podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Yr Hen Iaith
Shows
Yr Hen Iaith
Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1)
Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craffwn ar un o’i emynau poblogaidd, gan sylwi ar y naws bersonol a’r iaith hygyrch ac awgrymu bod rhywbeth beiddgar yn y modd y defnyddiodd themâu a delweddaeth yr hen ganu serch i drafod cariad...
2025-06-19
31 min
Yr Hen Iaith
Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd
Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol America’ (er ei fod yn ddyn drwg iawn ym marn Jerry Hunter!). Yn arwyddocaol iawn o safbwynt llenyddiaeth, roedd gwedd lythrennog iawn ar Fethodistiaeth Gymreig gynnar; er nad aeth yr un ohonynt i br...
2025-06-12
31 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Branwen ferch Llŷr
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o bobl...
2025-05-01
23 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Gwyn Rhydderch
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, mae’n debyg, ar gyfer dyn o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Pwysleisiwn fod creu llawysgrif yn broses lafurus iawn a gymerai lawer o amser ac adnoddau a bod llawysgri...
2025-05-01
09 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Trafferth mewn Tafarn
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson. ** ‘Trouble at an Inn’ We have fun i...
2025-04-24
34 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Mis Mai a Mis Tachwedd
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad...
2025-04-24
26 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Yr Wylan
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cyfeirir ati. Nodwn fod hen thema gyfarwydd arall yn ymddangos yn y gerdd hon, sef honiad Dafydd ei fod yn glaf oherwydd cariad. ** ‘The Seagull’ In this episode we look at one of Dafydd...
2025-04-24
24 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristn...
2025-04-17
17 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Gwaith Argoed Llwyfain
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fo...
2025-04-17
19 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Taliesin
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol...
2025-04-17
05 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 24
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau hyn – ‘Beirdd byd barnant ŵr [neu ‘wŷr’] o galon’ – yn hoelio sylw ar swyddog...
2025-04-10
13 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 1
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very sparse yet also extremely powerful; here...
2025-04-10
15 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Aneirin
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol. Edrychwn hefyd ar nodiadau diddorol yn y llawysgrif sy’n awgrymu sut oedd rhai beirdd diweddarach y...
2025-04-10
10 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Aneirin gan Iwan Llwyd
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon. * In this episode we look at the poem 'Aneirin' by Iwan Ll...
2025-04-03
17 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd sy’n angori’r gofeb farddonol hon mewn rhan benodol o Gymru. Rhaid cyfaddef hefyd ein bod wedi’n llor...
2025-04-03
22 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol Comin Greenham. * We discuss Menna Elfen's 'Mother's Day at Greenham, 1984' in this episode. Jerry Hunter scrutinizes the structure and style of the poem, noting how the poet takes advantage of the flexi...
2025-04-03
18 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg. * This episode focusses on Gerallt Lloyd Owen's poem, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel'. As well as scrutinising the poet's craft, we explain the political context and consider why Geral...
2025-04-03
20 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Martha, Jac, a Sianco
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth hefyd wrth i’r darlleny...
2025-03-23
24 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdriniaeth â salwch meddwl, tlodi, crefydd a chreulondeb. Nodwn hefyd wrth fynd heibio fod y gwaith arloesol hwn wedi cael effaith sylweddol ar artistiaid Cymraeg eraill. * We discuss Un Nos Ola Leuad...
2025-03-23
32 min
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysicaf Cymru. Bydd penodau sy’n canolbwyntio ar y nofelau Un Nos Ola Leuad a Martha, Jac a Sianco yn cael eu rhyddhau yn ysto...
2025-03-21
02 min
Yr Hen Iaith
Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi, ein dilynwyr presennol, yn eu mwynhau hefyd. (Yn wir, mae wedi bod yn fodd i ni lenwi ambell fwlch a adwyd gennym yng Nghyf...
2025-03-21
02 min
Yr Hen Iaith
Pennod 62 - Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd
Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif’ yn y teitl yw ‘cynharaf’; dyma lyfr sy’n trafod hanes cynnar y Cymry – neu’r Hen Frytaniaid – ac mae’n adrodd yr hanes hwnnw mewn dull storïol cyffrous. O ran hanes...
2025-03-20
26 min
Yr Hen Iaith
Pennod 60 - ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith. Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond esgorodd ei geidwadaeth wleidyddiaeth a chrefyddol ar greadigaeth artistig a ymestynnodd ffiniau rhyddiaith Gy...
