podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Tsgol Llanhari
Shows
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Kathryn Thomas a Rhys Williams
Brawd a chwaer o ardal Corneli yn Sir Pen y bont ar Ogwr sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y bennod hon o Lwybrau Llanhari, sef Kathryn Thomas a Rhys Williams. Mae chwaraeon yn eu gwaed. Ynghyd â’u brawd James, maen nhw wedi serennu ym myd y campau ers eu cyfnod yn Llanhari. Mae ganddyn nhw lu o wobrau cenedlaethol rhyngddynt ac fe lwyddodd un ohonynt i gipio medalau ar lefel Ewropeaidd a’n cynrychioli yn y Gemau Olympaidd. Heddiw cawn glywed mwy am yr ymroddiad personol sydd ei angen i gyrraedd y lefel uchaf a dysgu mwy am eu...
2025-07-14
49 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Colin Pari (Ail bennod)
Mr Pari Llanhari!Ail bennod yng nghwmni Mr Pari wrth i ni glywed am ei daith o Lundain i Lanhari a cheisio crynhoi deng mlynedd ar hugain o atgofion mewn pennod! Cawn hefyd glywed am ei yrfa newydd a’i ddiddordebau a mwynhau mwy o lwybrau storïol unigryw Mr Pari. Dafydd, yng nghwmni Eve y tro hwn, sy’n mwynhau’r sgwrs a’r hel atgofion. Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywy...
2025-06-30
56 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Colin Pari
Mr Pari. Does dim angen mwy o gyflwyniad ar y dyn arbennig hwn. Bu’n athro yma am ddeng mlynedd ar hugain. Mae’n Gymro i'r carn, yn ddyn haearn a bellach mae wedi arall-gyfeirio'n dechnegydd ambiwlans. Doedd dim posib gwasgu holl straeon Mr Pari i un bennod ar gyfer y podlediad, felly ymlaciwch a mwynhewch bennod 1 wrth i Mr Pari ein tywys ni o’i atgofion cynharaf, drwy’i goeden deulu, hyd at ddyddiau Aberystwyth...dyma sgwrs sy’n ein tywys i sawl cyfeiriad, wrth gwrs! Dafydd a Betsan, dau o brif swyddo...
2025-06-23
40 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Rhys Thomas
Un o ardal Pontyclun yw’n gwestai ni heddiw ac er gadael yr ardal am gyfnod i fynd i'r Brifysgol a chrwydro’r byd gyda’i waith, dyn ei filltir sgwar ydyw. Dychwelodd i'r ardal i fagu’i deulu ac i sefydlu busnes.Mae’n gerddor ac yn grefftwr a chawn glywed sut y bu iddo droi diddordeb a dawn yn yrfa. Cofia’n arbennig am ddylanwad rhai athrawon a’r gwersi sy’n canu hyd heddiw yn ei feddwl wrth wneud penderfyniadau. Yn y bennod hon, yng nghwmni Aidan a Joseph o Fl.13, cawn gip ar daith hynod ddid...
2025-06-12
1h 30
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Rhodri Bwye
Un o ardal Maesteg yw’n gwestai yn y bennod hon a bu’n ddisgybl yn Llanhari dros droad y Mileniwm. Manteisiodd ar gyfleoedd allgyrsiol drwy bob Adran – ar lwyfan, ar faes chwarae a thrwy deithiau niferus. Mae’n gymeriad a hanner a chawn glywed sawl stori dda ganddo am ei gyfnod yn yr ysgol, atgofion cynnes am athrawon dylanwadol a chawn glywed sut y bu i Lanhari ennill lle arbennig yn ei galon hyd heddiw. Alffi a Bleddyn o Fl.12 sy’n mwynhau’r sgwrs a’r straeon yng nghwmni gwych Rhodri. Eleni, bydd Ysgol Llanhar...
2025-04-29
46 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Ifan Jenkin
Croeso i bennod ryngwladol gyntaf Llwybrau Llanhari! Cawn deithio i Unol Daleithiau’r Amerig, i Stanford, er mwyn cynnal y sgwrs hon. Serch hynny, mae yna sawl tro difyr ac amrywiol ar lwybr a phin ar fap ein gwestai amryddawn heddiw. Yn feddyg, yn ymchwilydd ac yn gerddor o fri, estynnwn groeso cynnes iawn i Ifan Jenkin. Roedd Ifan yn un o’r disgyblion olaf i deithio i Lanhari o ardal Pen-y-bont cyn i ddrysau Ysgol Llangynwyd agor er mwyn darparu addysg Gymraeg uwchradd i ddisgyblion y sir honno. Ond ymfalchïwn mai aelod o Deulu Llanhari yw...
