podcast
details
.com
Print
Share
Look for any podcast host, guest or anyone
Search
Showing episodes and shows of
Andybmedia
Shows
Rhaglen Cymru
Digidol a Daventry - dylanwad hanes
Dau bwnc yn y bennod: diwedd BBC Sounds i wrandawyr tramor o'r 21ain o Orffennaf ymlaen a penblwydd agor gorrsaf drosglwyddo a ddaeth â radio i bob cornel o Gymru. Siom ac atgofion. rhaglencymru@hotmail.com
2025-07-19
28 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas - Canmlwyddiant A Cholled
Rhagflas o'r bennod nesaf ... Hanes lle yn Lloegr fu'n allweddol yn hanes radio Cymreig a Chymraeg yn y dyddiau cynnar A diwedd cyfnod i wasanaeth cyfoes. rhaglencymru@hotmail.com
2025-07-17
01 min
Rhaglen Cymru
Seiniau a S4C
Pennod dau ben arall!! Radio A Theledu sydd dan sylw ... brechdan ddarlledu gyda bach o saws ;-) Rhagor o wybodaeth am dynged argaeledd Radio Cymru i'r diaspora a sgwrs gydag aelod newydd o Fwrdd Sianel Pedwar Cymru. rhaglencymru@hotmail.com
2025-07-12
36 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas - Aelod o'r Bwrdd
Penodwyd aelodau newydd i Fwrdd Sianel Pedwar Cymru yn ddiweddar ... sgwrs gydag un ohonynyt fydd ym mhennod nesaf y podlediad. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cg5v7m28gjjo https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/bwrdd-s4c Hefyd, y diweddara am ddiflanniad BBC Sounds i wrandawyr tramor + newid i ddwy orsaf radio lleol Cymreig.
2025-07-10
02 min
Rhaglen Cymru
Barn am Sounds a theledu
Y newid i BBC Sounds yn digwydd o'r diwedd ... newyddion da a drwg i'r diaspora Cymraeg. Y diweddara gan Andy a thipyn o ddadansoddi amdani. https://www.bbc.com/mediacentre/2025/articles/update-on-access-to-bbc-sounds-outside-the-uk Hefyd ... y weithred o wylio a barnu - gwaith y colofnydd teledu. Sgwrs fywiog a dalennol gydag Elinro Wyn Reynolds, colofnydd cylchgrawn Barn. Pynciau trafod yn cynnwys 'Y Llais', drama ar y bocs bach a trash TV. https://barn.cymru Cerddoriaeth gloi: Crystal Tipps & Alistair, un o hoff raglenni erioed EWR & AB !! https://y...
2025-07-04
39 min
Rhaglen Cymru
Barnu'r Sianel - Rhagflas
Elinor Wyn Reynolds yw colofnydd teledu cylchgrawn Barn. Hi yw'r gwestai nesaf - yn trafod S4C, hoff raglenni a trash TV!! rhaglencymru@hotmail.com
2025-07-03
01 min
Rhaglen Cymru
Diwedd y gân
Sut i gynnal a chadw cyfryngau cyhoeddus. Dyna bwnc ENFAWR y bennod hon yng nghwmni Richard Martin AKA @mimosacymru Mae Llywodraeth y DU am newid y gyfundrefn: https://bbc.com/news/articles/crrz18882ygo Ac mae Richard - a sawl un arall - wedi bod yn trafod y cyd-destun Cymreig: https://www.llyw.cymru/panel-arbenigol-ar-awdurdod-darlledu-a-chyfathrebu-cysgodol-i-gymru Beth ydy'ch barn chi? - rhaglencymru@hptmail.com
2025-06-28
36 min
Rhaglen Cymru
Materion ariannol - Rhagflas
Yn y bennod nesaf fe fydd ariannu cyfryngau cyhoeddus yn bwnc trafod. Maes heriol a hanner - beth ydy'ch barn chi? rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-26
01 min
Rhaglen Cymru
Ansicrwydd Abertawe
Mynd a dod ym myd radio lleol yng Ngmyru unwaith eto. Diwedd oes SA Radio Live yn Abertawe ... a chynnig arall ar radio cymunedol yn ei lle. Andy yn gohebu ar y stori ac yn ein hatgoffa ni o werth radio lleol gyda lleisiau o'r archif. Mwy am dranc SA Radio Live: https://radiotoday.co.uk/2025/06/sa-radio-live-closes-due-to-lack-of-income-rebrand-coming Llyfr am Sain Abertawe: https://carreg-gwalch.cymru/products/chwyldro-ym-myd-darlledu rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-21
19 min
Rhaglen Cymru
Newid Gorsaf - Rhagflas
Mewn blwyddyn gythryblus i radio Cymreig a Chymraeg, mae'na ragor o ddrama. Y tro hwn yn Abertawe. rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-19
01 min
Rhaglen Cymru
Pod am bods!!