2025-02-27
35 min
Yr Hen Iaith
Pennodau 58 - ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu gwerth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn addasu dyfynia...
2025-01-29
31 min
M-SPod
007 - Technoleg Iaith
This is a panel discussion discussing language technology, recorded during our Digidol 24 conference (23/10/2024). The discussion is in Welsh, but there was also a live translator from Cymen in the room, so if you listen carefully you might be able to catch them whispering as everyone else talks! Failing that, we are in the process of uploading the subtitles to the YouTube video. Dyma trafodaeth banel wedi'i recordio yn ystod ein cynhadledd Digidol 24 (23/10/2024) yn edrych ar dechnoleg iaith. Doedd dim ond lle i sefyll wrth i ni eistedd i lawr(!) i ddysgu am ymchwil yr Uned Technoleg Iaith gyda Stefano...
2024-10-30
27 min
The Health Equity Podcast
Pennod 25 – Effaith Iaith Frodorol ar y Profiad o Roi Genedigaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones a Catrin Roberts - Rhan 2 - Cymraeg
Send us a text[Rhan 2 o 2]Yn y sgwrs hon rhwng Dr Catrin Hedd Jones, Goruchwyliwr Ôl Radd, a Catrin Roberts, bydwraig brofiadol a myfyrwraig Doethuriaeth Broffesiynol, mae'r ddau yn trafod pwysigrwydd iaith yn ystod y profiad geni. Yn y bennod ddwy ran o 'Let's Talk Preventative Healthcare', sydd yn Gymraeg a Saesneg, rydym yn archwilio ymchwil arloesol Catrin Roberts ar ddefnydd y famiaith yn ystod esgor a geni yng Ngogledd Cymru. Mae ei hastudiaeth, o'r enw "Mamiaith yn yr Ystafell Geni: Profiad Merched a Bydwragedd," yn archwilio sut mae dewis iaith yn effeithio ar famau a...
2024-10-17
11 min
Yr Hen Iaith
Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin. Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib c...
2024-09-12
37 min
Yr Hen Iaith
Pennod 48 - Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl. Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod dau fath o ddysg yn ymrafael, y naill yn newydd a’r...
2024-08-29
37 min
Yr Hen Iaith
Pennod 46 - Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad. Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd. Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Cath...
2024-08-01
42 min
Yr Hen Iaith
Pennod 45 - ‘Cymraeg iawn i’r Cymry i gyd’: Beibl 1588
Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair llenyddol aruchel arhosol. Mae’r undod ieithyddol hwn wedi profi’n hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig hefyd. Cawn gyfle hefyd i nodi ymateb rhai Cymry cyfoes, gan gynnwys cywydd...
2024-07-18
35 min
Yr Hen Iaith
Pennod 43 - Testament Newydd 1567
Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Elizabeth I am yr hyn a wnaeth ei thad, Harri VIII, i’r Gymraeg gyda’r ‘Deddfau Uno’, dadleuwn i’r gwrthwyneb ac awgrymu bod y ddau ddatblygiad yn deillio o’r un cymhelliad gwl...
2024-06-20
31 min
Yr Hen Iaith
Pennod 42 - Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog
Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gw...
2024-06-06
21 min
Yr Hen Iaith
Pennod 41 - Maniffesto William Salesbury
Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth. * * * We discuss an incredi...
2024-05-23
52 min
Yr Hen Iaith
Pennod 40 - Dyneiddiaeth Gymreig
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!). Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol...
2024-05-09
30 min
Yr Hen Iaith
Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn...
2024-04-25
37 min
Yr Hen Iaith
Pennod 38 - Alis Wen
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am g...
2024-04-11
40 min
Yr Hen Iaith
Pennod 37 - Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn h...
2024-03-28
35 min
Yr Hen Iaith
Pennod 36 - Elis Gruffydd (Rhan 1)
Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysg...
2024-03-14
58 min
Yr Hen Iaith
Pennod 35 -Gwydnwch Hen Draddodiad
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2) Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd. Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru w...
2024-02-29
34 min
Wales Journal of Education
7 ‘Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru’ gyda Dr Alexander Edwin Lovell
Mae Dr Alexander Edwin Lovell yn ymuno â’r Athro Enlli Thomas i drafod yr erthygl: ‘Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru’.