2025-04-08
55 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Lauren Davies
Miss Davies Daearyddiaeth neu Miss Davies ein Harweinydd Cynnydd yw hi i ni, ond, bydd rhai yma yn ei chofio fel cyn-ddisgybl yn Llanhari rhwng 2007 a 2014.Mae eraill yn ei hadnabod fel cyd aelod o staff a heddiw cawn gyfle i ddod i adnabod un o gymeriadau Teulu Llanhari, Miss Lauren Davies.Un o brif ddisgyblion Llanhari a chriw Daear Bl.13 Miss Davies eleni, Betsan, sy’n mwynhau’r sgwrs hon. Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profia...
2025-03-18
44 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Nia Davies ac Owain Williams
Cyfle i fwrw golwg yn ôl dros hanner canrif o addysg Gymraeg yma yn Llanhari yw’r gyfres hon a heddiw cawn ddod i adnabod dau a oedd yn ddisgyblion yn ystod cyfnod a fu'n arwain at ddathlu'r deng mlwyddiant yng nghanol yr 80au. Yn y bennod hon rydyn ni’n estyn croeso cynnes iawn i Nia Davies ac Owain Williams. Dau a fu’n dathlu ar lwyfan Eisteddfod yr ysgol a dau y bu i Lanhari chwarae rhan bwysig yn eu bywydau.Yn ddiweddar, fe gysylltodd Nia gyda’r ysgol a chynnig Cadair hardd yn rhodd. Cad...
2025-03-05
41 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Iolo Roberts
Bu Mr Iolo Roberts yn aelod o staff yn yr Adran Ymarfer Corff yma yn Ysgol Llanhari ers 1991, yn Bennaeth Blwyddyn am 7 mlynedd ac yn Bennaeth Adran ers 2009. Bu’n hyfforddi timau mewn amryw o gampau ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion wella’u ffitrwydd drwy chwaraeon o bob math. Mae’n siŵr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn!O’r maes rygbi a’r cae pêl-droed, i drac athletau, o gwrt badmington i fatiau glas gymnasteg y Gampfa, o lwybrau beicio mynydd a thonau gwyllt y môr i lethrau serth mynyddoedd Cy...
2025-02-17
53 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Anwen Carlisle
Actores, cyfarwyddwraig a pherson creadigol iawn yw’r cwmni ar gyfer y bennod hon, sef yr amryddawn Anwen Carlisle. Dychwelodd Anwen i Lanhari yn nhymor yr Hydref eleni i weithio ar brosiect creadigol yng nghwmni disgyblion Bl.7 Adran y Gymraeg, felly, dyma fanteisio ar gyfle i ddod i'w hadnabod ac i glywed am ei hatgofion am yr ysgol. Efa-Grug a Meira o Fl.7 sy’n holi Anwen wedi iddyn nhw gyd-weithio ar y prosiect. Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profi...
2025-02-03
46 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Rhian Phillips
Sgwrs yng nghwmni cyn bennaeth Ysgol Llanhari, Rhian Phillips, sy’n agor penodau 2025 podlediad Llwybrau Llanhari.Daeth Mrs Phillips i Lanhari yn 2003 fel Dirprwy ac yna yn 2014, wrth i'r ysgol ddathlu’r 40, penodwyd Mrs Phillips yn Bennaeth ar yr ysgol yn ystod cyfnod cyffrous o newid sylweddol yma’n Llanhari wrth sefydlu a thyfu’r Adran Gynradd. Braf yw cael croesawi Mrs Phillips yn ôl i'r ysgol am sgwrs yng nghwmni Oliver ac Isla, dau o gyn-ddisgyblion dyddiau cynnar yr Adran Gynradd a Nia, un o brif swyddogion presennol yr ysgol. Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei ph...
2025-01-24
49 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Dathlu’r 50 - drwy'r degawdau
Rhifyn arbennig ar ddechrau 2025 o bodlediad Llwybrau Llanhari. Dyma gyfle i chi glywed sesiwn a gynhaliwyd ym mhabell y Cymdeithasau yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mharc Ynysangharad, sef lansiad dathliadau’r 50.Oeddech chi yno? Hyfryd oedd gweld cymaint o wynebau ddoe a heddiw’r ysgol yn y gynulleidfa a’r lle dan ei sang. Dwy o’n cyn-ddisgyblion dawnus sy’n arwain yr holi y tro hwn wrth i'r chwiorydd, Catrin Heledd a Sara Esyllt, gyfweld â thri o wynebau cyfarwydd yr ysgol – Geraint Rees, un o ddisgyblion y flwyddyn gyntaf ym 1974, Peter Griffiths, y cyn-bennaeth a L...
2025-01-02
44 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Carwyn Eckley
Aelod anrhydeddus o Deulu Llanhari yw’r Prifardd Carwyn Eckley.Enillodd y Gadair a noddwyd gennym yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’. Cawsom fore braf yng nghwmni Carwyn yn rhannu ein taith i noddi’r Gadair ar gweithgareddau fu’n rhan o’r profiad. Huw ac Owain sy’n mwynhau sgwrs a diolch iddynt am roi’r byd yn ei le gyda’r newyddiadurwr, bardd a’r cefnogwr pêl-droed brwd a diolch i Carwyn am roi o’i amser er mwyn i ni ddod i adnabod enillydd Y Gadair. ...