Digidol nid darlledu'r tro hwn. Aled Jones, sylfeinydd ypod.cymru, yw'r gwestai. Mae Aled wedi hyrwyddo degau o bodlediadau Cymraeg - gan gynnwys y fenter hon. Mae ganddo brofiad a gwybodaeth eang am y byd digidol ac mae e'n meddwl bod gan y Gymraeg le i'w chwarae. Gwefan: https://ypod.cymru rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-14
31 min
Rhaglen Cymru
Digidol amdani
Rhagflas o bennod nesaf "Rhaglen Cymru" lle bydd Aled Jones, syfeinydd ypod.cymru, yn trafod yr heriau a'r cyfleodd a ddaw yn sgil yr oes digidol. rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-12
01 min
Rhaglen Cymru
Archif, achau ac adloniant
Trafod ITV Cymru gyda'i archifydd Owain Meredith. Y wefan newydd Clip Cymru am gynnig llu o deledu hanesyddol i wylwyr. Mae Andy ac Owain yn trafod y weithred o gofnodi a'r defnydd o archif. Ac mae Andy yn gofyn am glip bach arbennig o'i 'yrfa' cerddorol yn yr 80au !! https://www.library.wales/clip-cymru rhaglencymru@hotmail.com
2025-06-07
30 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas - Hanes ITV Cymru
Sgwrs gydag archifydd ITV Cymru Owain Meredith fydd pennod nesaf "Rhaglen Cymru". https://www.library.wales/clip-cymru
2025-06-05
01 min
Rhaglen Cymru
Môn FM
Y tro hwn sylw i radio cymudeol. Tomos Dobson yw cadeirydd Môn FM, gorsaf ddwyieithog yn y gogledd-orllewin. Menter wirfoddol wrth galon Ynys Môn ydy hi a mewn sgwrs gydag Andy mae Tomos yn sôn am hanes yr orsaf a'r cynlluniau amdani. rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-31
38 min
Rhaglen Cymru
Gwasanaethu'r Gymuned - Rhagflas
Blas o'r bennod nesaf lle bydd hanes radio lleol Ynys Môn dan y chwyddwydr. Môn FM https://www.monfm.co.uk
2025-05-29
01 min
Rhaglen Cymru
Olion yr ESC, UGC ar yr awyr
Un bennod, dwy bwnc. Y diweddara am helyntion pleidleisio Eurovision 2025 + hanes Urdd Gobaith Cymru ar y radio a theledu ar drothwy eisteddfod y mudiad. Dyma'r ddolen i Eurovision Spotlight: https://spotlight.ebu.ch/p/israeli-government-agency-paid-for Cân Mr Urdd gan Emyr Wyn (1976) rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-24
27 min
Rhaglen Cymru
Beth yw Rhaglen Cymru?
2025-05-21
01 min
Rhaglen Cymru
Eurovision 2025 - Be' ddigwyddodd ??!!
Pennod ar frys ar ôl noson ddramatig yn y Swistir wrth i'r 69fed cystadleuaeth Cân i Ewrop AKA yr Eurovision gael ei chynnal. 2025 ... Waw!! Elfed Morgan Morris yn pwyso a mesur noson ryfedd yn hanes y Grand Prix gydag Andy - y ddau ohonynt yn superfans. Tipyn i drafod a ddweud lleiaf !! Rhannwch y bennod gyda'ch ffrindiau a theulu'r Ewrodeledu. A rhannwch eich barn: rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-18
17 min
Rhaglen Cymru
Barod am Basel!
Ar drothwy'r Ewrodeledu AKA Eurovision, cyfle i glywed peth o hanes y rhaglen ers ei sefydlu ym 1956. Ac mae Andy yn trafod presenoldeb ddadleuol Israel yn y gystadleuaeth. Hefyd Vaughan Roderick, Siân Lloyd a Gareth Potter a'u perthynas â'r Concours Eurovision de la chanson. rhaglencymru@hotmail.com A chaneuon y diweddglo: 1965: LUX https://youtu.be/PyFnDf8PvmU?si=tZlBcx0eCWw6Chsg 1975: NL https://youtu.be/BPxuq4uQ0OU?si=A7xTDDJxt_mL1oYG 1985: NOR https://youtu.be/U94_AErNBZU?si=TDq8HpDxQRqbBHIU 1995: NO...
2025-05-15
30 min
Rhaglen Cymru
Ar Drothwy Eurovision 2025
Rhagflas o ail bennod Rhaglen Cymru am y Concours Eurovision de la chanson. rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-13
01 min
Rhaglen Cymru
Dathlu'r Eurovision
Andy yn sgwrsio gyda Elfed Morgan Morris am yr Eurovision a'i phwysigrwydd iddyn nhw. Superfans yw'r ddau ac maen nhw'n rhannu hanes A phwyso a mesur caneuon 2025. Dyma lif Spotify Elfed: https://open.spotify.com/artist/0XU21xSysWh38lOuI3W53j
2025-05-09
37 min
Rhaglen Cymru
Etholiad Oz - Dal i gyfrif
Andy'n eich atgoffa am bodlediadau arbennig ar #etholiadoz Y canlyniad: https://rhaglencymru.podbean.com/e/etholiad-oz-llafur-yn-ol/ Y cefndir: https://rhaglencymru.podbean.com/e/awstralia-ir-anoraciaid-1/ rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-08
01 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas yr Ewrodeledu
Fe fydd 'na ddwy bennod am y Eurovision - dyma ragflas o'r gyntaf.
2025-05-07
01 min
Rhaglen Cymru
Etholiad Oz - Llafur yn ôl
Noson syfrdanol yn etholiad Awstralia. Buddugoliaeth ysgubol i'r Blaid Lafur a'r noson waethaf yn ei hanes i'r Blaid Ryddfrydol. Wrth i Andy recordio am 2230 amser Canberra safodd y blaenoriaethau pleidleisio/y 2PP fel hyn: Llafur 56.27% Y Glymblaid 43.73% Llafur yn ennill ail dymor gyda gogwydd o +3%. rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-03
11 min
Rhaglen Cymru
Ar drothwy etholiad Oz
Wrth aros am ganlyniadau etholiad Awstralia dyma gyfle i ail-flasu sgwrs rhwng Andy a'r Athro Richard Wyn Jones. Bwriedir rhyddhau pennod bodlediad ar ganlyniadau Awstralia ar Fai'r 3ydd, rhywbryd yn ystod dydd Sadwrn Cymru!!! rhaglencymru@hotmail.com
2025-05-02
34 min
Rhaglen Cymru
Awstralia i'r Anoraciaid 1
Rhagolwg o'r etholiad cyffredinol a gynhelir ar Fai'r 3ydd yn Awstralia #etholiadoz. Andy'n cynnig tros olwg a thipyn bach o ddarogan. Pennod nesaf rhywbryd ar ôl y canlyniad!!! Cerddoriaeth: Trefniant Stephan Koncz o'r anthem genedlaethol answyddogol 'Waltzing Matilda' gyda Ray Chen a Cherddorfa Symffoni Sydney. https://youtu.be/K5dmBtNy1gk?si=RGiIb0xZZfccTH9I rhaglencymru@hotmail.com
2025-04-30
15 min
Rhaglen Cymru
Etholiad Oz Ar Y Gorwel
"Awstralia i'r Anoraciaid" - sylw i etholiad Oz ar lwyfan Rhaglen Cymru gan Andy Bell mewn dau bodlediad. Rhagolwg: Ebrill 30 Y canlyniad: Mai 3 Eisiau gwybod mwy? https://www.sbs.com.au/news/collection/federal-election-2025-explained #etholiadoz yw'r hashnod rhaglencymru@hotmail.com
2025-04-27
02 min
Rhaglen Cymru
Straeon hen a newydd
Sgwrs yng nghwmni Gwenfair Griffith o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd. (https://profiles.cardiff.ac.uk/cy/staff/griffithg). https://www.cardiff.ac.uk/cy/journalism-media-and-culture Sut mae'r genhedlaeth nesaf o ohebwyr yn siapio a sut mae profiad Gwenfair o weithio tramor wedi dylanwadu ar ei chrefft hithau fel newyddiadurwraig. Mae hi hefyd wedi holi sawl riportar am eu profiadau ar gyfer cyfres radio a llyfr "Fy Stori Fawr" - bu Andy yn yr ail gyfres! https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781800993785/fy-stori-fawr Ac mae'na newyddion hefyd am bennodau s...
