol
Bethan Rhys Roberts
Mae Bethan Rhys Roberts wedi teithio'r byd yn sgîl ei gwaith fel newyddiadurwraig, yn ogystal â gweithio yn San Steffan am gyfnod.Yn wreiddiol o Fangor, mae'n siarad pedair iaith, ac i'w gweld yn gyson yn cyflwyno Newyddion 9 ar S4C.
2017-02-12
47 min
Beti a'i Phobol
Dewi Tudur
Dewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, yw gwestai Beti George.Fo oedd y cyntaf un i sefyll arholiad Lefel A celf drwy gyfrwng y Gymraeg.Bu'n athro mewn sawl ysgol uwchradd, ond newidiodd ei fywyd yn sgîl gwyliau arbennig yn yr Eidal. Oherwydd hynny, mae bellach yn byw ger Fflorens gyda'i deulu.
2017-01-22
48 min