2024-12-16
33 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Mari George
Bardd, awdures, golygydd...mae doniau geiriol di-ri gan ein gwestai yr wythnos hon. A glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y bennod hon ac fe gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn iddi yn 2024!Eleni, yn ogystal mae hi wedi rhyddhau pamffled o gerddi, ‘Rhaff’, a golygu cyfrol o gerddi sy’n ein tywys ar hyd Lwybr Arfordir Cymru - Cerddi’r Arfordir. Mari George yw’r cyn-ddisgybl dawnus sydd yn sgwrsio gydag Eve yn y bennod hon, ac yn ogystal a holi Mari am ei bywyd mae Eve yn...
2024-12-02
45 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Gwynfor Dafydd
Ar ddydd Llun y 5ed o Awst 2024 fe enillodd ein gwestai ni heddiw Goron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a hynny yn ei filltir sgwâr. Cipiodd ei Gadair gyntaf, Cadair yr Urdd, tra’n ddisgybl yn yr ysgol yn 2016 ac ail Gadair y flwyddyn ganlynol pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i’n bro yn 2017. Dychwelodd i’r ysgol droeon i gefnogi’r disgyblion presennol a’r haf hwn bu’n mentora’n beirdd ifanc ar gyfer gornest arbennig Talwrn yr Ifanc yn y Babell Lên ym Mharc Ynysangharad.Heddiw, cawn gyfle i ddod i adnabod y Prifa...
2024-11-22
32 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Shelley Rees-Owen
Stacey, Shirley...ond, ein Shelley ni!Bydd rhai yn ei hadnabod fel Stacey o’r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm, bydd eraill wedi’i gweld yn ddiweddar ar lwyfannau Cymru yn y ddrama Shirley Valentine, bydd nifer ohonom yn gwrando arni ar Radio Cymru ar fore Sadwrn...gwestai’r bennod hon yw'r actores, y cyflwynydd, y cynghorydd a’r cynhyrchydd Shelley Rees. Diolch i Ava a Mali am y sgwrsio a’r holi bywiog, cynnes yn y bennod hon.Eleni, bydd Ysgol Llanhari a’r gyfres deledu Pobl y Cwm yn dathlu eu pen-blwydd yn 50. Diolch...
2024-11-07
46 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Jordan Morgan-Hughes
Ein Mr Urdd a llawer mwy!Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu.Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran Gymraeg tan y flwyddyn 2021. Bu’n trefnu Eisteddfodau, teithiau, gweithgareddau, gigs a chyfleoedd di-ri i ieuenctid yr ysgol a’r rhanbarth gan feithrin eu cariad at Gymru a...
2024-10-21
42 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Peter Griffiths
‘I’r Gad!’ Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio clywed y gri hon ar hyd coridorau Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o gyn-benaethiaid Ysgol Llanhari, Mr Peter Griffiths.Ymunodd Mr Griffiths â theulu Llanhari ym 1988 a bu’n bennaeth ar yr ysgol wrth iddi gamu i’r mileniwm. Yn Gymro i’r carn, yn gefnogwr rygbi brwd ac yn addysgwr ysbrydoledig. Diolch i Elen ac Esmay am yr holi gofalus ac i Mr Griffiths am ymweld â’r ysgol a rhoi o’i amser i rannu ei brofiadau, ei straeon diddorol a’i angerdd dros Lanhari.
2024-10-07
21 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Rhian Rapsey
Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol.Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988. Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd! Mrs Rapsey - nyrs yr ysgol, ysgrifenyddes y Tîm Arwain, gweinyddwraig o fri a’n ffrind dibynadwy ni oll.Diolch i Carys a Gwenno am yr holi gofalu...
2024-09-20
26 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Geraint Rees
50 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon, fe agorwyd y giatiau ac fe ddechreuodd Ysgol Gyfun Llanhari ddarparu addysg Gymraeg i ddisgyblion.Mr Geraint Rees yw gwestai'r bennod hon. Un o ddisgyblion y criw cyntaf o ddisgyblion i dderbyn eu haddysg ar y safle ac yn yr ysgol newydd ym 1974 yw Geraint a chawn glywed hanes y diwrnod cyntaf a'i atgofion am ei addysg yn yr ysgol cyn iddo ddychwelyd yn athro am gyfnod.Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes...
2024-09-07
35 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Mererid Hopwood
Sgwrs gyda'r Archdderwydd a chyn ddisgybl Ysgol Llanhari, Mererid Hopwood.Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg? Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
2024-08-09
21 min
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg? Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
2024-08-08
01 min