2025-04-26
26 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Gwenfair Griffith
Yn y bennod nesaf ceir sgwrs am natur newyddiaduraeth a'r ffyrdd mae'n newid. Gwenfair Griffith o JOMEC, Prifysgol Caerdydd, yw'r gwestai. https://www.cardiff.ac.uk/cy/journalism-media-and-culture
2025-04-24
01 min
Rhaglen Cymru
Etholiad Oz - Podlediadau Arbennig
"Awstralia a'r Anoraciaid" - sylw i etholiad Oz ar lwyfan Rhaglen Cymru gan Andy Bell mewn dau bodlediad. Rhagolwg: Ebrill 30 Y canlyniad: Mai 3 Eisiau gwybod mwy? https://www.sbs.com.au/news/collection/federal-election-2025-explained #etholiadoz yw'r hashnod rhaglencymru@hotmail.com
2025-04-21
01 min
Rhaglen Cymru
Tro Pedol BBC Sounds?
Pennod gyda'r diweddara am helynt BBC Sounds - arwyddion gobeithiol - a newyddion am fenter newydd i'r podlediad. Hefyd, Aran Jones o https://www.saysomethingin.com/cy yn trafod ffyrdd o ddysgu ieithoedd gan ystyried effeithiolrwydd rhaglenni radio a theleu megis 'Croeso Christine' a 'Catchphrase'. Mae Andy yn sôn am bwysigrwydd un rhaglen hanner canrif a mwy yn ôl a'i dylanwad ar ei daith o'r Gymraeg. rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: 'Kylie Medley' o gyngherdd gan Gôr Hoyw a Lesbiaidd Canberra (2018) ... gydag Andy yn canu tenor !!!
2025-04-18
36 min
Rhaglen Cymru
Gwersi o ddysgu
Rhagflas o bodlediad sy'm ymwneud â dysgu ieithoedd. Hanes y rhaglenni dysgu ar radio a theledu dros y blynyddoed a'u heffeithiolrwydd + Aran Jones o 'Say Something In' yn trafod y weithred o ddysgu iaith a tharged y miliwn o siaradwyr Cymraeg.
2025-04-17
02 min
Rhaglen Cymru
AW2 - 1968 & Beti George
Mwy o 'ail-wampio' tra mae Andy yn jolihoetian yn Ewrop. Y tro hwn, podlediad dogfen byr am 1968 a blas o'r sgwrs hir a gafwyd gyda Beti George. Dyma'r pennodau gwreiddiol: BG #1 https://rhaglencymru.podbean.com/e/beti-george/ BG #2 https://rhaglencymru.podbean.com/e/beti-george-2/ rhaglencymru@hotmail.com
2025-04-12
25 min
Rhaglen Cymru
AW1 - S4C
Y syniad o 'ail-wampio' yn cael ei ddathlu mewn podlediad a chân. Ail-flasu peth o ddwy sgwrs parthed Sianel Pedwar Cymru. Dyma'r sgyrsiau'n gyflawn: Dr.Elain Price https://rhaglencymru.podbean.com/e/dewch-ar-ddec-s4c/ Llŷr Morus https://rhaglencymru.podbean.com/e/cadeirydd-newydd-tac/ rhaglencymru@hotmail.com
2025-04-05
24 min
Rhaglen Cymru
Jon Gower - Ail Ran
Yr awdur, darlledwr a chyfarwyddwr Nation Cymru Jon Gower yn synfyfyrio am y cyfryngau a'r ffordd mae dynoliaeth yn cyfathrebu. https://www.jongower.cymru Nation Cymru: www.nation.cymru rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-29
26 min
Rhaglen Cymru
Beth yw Rhaglen Cymru?
rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-25
01 min
Rhaglen Cymru
Jon Gower - Rhan Un
Yr awdur, darlledwr a chyfarwyddwr Nation Cymru Jon Gower yn synfyfyrio am y cyfryngau a'r ffordd mae dynoliaeth yn cyfathrebu. https://www.jongower.cymru https://www.ylolfa.com/awduron/913/jon-gower Nation Cymru: www.nation.cymru Cerddoriaeth tua'r dechreu - campwaith gan yr Awstraliwr Percy Grainger yn seiliedig ar ganu gwerin Daneg: https://youtu.be/IFct1oGVRc8?si=vmWIcb7GFqpI50BE rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-22
26 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Jon Gower
Cyfle i sefyll yn ôl ar ôl cyfnod cythryblus ym myd darlledu Cymraeg a synfyfyrio am gyflwr a dyfodol y byd cyfryngol. Jon Gower fydd gwestai nesaf Andy. www.jongower.cymru rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-20
01 min
Rhaglen Cymru
Pennod Fer - BBC Sounds a'r Dysgwyr
Aran Jones o https://www.saysomethingin.com/cy yn trafod oblygiadau colli BBC Sounds i'r sawl sy'n dysgu Cymraeg ar draws y byd. Hefyd, ambell i ddiweddariad ar y mater. rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-17
15 min
Rhaglen Cymru
Yr Ynys Werdd - Diweddglo?