2024-02-21
18 min
M-SPod
004 - Hac Iaith 2024
Yn y bennod hon, mae Iwan Pitts (Swyddog Marchnata M-SParc) yn holi Emily Roberts (Rheolwr Ymgysylltu a Chymuned M-SParc) a Tom Burke (Rheolwr Arloesedd Digidol M-SParc) am Hac Iaith 2024! Mae'r digwyddiad lansio arlein Dydd Iau yma (22/02/2024) am hanner dydd - ymunwch a ni! In this episode, Iwan Pitts (M-SParc's Marketing Officer) chats with Emily Roberts (M-SParc's Community & Engagement Manager) and Tom Burke (Digital Innovation Manager M-SParc) about Hac Iaith 2024. In the latest episode of M-SPod, Tom, Iwan & Emily discuss HAC IAITH 2024! The launch event is online this Thursday (22/02/2024...
2024-02-19
23 min
Yr Hen Iaith
Pennod 34 - Cyfnod Newydd?
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth...
2024-02-15
40 min
Yr Hen Iaith
Pennod 33 -Cyflwyno’r Ail Gyfres
Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid. Introducing our second series Here’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations that came in the Tudor period.
2024-02-01
03 min
Yr Hen Iaith
Pennod 32 - Diwedd yr Oesau Canol
Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw. / The End of the Middle Ages Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones's llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history of Welsh literature is unique and has developed in a unique way. Cyflwy...
2024-01-18
05 min
Yr Hen Iaith
Pennod 31 - Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd
Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi go...
2024-01-04
31 min
Yr Hen Iaith
Pennod 30 - ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud
Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y...
2023-12-21
43 min
Yr Hen Iaith
Pennod 29 - Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn
Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes. Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfn...
2023-12-07
39 min
Yr Hen Iaith
Pennod 28 - ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr
Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol...
2023-11-23
37 min
Radio YesCymru
Joseff Gnagbo - O Côte d'Ivoire i Gymru, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith 14/11/23. Cyfres 5 Pennod 27
Joseff Gnagbo yw Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond nid Cymro Cymraeg nac hyd yn oed Cymru yw Joseff - mae'n newyddiadurwr, academydd ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica a gafodd loches wleidyddol a danfonwyd i fyw yng Nghaerdydd yn 2018. Yn y brifddinas dysgodd y Gymraeg ac mae bellach yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i oedolion - gan gynnwys ceiswyr lloches. Bu’n siarad â Siôn Jobbins o Radio YesCymru am ei fywyd yng Nghymru, ei gefnogaeth i’r Gymraeg ac annibyniaeth Gymreig a’r tebygrwydd a welai â’i famwlad a’i wlad fabwysiedig. * Cymdeithas yr...
2023-11-14
35 min
Exploring Global Problems
10. Ffuglen Wyddonol a’i lle yn yr iaith Gymraeg, Dr Miriam Elin Jones
Beth yn union yw ffuglen wyddonol, a sut mae genre o’r fath yn ein helpu i archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd? A all genre sy’n cael ei weld fel genre sy’n drwm dan ddylanwad diwylliant ‘Eingl-Americanaidd’, ac sy’n portreadu heb eu tebyg, fod yn berthnasol i ddiwylliannau lleiafrifol heddiw? Yn y bennod hon, mae Dr Miriam Elin Jones, mewn sgwrs ag Elin Rhys, yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymrae...
2023-11-10
35 min
Yr Hen Iaith
Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘b...
2023-11-09
30 min
Yr Hen Iaith
Pennod 26 - Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)
Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl. Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cyw...
2023-10-26
39 min
Yr Hen Iaith
Pennod 25 - Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)
Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn a...
2023-10-12
41 min
Yr Hen Iaith
Pennod 24 - Meddwi’n Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)
Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg ia...
2023-09-28
41 min
Yr Hen Iaith
Pennod 23 - Seintiau a Phechaduriaid
Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiae...
2023-09-14
44 min
Yr Hen Iaith
Pennod 22 - Calon Oer dan Fron o Fraw
Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o dd...
2023-08-31
33 min
Yr Hen Iaith
Pennod 21 - Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu
Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr...
2023-08-17
55 min
Yr Hen Iaith
Pennod 20 - Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion
Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feirdd y Tywysogion, Meilyr Brydydd, a’r arweinydd yr oedd yn canu mawl...
2023-08-03
50 min
Yr Hen Iaith
Pennod 19 - ‘Iarlles y Ffynnon’, nid ‘Owain’
Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’. Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o driawd o gymeriadau benywaidd cryf a byw a geir yn y stori hon. Y hi sy’n rheoli yn ei theyrnas, er bod y marchog du yn gwarchod y ffynnon hudolus sy’n fynedfa iddi. Ymysg y pethau sy’n gwneud...