Andy yn dychwelyd i ddatgelu mwy am yr hanes rhyfedd o ddarlledu Cymraeg a Chymreig o Ddulyn yn y 1920au. Ymchwil o'r newydd ac hanesion difyr o'r gorffennol. Dyma'r dolenni i'r ddwy bennod arall. Ynys Werdd 1 https://rhaglencymru.podbean.com/e/2rn-dulyn-ar-gymraeg/ Ynys Werdd 2 https://rhaglencymru.podbean.com/e/darllediad-dulyn-y-ffeithiau/ rhaglencymru@hotmail.com
2025-03-15
27 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas - Ynys Werdd 3
Mwy o ymchwilio i'r rhaglenni o Ddulyn a anelwyd at Gymru ganrif yn ôl.
2025-03-13
01 min
Rhaglen Cymru
BBC Sounds - Ymatebion ac addewidion
Mewn pennod ar-frys arall, mae Andy yn darganfod y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i ddod â BBC Radio Cymru i wrandawyr rhyngwladol i ben. Hefyd, mae'n cael gwybod bod mwy o bodlediadau Cymraeg ar y ffordd ... ac yn cynnig bach o feirnidaeth ar gyfathrebu corfforaethol canolog y BBC. Am sylwadau a syniadau: rhaglencymru@hotmail.com Erthygl BBC Cymru Fyw: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/c0l1nd2zg53o Erthygl Nation Cymru: https://nation.cymru/opinion/why-the-bbc-is-cutting-off-wales-and-the-welsh-language-to-the-wider-world Eisiau ymateb i'r cynlluniau ???? Y BBC : https://www.bbc...
2025-03-09
13 min
Rhaglen Cymru
Twrw BBC Sounds
Mae’n wythnos ers i’r newyddion dorri am derfyn Radio Cymru trwy BBC Sounds ... ac mae’r diaspora’n siomedig a ddweud y lleiaf. Y diweddara gan Andy a thipyn o ymateb A chyd-destun. A llwyth o ddolenni: Erthygl BBC Cymru Fyw: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/c0l1nd2zg53o Erthygl Nation Cymru: https://nation.cymru/opinion/why-the-bbc-is-cutting-off-wales-and-the-welsh-language-to-the-wider-world Eisiau ymateb???? Y BBC : https://www.bbc.co.uk/contact/complaints (Mae’na fotwm Cymraeg i’w ddefnyddio) Bwrdd y BBC https://www.bbc.com/about...
2025-03-07
30 min
Rhaglen Cymru
DIWEDDARIAD: Helynt BBC Sounds
Diweddariad i'r bennod ar frys am gyhoeddiad gan y BBC sy'n golygu na fydd gwasnaethau fel Radio Cymru ar gael yn fyd-eang cyn bo hir trwy BBC Sounds. Mae'r fersiwn newydd yn cynnwys sylwadau gan y Gorfforaeth. Hefyd fe geir ymateb sydyn gan Andy yn Canberra ac Aled Roberts ym Melbourne i'r newyddion. https://www.bbc.com/mediacentre/bbcstudios/2005/bbc-studios-to-make-podcasts-available-to-international-audiences-via-bbc-dot-com-and-the-bbc-app John Roberts sy'n canu anthem y 'Cymry Ar Wasgar' ers talwm "Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl". Unrhyw sylwadau??? rhaglencymru@hotmail.com Cymanfa Ganu Egwlys Gymraeg Melbourne h...
2025-03-04
14 min
Rhaglen Cymru
Taw ar Radio Cymru byd-eang?
Pennod ar frys wedi cyhoeddiad gan y BBC na fydd gwasnaethau fel Radio Cymru ar gael yn fyd-eang cyn bo hir. https://www.bbc.com/mediacentre/bbcstudios/2005/bbc-studios-to-make-podcasts-available-to-international-audiences-via-bbc-dot-com-and-the-bbc-app Ymateb sydyn gan Andy ac Aled Roberts ym Melbourne lle cynhalwyd Cymanfa Ganu heddiw (Mawrth1af) gyda 800 yn bresennol. Mwy am y stori yn ystod y dyddiau nesaf. Unrhyw sylwadau??? rhaglencymru@hotmail.com Cymanfa Ganu Egwlys Gymraeg Melbourne https://www.youtube.com/live/In-Aq4umn8E?si=hXdN72NYO-2cbM9j
2025-03-01
14 min
Rhaglen Cymru
Dydd Gŵyl Dewi Cyntaf y Radio
Hanes 1923 gyda LLAWER o gyd-destun. Sut dathlwyd Dewi ar y di-wifr??? Mae Andy wedi bod yn yr archifau!!! Os am fwy ... Adroddiad Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd (1927): https://www.education-uk.org/documents/wales1927 - fersiwn Saesneg Mwy am Apêl Merched dros Heddwch: https://www.wcia.org.uk/cy/treftadaeth-heddwch/deiseb-menywod https://www.wcia.org.uk/cy/academi-heddwch-cymru
2025-02-28
27 min
Rhaglen Cymru
Dathlu Dewi - Rhagflas
Sut dathlwyd y nawddsant ym mlwyddyn gyntaf yr oes radio???? rhaglencymru@hotmail.com
2025-02-26
01 min
Rhaglen Cymru
Diwedd Radio Masnachol Cymraeg
Mae'r podlediad yn nodi ddiwrnod olaf Capital Cymru ac yn trafod dylanwad a gwaddol radio masnachol yn y Gymraeg dros hanner canrif. Oes gobaith am blwraliaeth yn narlledu Cymraeg? Beth am y busnes datganoli radio a'r teledu? O Sain Abertawe ym 1974 i Capital Cymru yn 2025, mae'r cyfrwng arbennig hwn wedi diddanu a gwasanaethu. Dyma gyfle i'w ddathlu a meddwl am y dyfodol. 00:00 Dechreu a diwedd radio lleol Cymraeg - bach o hanes 04:40 Diwrnod olaf Capital Cymru 10:15 Sgwrs gyda Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg cyntaf Sain A...
2025-02-22
51 min
Rhaglen Cymru
Ffarwel Capital Cymru
Tamaid i aros pryd ... y geiriau Cymraeg olaf ar donfeddi radio masnachol Cymru. Fe fydd 'na pennod estyniedig o'r podlediad ar gael bore fory. /newyddion.s4c.cymru/article/26673
2025-02-21
01 min
Rhaglen Cymru
Wythnos ddu i radio Cymraeg
Rhagflas o'r bennod nesaf rhaglencymru@hotmail.com
2025-02-20
02 min
Rhaglen Cymru
Abertawe ac Andy
Ffurf wahanol o bodlediad y tro hwn. Ar ôl mis o rannu'r newyddion diweddara am dranc radio masnachol Cymraeg mae Andy Bell yn mynd 'nôl i'w orffennol. Daeth atgofion llu wrth iddo weld diwedd canolfan y BBC yn Abertawe - ac yn y bennod mae'n adrodd peth hanes o'i hanes yn 32 Heol Alecsandra.
2025-02-15
20 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas
Yn y bennod nesaf o Rhaglen Cymru mae Andy yn crwydro ar hyd llwybr arbennig o ran ei yrfa.
2025-02-13
01 min
Rhaglen Cymru
Abertawe ar yr awyr
Roedd cau drysau 32 Heol Alecsandra Abertawe yn ddiwedd cyfnod yn narlledu Cymreig a Chymraeg. Lyn T. Jones yw gŵr gwadd y podlediad ac mae e'n rhannu hanes y lle ac ei farn am safle Abertawe ar dirwedd darlledu Cymreig. Mae gan Lyn hefyd bethe i'w dweud am cyflwr radio a theledu yn y Gymraeg yn sgîl y bwriad i gau Capital Cymru. Rhagor am Abertawe a darlledu gan Alun Thomas. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cwydgyn4x07o Delweddau o'r adeilad: https://coflein.gov.uk/en/site/545063 A...
2025-02-08
44 min
Rhaglen Cymru
Canrif Abertawe Rhagflas
Lyn T. Jones fydd yn trafod hanes datblygu darlledu yn Abertawe a'r ganolfan arbennig y BBC sydd newydd gau - 32 Heol Alecsandra. Bu Lyn ac Andy yn gyd-weithwyr yno yr 80au.
2025-02-06
02 min
Rhaglen Cymru
Alun Lenny a mwy ...
Gohebydd wrth reddf oedd Alun Lenny cyn newid cyfeiriad ei fywyd. Sgwrs am oes newyddiadura a fu rhyngddo fe ac Andy ... ynghyd âg ambell i bwnc arall. Dyma fwy am Alun: https://www.ylolfa.com/awduron/1049/alun-lenny Hefyd, mwy o Senedd Cymru am sefyllfa Capital Cymru a radio masnachol Cymraeg. 01:00 Sgwrs gydag Alun Lenny 30:45 OFCOM yn ymateb i GYIG 34:10 Capital yn y Senedd ... rhagor o gwestiynau rhaglencymru@hotmail.com
2025-02-01
43 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Alun Lenny
Cyn-ohebydd, cynghorydd sir a phregethwr - Alun Lenny yw gwestai nesaf y podlediad. Hefyd, unrhyw newyddion ffres am sefyllfa Capital Cymru.
2025-01-30
01 min
Rhaglen Cymru
Global a'r Gymraeg
Pennod hir arall gyda helynt Capital Cymru a'i sgîl-effeithiau'n denu sylw. Mae'na ymweliadau i Senedd Cymru, sgwrs gyda Carl Morris (@carlmorris) o Gymdeithas yr Iaith a thipyn o Andy'n dweud ei ddweud!!! Mwy am GYIG a cholli'r Gymraeg ar Capital Cymru https://cymdeithas.cymru/newyddion/global TREFN Y POD 0:00 Dechreu'r bennod 01:00 Y diweddara am Capital Cymru 03:00 Newyddion o'r senedd #1 ... a bach o gyd-destun ;-) 07:00 Gohebiaeth rhwng CYIG a Global (perchnogion Capital Cymru) 12:00 Sgwrs gyda Carl Morris 40:40 Tri pheth pwysig gan A...
2025-01-24
51 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas - CYIG a'r byd digidol
Wrth symud ymlaen o'r newyddion am gau Capital Cymru, sut siâp fydd ar y cyfryngau Cymraeg yn gyffredinol? Ai canari yn y gawell yw Capital? Rhagflas o'r bennod nesaf
2025-01-23
01 min
Rhaglen Cymru
Y her ddigidol - Rhagflas
Wrth symud ymlaen o'r newyddion am gau Capital Cymru, sut siâp fydd ar y cyfryngau Cymraeg yn gyffredinol? Ai canari yn y gawell yw Capital? Rhagflas o'r bennod nesaf
2025-01-21
02 min
Rhaglen Cymru
Capital Cymru - Pod Arbennig
Mae Rhaglen Cymru yn mynd ar drywydd y penderfyniad i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben erbyn diwedd mis Chwefror. Fe fydd un o gadarnleoedd y Gymraeg yn colli gorsaf radio leol ar ôl cwarter canrif o ddarlledu o dan wahanol enwau. Pam y penderfyniad ‘nawr? Beth yw'r sgîl-effeithiau? Ai datganoli darlledu yw'r ateb mewn oes o heriau ariannol a thechnolegol? Fe gewch glywed gan gohebydd BBC David Grundy, y "Welsh Whisperer" a Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith a chyn-ohebydd y BBC, sydd bellach yn gynghorydd sir, Al...