2023-07-21
54 min
Yr Hen Iaith
Pennod 18 - Marchocffordd Peredur
Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud wrtho mai ‘angylion’ yw’r marchogion a wêl un diwrnod, mae’r hogyn ifanc yn mynnu dilyn y dynion arfog ar y ‘farchocffordd’ a dysgu bod yn farchog ei hun. Dyma destun canoloesol sy’n cwestiynu’r union ymd...
2023-07-13
39 min
Yr Hen Iaith
Pennod 17 - Breuddwyd Rhyfeddol Rhonabwy
Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei freuddwyd mae’n teithio o’r presennol i’r gorffennol Arthuraidd. Mae’n rhaid i’r arweinydd chwedlonol ei hun ddysgu gwersi am ryfel a heddwch hefyd, ac mae...
2023-07-06
40 min
Yr Hen Iaith
Pennod 16 - Geraint a’i shorts sidan
Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enwau Cymraeg yma, nifer ohonynt â gwreiddiau dwfn iawn yn chwedloniaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwys Geraint ei hun. Ceir golwg hynod ddiddorol ar dde-ddwyrain Cymru hefyd, gan gynnwys Caerdyf, sef Caerdydd. A sôn am wisg...
2023-06-29
50 min
Yr Hen Iaith
Pennod 15 - Roc-an-Rôl a’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd
Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymreig traddodiadol ond sydd hefyd yn ddyledus mewn modd amlwg iawn i ddylanwadau ‘estron’? Awgrymwn fod hanes roc-an-rôl yn cynnig cymhariaeth hylaw. A beth yw’r gwahaniaethau rhwng yr hen fyd Arthuraidd Cymreig a’r llenyddiaeth gyfandirol hon? A yw’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd hwn yn nes o lawer at y darl...
2023-06-22
42 min
Yr Hen Iaith
Pennod 14 - O’r Apocalyps Arthuraidd i Fashion Casualties: Hanes Cryno Cad Gamlan
Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar. Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur. Awgrymwn fod traddodiadau’n ymwneud â’r ‘Apocalyps Arthuraidd’ yma yn fodd i strwythuro’r holl stori Arthuraidd fawr, fel y mae myfyrdodau apocalyptaidd yn y Beibl yn fodd i strwythuro meddwl Cristnogol yn gyffredinol. Mae’n wedd ddwys ar y traddodiad llenyddol Cymraeg, felly, ond mae...
2023-06-15
45 min
Yr Hen Iaith
Pennod 13 - Ennill Olwen
Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!) Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn ddisgrifiad trawiadol a chofiadwy ohoni – ac wedyn mae’n rhaid i’r saith wynebu’r Pencawr ei hun. Ac mae’n rhaid iddynt gyflawni llwyth o wahanol dasgiau – pob un yn naturiaeth ynddi’i hun – cyn y câi Culhwch briodi Olwen, ac byddai’n rha...
2023-06-08
33 min
Yr Hen Iaith
Pennod 12 - Arthur y Barbwr
Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i gael hyd i Olwen a’i phriodi, ac mae stori werin draddodiadol am arwr yn priodi merch y cawr yn fframwaith ar gyfer llwyth o a...
2023-06-01
52 min
Yr Hen Iaith
Pennod 11 - Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?
O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb. Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gemau cyfrifiadorol sy’n dangos ddylanwad y traddodiad cyfoethog hwn. Ond dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru – neu, hwyrach, dechr...
2023-05-25
30 min
Yr Hen Iaith
Pennod 10 - Llais Heledd
Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy. Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am...
2023-05-18
38 min
Yr Hen Iaith
Pennod 9 - Wyt ti’n cofio Macsen?
disgrifiad
2023-05-04
50 min
Yr Hen Iaith
Pennod 8 - Dau Frawd a Thair Gormes
Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyr...
2023-04-27
45 min
Yr Hen Iaith
Pennod 7 - Trafferthion Teuluol Math
Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’. Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu trafferth sylweddol iddo. Dyma stori dywyll sy’n archwilio...
2023-04-20
53 min
Yr Hen Iaith
Pennod 6 - Manawydan a Seiliau Cymdeithas
Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad. Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabinogi. Yn dilyn y rhyfel apocalyptaidd a ddaw ar ddiwedd yr Ail Gainc, rydym ni’n dilyn dau o’r goroeswyr, Pryderi a Manawydan. Pan ddaw’r hud ar Ddyfed, rhaid i’r ddau gyfaill a’u g...