2025-01-18
43 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas o bennod arbennig
Pennod "ar frys" gyntaf Rhaglen Cymru ... ac un hirach nag arfer hefyd!! Dadansoddi diwedd rhaglenni Cymraeg ar radio masnachol Capital Cymru - dyma ragflas ohoni. Sut torrwyd y stori: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o
2025-01-17
01 min
Rhaglen Cymru
Creisis Capital Cymru - Rhagflas
Gyda'r newyddion o ddileu rhaglenni Cymraeg Capital Cymru mae Andy am fynd mhellach na'r ffeithiau moel mewn pennod arbennig ... fe fydd'na un arall wythnos nesaf hefyd. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o
2025-01-15
02 min
Rhaglen Cymru
Newyddion yn torri a sgwrs Gareth Blainey
Trafod y grefft o sylwebu ar chwaraeon, magwraeth arbennig ym maestrefi Llundain a chyfwelid rhyfedd - dyma rai o bynciau a drafodir yn y sgwrs rhwng Andy Bell a Gareth Blainey Hefyd, ar ddechreu'r bennod mae AB yn sôn am y newyddion tor-calonnus am ddiwedd rhaglenni Cymraeg Capital. Darllenwch am yrfa Gareth fan hyn: https://www.bbc.com/cymrufyw/55617928 A pheidiwch âg anghofio ei hunangofiant: https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781848517547/o-wembley-i-wembley-straeon-sylwebydd Cerddoriaeth gloi: 'Sporting Occasion' (Thema diwedd darllediad Wimbledon yn y ganrif ddiwethaf!)
2025-01-10
40 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Byd y Bêl
Y sylwebydd chwaraeon Gareth Blainey fydd gwestai nesaf Andy Bell. Fe gafodd y pâr eu magwraeth drws nesaf i'w gilydd: y naill yng nghysgod tyrau stadiwm Wembley, y llall nid nepell o ysgol fonedd Harrow.
2025-01-09
01 min
Rhaglen Cymru
Karl Davies
Un, fel Andy Bell, sydd wedi dehongli newyddion o bell ar gyfer cynulleidfa Gymraeg dros y blynyddoedd yw Karl. Mae ganddo brofiad hir ym maes darlledu fel gweithiwr, gweinyddwr a defnyddiwr. Ac mae ei amser yn trigo yn Tseina wedi newid ei farn am y cyfryngau mewn sawl ffordd. Sgwrs ddi-flewyn ar dafod a geir wrth lansio ail flwyddyn y podlediad. Cerddoriaeth gloi: Cerddoriaeth wedi cwymp y llenni o "Into The Woods".
2025-01-04
40 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Pennod Gyntaf 2025
Karl Davies yn trafod ei brofiad o fyw yn Tseina a'i farn am gyflwr darlledu cyhoeddus nes adre.
2025-01-02
02 min
Rhaglen Cymru
Newyddion Pump o'r newydd
Cyfle arall i glywed stori am sefydlu'r gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf. (Mae Andy wedi gweithio trwy hud a lledrith digidol i drwsio ansawdd y sain o'r bennod wreiddol)
2024-12-28
25 min
Rhaglen Cymru
Nadolig Llawen
Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau. Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C? O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes. Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Goon Pod" lle mae Andy yn westai'n trafod "A Christmas Carol". https://podcasts.apple.com/au/podcast/goon-pod/id1569929507
2024-12-24
21 min
Rhaglen Cymru
Cyfarchion Y Tymor
Rhagflas o'r bennod nesaf
2024-12-23
01 min
Rhaglen Cymru
Yr Athro RWJ
Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod hynt a helynt nosweithiau etholiadol mewn stiwdios teledu a llawer mwy. Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru - https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre Cerddoriaeth gloi: Chrim-Flow gan Mr Phormula Wrth ddathlu'r Nadolig mae'na gyfle i glywed Andy ar bodlediad "Goon Pod" yn sgyrsio gyda Tyler Adams am "A Christmas Carol" gan Spike Milligan. https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-christmas-carol/id1569929507?i=1000680791861
2024-12-21
35 min
Rhaglen Cymru
Richard Wyn Jones Rhagflas
Arbennigwr gwleidyddol a darlledwr o fri. Yr Athro Richard Wyn Jones yw gwestai nesaf y podlediad. Fe yw pennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre
2024-12-19
01 min
Rhaglen Cymru
Darllediad Dulyn - Y ffeithiau!
Sylw manwl i ddarllediad Cymreig o 2RN Dulyn a anelwyd at y Cymry ym 1927. Adloniant A gweithred i godi cywilydd ar y BBC!! Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell - mae hi wedi dod o hyd i lawer o wybodaeth am y darllediad arbennig hwn a'i berfformwyr: Y Brodyr Francis a Gwladys Williams. https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cantorion-cyntaf-diwylliant-cymraeg Mae'r podlediad aml-ran yn trafod tystiolaeth ac ymchwil newydd sy'n codi mwy nag un cwestiwn! Cerddoriaeth gloi: "Hall's Pictorial Weekly", Teledu RTÉ.
2024-12-13
38 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Dirgelwch Dulyn 2
Mwy byth o hanes y darlledu Cymreig a Chymraeg o Iwerddon yn y 1920au. Mae'r rhan gyntaf fan hyn: https://www.podbean.com/eas/pb-8ni3u-175a59f
2024-12-12
01 min
Rhaglen Cymru
Cyfle i ennill llyfr
Mae gan "Rhaglen Cymru" gopi sbâr o 'Chwyldro ym myd darlledu' - llyfr am orsaf radio annibynnol gyntaf Cymru a olygwyd gan Siân Sutton. A hoffech ei gael e??!!! Y cyfan sydd rhaid i chi wenud yw danfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol: Chwiliwch am "Rhaglen Cymru" ar yr Awyr Las (BlueSky), Facebook a x/Twitter. Neu ddanfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com https://carreg-gwalch.cymru/products/chwyldro-ym-myd-darlledu
2024-12-09
02 min
Rhaglen Cymru
2RN Dulyn a'r Gymraeg
Rhan gyntaf bennod arbennig sy'n edrych ar ddarllediad Cymraeg a Chymreig hanesyddol ym 1927. O stiwdio yn Nulyn ddaeth y rhaglen, ar adeg pan nad oedd y BBC - oedd newydd droi'n gorfforaeth gyhoeddus - yn gefnogol i roi lle ar y "diwifr" i'r Gymraeg. Mae'na ddadlau am natur y rhaglen OND heb os roedd hi'n bwysig yn natblygiad darlledu yn yr iaith. Cerddoriaeth gloi: Ó Domhnaill Abú - Seindorf Lluoedd Arfog Iwerddon Os oes gennych unryhw sylwadau neu syniadau am "Rhaglen Cymru" danfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com Mwy am han...
2024-12-07
27 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Dirgelwch Dulyn
Mae rhai'n mynnu ddaeth yr rhaglen radio go iawn cyntaf yn y Gymraeg o ... Ddulyn. Podlediad dwy ran sydd ar y gweill i adrodd stori ryfedd AC mae Andy Bell wedi dod o hyd i wybodaeth newydd sy'n gweud hanes niwlog yn fwy niwlog byth!!! Y bennod gyntaf yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr y 7fed.
2024-12-05
01 min
Rhaglen Cymru
Cadeirydd newydd TAC
Llyr Morus sy'n siarad âg Andy am ei waith fel cynhyrchydd teledu a'i swydd newydd fel Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru. Mae'n sôn am fwrlwm sector gynhyrchu sydd wedi dod â gwaith i rannau helaeth o Gymru, ei angerdd dros fynd â'r Gymraeg dros y byd a phwysigrwydd hybu cenhedlaeth newydd o bobl ddarlledu. https://www.tac.cymru/newyddion/penodi-llyr-morus-yn-gadeirydd-newydd-tac Cerddoriaeth gloi: "Tico's Tune", sef arwyddgân sioe Gay Byrne ar RTÉ.
2024-11-30
29 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Yr Annibynnwyr
Pennod ddiweddara'r podlediad fydd yn clywed am y sector annibynnol a'i phwysigrwydd i iechyd y diwidiant darlledu a thu hwnt. https://www.tac.cymru/hafan
2024-11-28
01 min
Rhaglen Cymru
Iaith anffodus?
A ydy'r Gymraeg yn ddoniol? Yr awdur Mike Parker yn trafod agweddau tuag ati gan raglenni comedi Seisnig ar y radio a theledu. Fe gewch glywed enghreifftiau o "ffraethineb" dros y blynyddoedd hefyd!! Mike yw awdur "Neighbours from hell?" a "All the Wide Border". https://www.ylolfa.com/products/9780862436117/neighbours-from-hell https://harpercollins.co.uk/products/all-the-wide-border-wales- england-and-the-places-between-mike-parker?variant=40267801690190 Y gerddoriaeth gloi: "Glitter & Be Gay" - sioe Dick Cavett, cerddorfa Bobby Rosengarden.
2024-11-23
39 min
Rhaglen Cymru
A glywsoch chi hon?
Rhagflas o drafodaeth am hiwmor Seisnig a'r iaith Gymraeg
2024-11-21
02 min
Rhaglen Cymru
Dewch ar ddec S4C
Dr Elain Price, awdur y llyfr "Nid Sianel Gyffredin Mohoni" yn olrhain hanes ffurfiannol Sianel Pedwar Cymru. Yr arbrawf darlledu sydd bellach yn sefydliad. https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni Cerddoriath gloi: Arwyddgân "The Newsroom" - teledu CBC 1996–2005
2024-11-16
37 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Dechreuad S4C
Mae S4C yn 42 oed ym 2024. Sefydlwyd y sianel wedi blynyddoedd o ymgyrchu uniongyrchol a gwleidyddol. Dr Elain Price yw gwestai Andy Bell ar bennod nesaf y gyfres, hi sgwennodd Y llyfr am ddyddiau cynnar y sianel!!
2024-11-14
01 min
Rhaglen Cymru
Tros Olwg Y Podlediad
I'r sawl sydd heb wrando o'r cychwyn ;-) Cerddoriaeth: 'Hall's Pictorial Weekly' - teledu RTE 1971-80
2024-11-11
01 min
Rhaglen Cymru
Beti George 2
Ail ran sgwrs Andy Bell gyda Beti George. Rhaglenni a thipyn o bendroni am ddarlledu.
2024-11-09
21 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Beti George 2
Newyddion 7, Tocyn Wythnos a Beti a'i Phobl dan sylw
2024-11-07
01 min
Rhaglen Cymru
Beti George
Dyma ran gyntaf sgwrs arbennig rhwng Andy Bell a'i westai Beti George. Mae'r ddau'n rhannu'r un profiad gwaith - gohebu'n Gymraeg o stiwdio'r BBC yn Abertawe'n gynnar yn eu gyrfaoedd! Criced, streiciau a "vox pops" hefyd yn cael sylw. Cereddoriaeth: Perpetuum mobile, op. 257 (Johann Strauss II)
2024-11-02
26 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Beti George
Blas o rhan gyntaf sgwrs arbennig "Andy a'i Bobol" !!!