2023-04-13
46 min
Yr Hen Iaith
Pennod 5 - Chwedl Branwen
Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i’w hachub. Tybed felly a oedd awdur y testun hwn yn ceisio a...
2023-04-06
51 min
Yr Hen Iaith
Pennod 4 - Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed
Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, brenin Annwfn a Rhiannon, gwraig Pwyll – ei helpu. Mae Rhiannon ymysg cymeriadau mwyaf cofiadwy’r traddodiad llenyddol Cymraeg, yn fenyw ddoeth sy’n siarad yn ffraeth ac yn rhoi’i gŵr amhwyllo...
2023-03-30
49 min
Yr Hen Iaith
Pennod 3 - Y Chwedlau Brodorol
Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiweddar sydd wedi dylanwadu ar sut mae Cymry Cymraeg yn trafod y corff pwysig hwn o lenyddiaeth eu iaith! Mae 11 o’r chwedlau hyn, a dim ond mewn pedair ohonynt y mae’r gair m...
2023-03-23
40 min
Yr Hen Iaith
Pennod 2 - Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau: Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg – h.y., yn gyfan gwbl Gymraeg o ran iaith – sydd wedi goroesi. Pwy oedd y mynach a aeth ati i gynllunio a chreu casgliad...
2023-03-16
50 min
Yr Hen Iaith
Pennod 1 - Yn y dechreuad yr oedd... Y Gododdin (wel, efallai...)
Yn y bennod gyntaf hon trafodwn y gerdd (neu’r casgliad o gerddi cysylltiedig) a briodolir i’r bardd Aneirin, gan archwilio dadleuon sy’n cefnogi – ac sy’n herio – y gred gyffredin mai’r farddoniaeth hon yw’r testun llenyddol Cymraeg cynharach sydd wedi goroesi. A yw’n bosib bod gwaith llenyddol am frwydr a ymladdwyd tua’r flwyddyn 600 yn yr Hen Ogledd (sef de’r Alban a gogledd Lloegr) wedi’i gadw mewn llawysgrif Gymraeg o’r 13eg ganrif? Beth mae’r Gododdin yn dweud wrthym am y traddodiad barddol Cymraeg yn gyffredinol? A beth yw tarddiad y gair Cymraeg ‘meddwi’ a beth...
2023-03-09
45 min
Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects
WMBO Pennod Cariad - Santes Dwynwen V Sant Ffolant, a'r Iaith Gymraeg
Wythnos yma ma Rhodri a Scott yn rhannu eu trafferthion fflyrtio yn y iaith Gymraeg, ac yn gymharu dydd sant Ffolant a dydd santes Dwynwen.
2023-03-02
26 min
Yr Hen Iaith
Trêlyr Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Ac hefyd, os dych chi'n joio gwrando ar y pod, gadewch adolygiad neu sgôr yn eich hoff ap podlediadau.
2023-02-28
03 min
Wales Journal of Education
4 ‘“Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad”: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?’ gyda Dr Mirain Rhys
Mae Dr Mirain Rhys yn ymuno â’r Athro Enlli Thomas i drafod yr erthygl: ‘“Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad”: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?’ https://doi.org/10.16922/wje.24.1.1
2023-01-30
22 min
Podlediad Barddas
Barddoniaeth, natur, a’r iaith Gymraeg
Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler.
2022-04-15
46 min
Hefyd
Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10
Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
2022-02-17
31 min
Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects
Merched ym myd STEM a rôl yr iaith Gymraeg
Sgwrs efo Emily Roberts, Rheolwr Gweithredu a Profiad Cwsmer M-SParc am ei swydd, merchaid ym myd STEM a'r iaith Gymraeg.
2021-11-01
24 min
Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects
Trafodaeth Proffil Iaith Môn rhwng Catrin ac Elen
https://www.mentermon.com/wp-content/uploads/2018/01/PROFFIL-IAITH-MON-26-2-2021.pdf
2021-07-29
18 min
Siarad Moel: Podlediad Aled Hughes
Yr iaith Gymraeg
Sgwrs hwyliog am iaith orau'r byd sydd gan Aled yn y bennod yma. Dyma'r da, y difyr a'r dryslyd am y Gymraeg!
2021-07-02
25 min
On The Land / Ar Y Tir
#105 - Eirwen Willams, Iaith y Pridd
Eirwen Willams, Iaith y Pridd
2021-01-10
02 min
On The Land / Ar Y Tir
#44 - Hybu'r iaith Gymraeg mewn ysgolion gyda Glyn Jones
Mae Glyn Jones o Fenter Dinefwr yn sôn am ei waith yn hybu'r iaith Gymraeg mewn ysgolion gwledig.