2024-10-31
01 min
Rhaglen Cymru
Eurof Williams
Mae Eurof Williams wedi bod yng nghanol y canu cyfoes yng Nghymru ers degawdau - yn gynhyrchydd rhaglenni radio a theledu A rheolwr bandiau. Mae e hefyd wedi ennill BAFTA am ffilm am Elvis ac wedi gweithio ym mhob twll a chornel o ddarlledu Cymraeg a Chymreig. Mewn sgwrs gydag Andy Bell, mae Eurof yn trafod y dylanwadau a'r datblygiadau yn ystod ei yrfa. A'r gair mawr yw: 'creu'. Cerddoriaeth gloi: "Radio Cymru" - Y Trwynau Coch
2024-10-26
31 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Eurof Williams
Mae Eurof yn gynhyrchydd o fri, sydd wedi bod wrthi ers y saithdegau. Roedd e yng nghanol cyffro pop Cymraeg fel darlledwr A rheolwr bandiau. Fe fydd y bennod hon yn cael ei rhyddhau ar Hydref y 26ain.
2024-10-24
01 min
Rhaglen Cymru
Bwletin Cymraeg dyddiol cyntaf
Pod dog 'dy hon o ran pennod! Sef 'podlediad dogfen'. Andy Bell yn adrodd hanes y gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf - y bwletin am bump adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae AB yn gobeithio cynhyrchu mwy o bennodau fel hyn yn ystod y gyfres. Oes genncyh chi awgrymiadau???? Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com
2024-10-19
25 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas Newyddion Pump
Fe fydd "Rhaglen Cymru" ychydig yn wahanol tro nesaf ... pod dog fydd e!!! Mae'r rhagflas yn datgelu mwy ;-)
2024-10-17
02 min
Rhaglen Cymru
Penblwydd Hapus Pobol y Cwm
Cyfle i ddathlu rhaglen ddylanwadol a phoblogaidd, a hithau'n 50! Atgofion auraidd. Roedd y pod bach hwn yn rhan o ail bennod "Rhaglen Cymru" gyda'r Athro Jamie Medhurst - https://www.podbean.com/eas/pb-z99ja-16d6657 Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com X/Twitter: @rhaglencymru FB @rhaglen.cymru
2024-10-16
05 min
Rhaglen Cymru
Rheoli'r llawr, cadw'r hanes
Sgwrs rhwng Andy Bell a Richard Wyn Jones, un o gymeriadau lliwgar sy'n gweithio y tu ôl i'r camerau. Rheolwr llawr yw e ac mae e wedi gweithio ar lu o gynhyrchiadau yng Nghymru a thu hwnt. Mae Richard hefyd yn hoff o'i hanes darlledu - jyst fel Andy!! Dyma rai o'i erthyglau: Tyfu lan gydag ITV https://transdiffusion.org/2005/09/03/memories Diwedd TWW https://transdiffusion.org/2002/01/01/exit Gyrfa Robin Jones https://transdiffusion.org/2006/06/03/robin_jones
2024-10-12
24 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas o'r bennod nesaf
Cyfle i glywed am fywyd y tu ôl i'r camerau yng nghwmni Richard Wyn Jones - rheolwr llawr, sydd wedi teithio y byd diolch i deledu. Y bennod gyflawn yn cael ei rhyddhau ar Hydref y 12fed.
2024-10-10
01 min
Rhaglen Cymru
Chwyldro rhwng Tre-gŵyr a Gorseinon
Mis Medi 2024 yw hanner canmlwyddiant sefydlu Sain Abertawe - gorsaf radio fasnachol gyntaf Cymru. I nodi'r achlysur mae Siân Sutton wedi golygu cyfrol arbennig - "Chwyldro ym myd darlledu" (Gwasg Carreg Gwalch - https://carreg-gwalch.cymru) Roedd Siân yn aelod o staff Sain Abertawe rhwng 1979 a 1982. Wrth iddi adael daeth cyw-ddarlledwr o'r enw Andy Bell i weithio yno. Yn y bennod hon mae Siân ac Andy'n rhannu atgofion ac yn ystyried pwysigrwydd Sain Abertawe - i ddarlledu'n gyffedinol AC i'w gyrfaoedd hwythau. Cofiwch cysylltu: rhaglencymru"hotmail.com
2024-10-05
37 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas o'r bennod nesaf
Yr ail bodlediad am Sain Abertawe a sefydlwyd fel yr orsaf radio leol gyntaf yng Nghymru hanner canrif yn ol. Y bennod yn llawn ar Hydref y 5ed!!
2024-10-03
01 min
Rhaglen Cymru
Sain Abertawe yn 50
Pod fach ac amserol sy'n dod o'r galon. Andy Bell yn sôn am hanes sefydlu radio lleol annibynnol yng Ngymru a'r DU ar achlysur penblwydd aur gorsaf radio fasnachol gyntaf Cymru - Sain Abertawe. Bu Andy yn gweithio yn stafell newyddion yr orsaf am dair mlynedd ac yn gyflwynydd ar y rhaglen chwaraeon wythnosol "Bell Ar Y Bêl". Llyfr Siân Sutton am Sain Abertawe yw "Chwyldro ym myd darlledu" (Gwasg Carreg Gwalch) Broliant y Cyngor Llyfrau: Yn 1974 roedd 'chwyldro yn yr awyr' yn ardal Abertawe wrth i o...
2024-09-30
07 min
Rhaglen Cymru
Y dyn o'r Barri a blwyddyn i'w chofio
Tim Hartley (@timhhartley) sy'n dweud ei ddweud am bethe darlledu'r tro hwn. Mae fe ac Andy'n edrych 'nôl i'w dyddiau yn stiwdios y BBC yn Abertawe ... a'u hoffter o beiriannau cwis! Hefyd, mae'r peiriant amser yn mynd â ni i flwyddyn gythryblus a thyngedfennol ...
2024-09-28
37 min
Rhaglen Cymru
Rhagflas o'r bennod nesaf
Y darlledwr, awdur, ynad a chefnogwr Dinas Caerdydd Tim Hartley (@timhhartley) fydd gwestai nesaf Andy Bell. Hefyd, mae AB yn tanio'r peiriant amser i flwyddyn arbennig iawn.
2024-09-26
01 min