2020-04-05
02 min
On The Land / Ar Y Tir
#43 - Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ardaloedd gwledig
Mae Glyn Jones o Fenter Dinefwr yn siarad am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ein hardaloedd gwledig.
2020-04-05
02 min
On The Land / Ar Y Tir
#11 - Darllen iaith y corff mewn gwartheg gyda Anwen Edwards Jones
Mae Anwen Edwards Jones yn arbenigwraig ar ddadansoddi iaith y corff mewn gwartheg
2020-02-09
02 min
Sôn am Sîn
Y Sôn 17: Iaith y Nefoedd a Gŵyl Neithiwr
Mae hi'n 2020 - ac mae 'na ddigon o bethau i'w trafod yn barod! Chris a Geth sydd yn eu holau - ac maen nhw'n trafod Iaith y Nefoedd gan yr Ods, Gŵyl Neithiwr yn Pontio, a'r traciau anhygoel eraill sydd wedi dod allan yn ystod y mis diwethaf.
2020-01-28
45 min
Beyond the Senedd- Bethan Sayed
Yr wythnos yma fe wnaeth rhywun cywiro fy iaith ar trydar. Dyma fy marn ar plismyn ieithyddol a mwy.
Sut ydym am hybu mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith os yw rhai yn ein cywiro ac yn ceisio ein tanseilio? Sut mae ennyn pobl i fod yn ddigon hyderus ac i fyw trwy gyfrwng y gymraeg?
2019-09-22
14 min
Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Croeso i bodlediad Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant.
2019-05-09
00 min
Yr Haclediad
Episode 55: Nerdageddon yn Hacio'r Iaith 2017
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw!Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.Support Yr Haclediad
2017-01-31
41 min
Yr Haclediad
Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017
Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!Support Yr HaclediadLinks:Gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Apton wedi ei hacio - BBC Cymru FywMacBook "Core 2 Duo"Withings and L'Oreal have made a smart hair brush, in the lat...
2017-01-16
36 min
Golwg360
Nina Parry-Jones a Cymraeg Ail Iaith
Fe ddaeth Nina Parry-Jones o Rwsia i Gricieth i fyw dair blynedd yn ol. Eleni, fe gafodd hi A* yn ei TGAU Cymraeg Ail Iaith.
2016-10-07
02 min
Golwg360
Robyn Lewis - Achos Penyberth a’r iaith Gymraeg
Un o gyfres o gyfweliadau am achos Penyberth ar Golwg360 . Fe agorodd achos tri Penyberth y ddadl dros hawl pobol i siarad Cymraeg mewn llysoedd barn, yn ôl y cyn Archdderwydd a’r cyn-fargyfreithiwr, Robyn Léwis. Stori lawn ar Golwg360 - http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/237748-achos-penyberth-ar-iaith-gymraeg
2016-09-07
06 min
Trabayando pol Asturianu
Jaime Bevan, cabezaleru de Cymdeithas yr Iaith, Asociación pol Cymraeg:"El galés y l'asturianu son llingües hermanes"
El nuesu collaborador Xose B. Álvarez fixo una entrevista n'esclusiva en Cardiff (País de Gales) pa Iniciativa pol Asturianu nes Ondes con Jaime Bevan, cabezaleru de l'Asociación "Cymdeithas yr Iaith" que lleva cuantayá lluchando polos drechos del idioma galés. Na mesma afondase na situación de dambes llingües nos sos respeutivos territorios y el futuru que se pue albidrar.
2015-05-11
07 min
Yr Haclediad
Episode 35: 35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014
Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch! *Dolenni i ddod… The post Haclediad #35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Support Yr Haclediad
2014-02-21
47 min
Yr Haclediad
Episode 17: Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012
Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses! I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn A dyma hi fideo’r Haclediad (os da chi am weld ein wepiau ni). Recordiwyd ar 28ain o Ionawr. The post Hacl...
2012-02-07
43 min
Yr Haclediad
Episode 5: Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011
O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni lwyth o gwestiynau gan y gynulleidfa wych, a gewch chi wrando i glywed y rhai gwirion a gwirioneddol ddiddorol! Yn yr haclediad mae Iestyn (@iestynx), Bryn (@bryns) a Sioned (@llef) yn rhoi’r we yn ei le, ac mae aelod mwyaf new...
2011-02-02
47 min